Cost of Living Support Icon

  

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

 

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

 

Hysbysiad o Gyfarfod                       PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO

 

Dyddiad ac amser y Cyfarfod           DYDD LLUN, 12 MEHEFIN, 2023 AM 6.00 PM

 

Lleoliad                                           CYFARFOD O BELL

 

Agenda

 

RHAN I

 

1.         Penodi Cadeirydd.

(Sylwer: Bod paragraff 9.2.3 o Gyfansoddiad Cyngor Bro Morgannwg yn datgan bod Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i’w benodi gan y Pwyllgor a rhaid iddo fod yn Aelod Lleyg.)

[Gweld Cofnod]

 

2.         Penodi Is-Gadeirydd.

(Sylwer: Bod paragraff 9.2.4 o Gyfansoddiad Cyngor Bro Morgannwg yn datgan bod Is-Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael ei benodi ganddo ac ni chaiff fod yn aelod o’r Cabinet nac yn gynorthwyydd i’r Cabinet.)

[Gweld Cofnod]

 

3.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

4.         Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ebrill, 2023.

[Gweld Cofnod]

 

5.         Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad y Cyngor.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

[Gweld Cofnod]

 

Cyfeiriadau –

6.         Cyngor Bro Morgannwg – Cymhwyso'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy mewn Meysydd Gwasanaeth – Pwyllgor Craffu Perfformiad Ac Adnoddau Corfforaethol: 24 Mai 2023.  (Gweld Cyfeiriad)

[Gweld Cofnod]

7.         Cyngor Bro Morgannwg: Calendr Perfformiad Blynyddol 2023/24 – Cabinet: 25 Mai 2023.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau’r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol –

8.        Diweddariad Ch4: Amserlen Rhaglen Waith Archwilio Cymru 2022/23 – Cyngor Bro Morgannwg.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol –

9.        Adroddiad Archwilio Mewnol Blynyddol 2022/23.

[Gweld Cofnod]

10.      Strategaeth Archwilio Mewnol a Chynllun Seiliedig ar Risg 2023/24.

[Gweld Cofnod]

11.      Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol wedi'i Diweddaru 2023/24.

[Gweld Cofnod]

 

12.       Unrhyw eitemau eraill mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn faterion brys (Rhan I).

 

RHAN II

 

MAE’N BOSIBL Y CAIFF Y CYHOEDD A’R WASG EU HEITHRIO O’R CYFARFOD TRA BOD YR EITEM(AU) YN CAEL EU HYSTYRIED YN UNOL AG ADRAN 100a(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

13.       Unrhyw eitemau eraill mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn faterion brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

6 Mehefin, 2023

 

Mae fersiwn o’r Agenda hwn hefyd ar gael yn Saesneg

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985

Archwilio papurau cefndirol:

Yn yr achos cyntaf, dylid cyfeirio ymholiadau at 

G. Davies, Ffôn: 01446 709249

e-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

At Aelodau’r Pwyllgor Archwilio

Cadeirydd: I’w penodi yn y cyfarfod cyntaf yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol

Is-gadeirydd: I’w penodi yn y cyfarfod cyntaf yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol

Y Cynghorwyr: P. Drake, E. Goodjohn, M.J. Hooper, J.M. Norman. J. Protheroe ac N.J. Wood; a C. Chapman, N. Ireland a M. Evans (Aelod Lleyg)

 

SYLWCH: Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â  Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor arDPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig e.e., o Siambr y Cyngor, er mwyn cael mynediad/mynychu cyfarfod o bell, drwy ddefnyddio dyfais y Cyngor. Gan ddefnyddio rhwydwaith TGCh y Cyngor i ymuno â’r cyfarfod wneud hynny.  Hysbysu'r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod yn enwedig pan gynhelir y cyfarfod gyda'r nos fel y gellir hysbysu diogelwch adeiladau.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709249

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx