Cost of Living Support Icon

MAE’R DDOGFEN HON AR GAEL YN SAESNEG

THIS DOCUMENT IS AVAILABLE IN ENGLISH

 

 

Hysbysiad o Gyfarfod:

Y Cyngor

Dyddiad ac amser

y Cyfarfod:

Dydd Llun, 13 Gorffennaf 2026 – 6.00pm

Math / Lleoliad:

Cyfarfod Hybrid / Siambr y Cyngor

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldebau.

 

2.         Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad y Cyngor.

Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.

 

3.         Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:

(i)         9 Mawrth, 2026; a

(ii)        13 Mai, 2026 (Cyfarfod Blynyddol).

 

4.        Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan:

(i)        y Maer;

(ii)        yr Arweinydd;

(iii)       Aelodau'r Cabinet;

(iv)      y Prif Weithredwr; a

(v)       derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynir gan Aelodau.

 

5.        Cwestiynau gan y Cyhoedd – i'w gweld yn llawn, cliciwch yma

(i)        Cyflwyniadau Cynllun Datblygu Lleol Newydd i Gynghorwyr – A. Vincent.

(ii)        Gwneud Penderfyniadau ynghylch Cynllun Datblygu Lleol Newydd – W. Hart.

(iii)       Ystyriaethau Bioamrywiaeth Cynllun Datblygu Lleol Newydd – M. Wallis.

(iv)       Cyflwyniadau Cynllun Datblygu Lleol Newydd i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd (Cymru) – J. Vincent-Newson.

(v)       Safleoedd a Nodwyd ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Newydd – M. Vincent.

(vi)      Cyfarfodydd Cynllun Datblygu Lleol Newydd – R. Vincent-Newson.

(vii)      Iawndal Cynllun Datblygu Lleol Newydd – C. Hart.

(viii)     Cynllun Datblygu Lleol Newydd – Sain Tathan – M. Levett.

(ix)      Gwelliannau Seilwaith Carthffosiaeth – J. Thompson.

(x)       Ymgynghoriad Cynllun Datblygu Lleol Newydd gyda'r Gwasanaethau Brys – S. Fraser.

(xi)      Gwrthwynebiadau Cynllun Datblygu Lleol Newydd Adneuo – E. Reed.

(xii)      Biomas y Barri – D. Clarke.

(xiii)     Gwasanaethau Trafnidiaeth Gyhoeddus ym Mro Morgannwg – E. Reed.

 

Adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd/Swyddog Monitro –

6.        Gwelliannau i Gyfansoddiad y Cyngor.

 

Adroddiad a Gyfeiriwyd o’r Cabinet –

7.         Adolygiad o'r Datganiad o Bolisi Trwyddedu 2026-2031 – Cabinet: 9 Gorffennaf 2026. (Cyfeiriad i Ddilyn)

 

Defnyddio'r Weithdrefn Penderfynu Brys –

8.         Fframwaith Gwresogi Tai 2026–29 – Cabinet: 26 Mawrth, 2026.

9.         Cronfa Twf Lleol yng Nghymru – Bro Morganwg – Cabinet: 16 Ebrill, 2026.

10.       Adroddiad Absenoldeb Salwch Ch4 2025/2026 – Cabinet: 28 Mai, 2026.

 

11.      Ystyried y Hysbysiad o Gynnig canlynol

Wedi'i gyflwyno gan y Cynghorwyr L. Burnett ac R. Birch

 

Cyllid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi:

 

Derbyn swm 'untro' o £322 miliwn o gyllid canlyniadol gan Lywodraeth Cymru (LlC) sy'n ymwneud â gwariant ychwanegol ar Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau (AAAA) yn Lloegr.

 

  • Bod diffygion anghenion uchel cronedig yn Lloegr (amcangyfrifir ei fod dros £3.3 biliwn erbyn 2025/26) bellach yn cael eu hystyried trwy ymyriadau cenedlaethol fel y defnydd o ddiystyriaeth statudol.
  • Bod y Gymdeithas Llywodraeth Leol yn Lloegr wedi amcangyfrif y byddai 8 allan o 10 Cyngor yn fethdalwyr heb gymryd camau o'r fath.

Mae’r Cyngor yn nodi ymhellach:

 

Er bod ysgolion a gwasanaethau addysg yn cael eu hariannu'n wahanol yng Nghymru o gymharu â Lloegr, mae'r heriau a'r diffygion yn debyg.

 

  • Yng Nghymru, mae'r pwysau hyn wedi cael eu hamsugno dros gyfnod parhaus o fewn cyllidebau llywodraeth leol ac addysg craidd. Yn wahanol i Loegr, lle mae diffygion anghenion uchel wedi cronni ar wahân, mae Awdurdodau Lleol Cymru wedi rheoli'r galw hwn o fewn adnoddau presennol, ar draul gwasanaethau ehangach a gwydnwch ariannol.
  • O ganlyniad, mae'r diffyg cyllid cyfatebol sy'n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru o leiaf yr un fath, os nad yn uwch na'r £322 miliwn canlyniadol.
  • Nid yw absenoldeb diffygion ffurfiol yn adlewyrchu absenoldeb pwysau; yn hytrach, mae'n dangos i ba raddau y mae Cynghorau ac ysgolion eisoes wedi darparu ar gyfer angen cynyddol o fewn amlenni cyllido cyfyngedig
  • Mae'r cyllid ar gyfer darpariaeth ADY yn bwysau cyllidebol enfawr gyda mwy na 60% o ysgolion mewn rhai ardaloedd yn cario balansau negyddol. 

Mae’r Cyngor hwn o’r farn

 

  • Bod y cyllid hwn nid yn unig ar gyfer darpariaeth newydd, ond hefyd i fynd i'r afael â phwysau cronnus ac i gynnal y system ADY a hawliau statudol.
  • Bod achos cryf sy'n seiliedig ar dystiolaeth dros gyfeirio'r cronfeydd hyn trwy Gynghorau, lle mae'r cyfrifoldeb statudol a'r pwysau mwyaf acíwt.
  • Naratif Cymreig cryf fyddai felly y dylid cyfeirio'r cyllid sydd ar gael at Awdurdodau Lleol lle mae'r pwysau statudol mwyaf acíwt, ac oherwydd bod y dystiolaeth ariannol ehangach, gan gynnwys y dirywiad mewn cronfeydd wrth gefn ysgolion, yn pwyntio at system sydd eisoes yn amsugno straen yn hytrach nag un sydd â'r gallu i gario mwy heb gymorth ychwanegol.

Mae’r Cyngor hwn felly yn penderfynu’r canlynol

 

  • Gweithio gyda phartneriaid ar draws y sir, y rhanbarth ac yn genedlaethol sy'n rhannu ein penderfyniad i ddarparu cymorth i blant a phobl ifanc ag ADY.
  • Gofyn i Arweinydd y Cyngor ysgrifennu at y Prif Weinidog yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwerth llawn unrhyw ganlyniadau sy'n gysylltiedig ag AAAA/ADY a dderbynnir gan Lywodraeth y DU yn cael ei ddyrannu i Awdurdodau Lleol.
  • Gofyn am anfon copïau o'r llythyr at holl Aelodau'r Senedd ac ASau ar gyfer Bro Morgannwg.
  • Gofyn am anfon copïau o'r llythyr ymlaen at holl Aelodau Cyngor Bro Morgannwg, at bob ysgol ac at y Fforwm Cyllideb Ysgolion.

12.      Ystyried yr Hysbysiad o Gynnig canlynol

Wedi'i gyflwyno gan y Cynghorwyr B. Loveluck-Edwards a J. Protheroe

 

Tystiolaeth o Angen

 

Mae'r ffaith bod y Cyngor hwn yn mynnu bod gan berson ag anabledd, neu gyflwr iechyd sylfaenol, dystiolaeth ysgrifenedig gan feddyg teulu (megis i fod yn gymwys ar gyfer addasiadau penodol i'w eiddo Cyngor), yn creu ychydig o oedi wrth iddynt aros i'r wybodaeth gael ei phrosesu gan eu practis meddyg teulu lleol, gan achosi gorbryder a chost a godir gan y practis. Mae adborth diweddar gan bractisau meddygon teulu yn awgrymu bod drafftio a llofnodi llythyrau yn eu tynnu i ffwrdd o'u gweithgaredd craidd. Roedd y tâl cyfartalog yn £40, gan effeithio'n fwyaf difrifol ar y rheini sy'n gallu ei fforddio leiaf, gan gynnwys y rheini sy'n dibynnu ar fudd-daliadau lles. 

 

Felly, mae'r Cynnig hwn yn gofyn i'r Cyngor:

 

  1. Adolygu pa dystiolaeth sy'n ofynnol gan ein hadrannau a pham, fel bod staff a phreswylwyr yn glir ynghylch pam eu bod yn angenrheidiol.
  2. Lle bynnag y bo'n bosib, derbyn mathau eraill o dystiolaeth megis copi o ohebiaeth TAB/Credyd Pensiwn gan yr AGPh.
  3. Creu canllaw sylfaenol sy'n esbonio, mewn iaith glir, i breswylwyr pam rydym yn gofyn am dystiolaeth benodol.
  4. Cysylltu â'r PMLl (Pwyllgor Meddygol Lleol), corff cynrychioliadol o feddygon teulu ar draws Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, i gynyddu ymwybyddiaeth a sicrhau datrysiad hirdymor sy'n dileu'r pwysau ariannol y mae ein preswylwyr sydd fwyaf agored i niwed yn eu hwynebu oherwydd y ffioedd y gall practis meddyg teulu eu codi.

 

13.      Cwestiynau gan Aelodau – i'w gweld yn llawn, cliciwch yma

(i)        Newid Hinsawdd – Y Cynghorydd J. Protheroe.

(ii)        Diogelwch y Gweithlu – Y Cynghorydd W.A. Hennessy;

(iii)       Prosiect Dyfroedd Ymdrochi Canol De – Y Cynghorydd S.T. Wiliam.

(iv)      Effaith Newid Hinsawdd – Y Cynghorydd J. Protheroe.

(v)       Amseroedd Ymateb i Gwestiynau yn y Cyngor Llawn – Y Cynghorydd S.J. Haines.

(vi)      Tonnau Gwres yn Effeithio ar Ysgolion – Y Cynghorydd N.P. Hodges.

(vii)      Tlodi Plant – Y Cynghorydd E. Penn.

(viii)     Dyrannu Cartrefi Newydd ym Mro Morganwg – Y Cynghorydd G.D.D. Carroll.

(ix)      System Un Ffordd mewn Strydoedd Tagfeydd Iawn yn y Barri – Y Cynghorydd A.M. Collins.

(x)       Diogelwch y Cyhoedd ym Mharciau Gwledig Bro Morganwg – Y Cynghorydd G.D.D. Carroll.

(xi)      Swyddfa'r Post yn Ninas Powys – Y Cynghorydd C.M. Cowpe.

(xii)      Asesiadau yng Nghylchfan Weycock Cross – Y Cynghorydd G.D.D. Carroll.

(xiii)     Tipio Anghyfreithlon ym Mro Morganwg – Y Cynghorydd G.D.D. Carroll.

(xiv)    Effeithiolrwydd Diwygiadau i Drefniadau Craffu – Y Cynghorydd G.D.D. Carroll.

 

14.      Unrhyw eitemau y mae'r Maer wedi penderfynu eu bod yn frys o dan (Rhan I).

 

RHAN II

GELLIR GWAHARDD Y CYHOEDD A’R WASG O’R CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETHAU AR Y MATER(ION) SY’N DILYN, YN UNOL AG ADRAN 100A(4) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

15.      Unrhyw eitemau y mae'r Maer wedi penderfynu eu bod yn frys o dan (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

7 Gorffennaf 2026

 

Os oes angen cymorth arnoch i arsylwi'r cyfarfod a/neu gael mynediad at unrhyw eitemau ar yr agenda, gan gynnwys papurau cefndir, neu'r agenda mewn fformat neu iaith arall, cysylltwch â:

 

James Langridge-Thomas, Rheolwr Gweithredol – Gwasanaethau Democrataidd

Ffôn: (01446) 709457

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

 

Dosbarthu:  I Holl Aelodau’r Cyngor.