Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

 

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

 

Hysbysiad o Gyfarfod                      PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO

 

Dyddiad ac amser y Cyfarfod          DYDD MAWRTH, 27 MEDI, 2022 AM 6.00 PM

 

Lleoliad                                         CYFARFOD HYBRID

 

 

Agenda

 

RHAN I

 

1.       Ymddiheuriadau am absenoldeb.

[Gweld Cofnod]

 

2.       Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf, 2021.

[Gweld Cofnod]

 

3.       Datgan buddiannau (gan gynnwys datganiadau chwipio) dan God Ymddygiad y Cyngor.

          (Sylwer:Gofynnir i aelodau sydd am gael cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

[Gweld Cofnod]

 

Cyferiad –

4.       Cyngor Bro Morgannwg: Calendr Perfformiad Blynyddol 2022/23 – Cabinet: 7 Gorffennaf, 2022.

[Gweld Cofnod]

5.       Hunanasesiad Blynyddol drafft Cyngor Bro Morgannwg 2021/22 – Cabinet: 8 Medi, 2022.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau y Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol –

6.       Diweddariad Ch1: Amserlen Rhaglen Waith Archwilio Cymru 2022/23 - Cyngor Bro Morgannwg.

[Gweld Cofnod]

7.       Adroddiad Blynyddol Cwynion Corfforaethol 2021/22.

[Gweld Cofnod]

8.       Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC): Digartrefedd wedi'i Adolygu, Drws Agored i Newid Cadarnhaol: Gweithredu ar Argymhellion a Awgrymir i Awdurdodau Heb Ymchwilio.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol –

9.       Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol wedi’i Diweddaru.

[Gweld Cofnod]

 

10.     Unrhyw eitemau eraill mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn faterion brys (Rhan I).

 

RHAN II

 

MAE’N BOSIBL Y CAIFF Y CYHOEDD A’R WASG EU HEITHRIO O’R CYFARFOD TRA BOD YR EITEM(AU) YN CAEL EU HYSTYRIED YN UNOL AG ADRAN 100a(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

11.     Unrhyw eitemau eraill mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn faterion brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

20 Medi, 2022

 

 

Mae fersiwn o’r Agenda hwn hefyd ar gael yn Saesneg

 

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985

Archwilio papurau cefndirol:

Yn yr achos cyntaf, dylid cyfeirio ymholiadau at 

G. Davies, Ffôn: 01446 709249

e-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

 

At Aelodau’r Pwyllgor Archwilio

Cadeirydd: G. Chapman (Aelod Lleyg);

Is-gadeirydd: N. Ireland (Aelod Lleyg);

Y Cynghorwyr: P. Drake, E. Goodjohn, M.J. Hooper, J.M. Norman. J. Protheroe ac N.J. Wood a  M. Evans (Aelod Lleyg)

 

 

SYLWCH: Mae'r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd. Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu'n gyson yn seiliedig ar ganllawiau sy’n dod i law gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

 

Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor:

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/_Committee%20Reports/Remote-Procedures-COVID-19/Multi-Location-Meetings-Policy-WELSH.pdf   ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor arDPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709249

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx