Cost of Living Support Icon

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

Hysbysiad o Gyfarfod    Y CYNGOR

 

Dyddiad ac amser         DYDD LLUN, 9 MAWRTH, 2026 AM 6.05 P.M.

y Cyfarfod             

 

Lleoliad                        CYFARFOD HYBRID

 

GOFYNNIR I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD.

BYDD EILIAD O FYFYRIO AM 6.00 P.M.

 

Agenda

 

RHAN I

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.         Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad y Cyngor.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

 

3.         Cymeradwyo Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar:

            (i)        1 Rhagfyr, 2025;

            (ii)       12 Ionawr, 2026 Cyfarfod Arbennig am 6.00pm;

            (iii)      12 Ionawr, 2026 Cyfarfod Arbennig am 6.15pm;

            (iv)      12 Ionawr, 2026 Cyfarfod Arbennig am 6.30pm;

            (v) ​​      12 Ionawr, 2026 Cyfarfod Arbennig am 6.45pm.

 

4.         Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Prif Weithredwr a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.

 

5.         Cwestiynau gan y Cyhoedd –    

            Mae 1 cwestiwn wedi dod i law.

 

Adroddiad y Swyddog Monitro / Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd –

6.         Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Adroddiadau'r Prif Weithredwr –

7.        Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru – Argymhellion Terfynol Adolygiad Trefniadau Etholiadol Bro Morganwg.

8.        Ymgynghori â Thalwyr Trethi Annomestig.

 

9.      Ystyried y canlyniad(au) canlynol gan y Weithrediaeth o ran Fframwaith Polisi a Chyllideb y Cyngor –   

 

Item

Date of

Meeting

Minute No.

(a)      Cyllideb Ddrafft 2026/27 a Chynllun Ariannol Tymor Canolig 2026/27 i 2030/31 (2) (3) (4)

26 Chwefror, 2026

C214

(b)      Cyllideb 2026/27 a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2026/27 i 2030/31 Adroddiad Atodol

26 Chwefror, 2026

C214

(c)       Strategaeth Gyfalaf 2026/27 a Chynigion Rhaglen Gyfalaf Terfynol 2026/27 i 2030/31 (1-4)

26 Chwefror, 2026

C215

(d)      Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a Buddsoddi 2026/27 a Diweddariad ar gyfer 2025/26 (3) (5) (6)

26 Chwefror, 2026

C216

(e)      Argymhellion Terfynol Adolygiad Trefniadau Etholiadol Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru – Bro Morganwg (2) (3)

26 Chwefror, 2026

C218

(f)       Llwybr Teithio Egnïol Biglis i Ddinas Powys (9)

5 Chwefror, 2026

C200

(g)      Polisi Cyflog 2026/27 (2)

8 Ionawr, 2026

C180

 

O.N.    Mae'r adroddiad sy'n destun y cyfeiriad mewn perthynas ag Eitem Agenda 9(a) – (g) uchod eisoes wedi'i ddosbarthu i'r Aelodau gydag agenda'r Cabinet ar gyfer y dyddiad a nodir uchod.

 

***Mae rhagor o gopïau ar gael gan Swyddfa Gwasanaethau Democrataidd yn ôl y gofyn**. 

 

10.      Gosod y Dreth Gyngor 2026/27.

 

11.      Enwebu Maer Etholedig a Dirprwy Faer Etholedig ar gyfer y Flwyddyn Ddinesig 2026/27.

 

12.      I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 15.14 y Cyfansoddiad.

 

Item

Date of

Meeting

Minute No.

(a)          Adolygiad o Ffioedd Parcio Ceir yn y Gaeaf ym Meysydd Parcio Llwybr Clogwyn Penarth, Cold Knap a Bron-y-Môr (Y Barri) (3)

4 Rhagfyr, 2025

C154

(b)          Cynigion Cyllideb Cyfrif Refeniw Tai Terfynol (HRA) 2026/27, Gosod Rhent 2026/27 a Chynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai (2026/27) (6)

8 Ionawr, 2026

C179

(c)          Strategaeth Golygfa Stryd Ddiwygiedig (2026-2031) (7)

15 Ionawr, 2026

C190

(d)          Cyllideb Ddrafft 2026/27 a Chynllun Ariannol Tymor Canolig 2026/27 i 2030/31 (8)

26 Chwefror, 2026

C214

(e)          Strategaeth Gyfalaf 2026/27 a Chynigion Rhaglen Gyfalaf Terfynol 2026/27 i 2030/31 (5)

26 Chwefror, 2026

C215

(f)           Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a Buddsoddi 2026/27 a Diweddariad ar gyfer 2025/26 (7)

26 Chwefror, 2026

C216

(g)          Mudo System Ffôn Ysgolion i Ddatrysiad Cwmwl-seiliedig (2)

26 Chwefror, 2026

C217

(h)          Argymhellion Terfynol Adolygiad Trefniadau Etholiadol Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru – Bro Morganwg (4)

26 Chwefror, 2026

C218

 

13.      I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.19.2 – 4.19.9 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg). 

 

14.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

15.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

3 Mawrth, 2026

 

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -

Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi J. Langridge-Thomas, Ffôn: Y Barri (01446) 709457

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk 

 

Dosbarthu:  I Holl Aelodau’r Cyngor.

 

SYLWCH:

 

Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â  Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor arDPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig i gael mynediad / mynychu cyfarfod o bell, trwy ddefnyddio dyfais y Cyngor a rhwydwaith Lupus y Cyngor wneud hynny, ond gofynnir iddynt hysbysu’r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod. Yn enwedig pan fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal gyda'r nos, fel y gellir hysbysu diogelwch yr adeilad a nodi ystafell gyfarfod briodol.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709457

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx