Cost of Living Support Icon

 

Hysbysiad o Gyfarfod    IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU STATUDOL

 

Dyddiad ac amser

y Cyfarfod                   DYDD LLUN, 31 HYDREF, 2022 AM 10.00 A.M.

 

 

Lleoliad                       CYFARFOD O BELL

 

 

Agenda

 

 

1.         Penodi Cadeirydd.

[Gweld Cofnod]

 

2.         Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.

(Noder: Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau’r Awdurdod Trwyddedu -

3.         Caniatáu Trwydded Safle – Willmore’s 1938, The Former Golf Kiosk, Cliff Parade, Penarth, CF64 5BP.

[Gweld Gwybodaeth Atodol]  [Gweld Gwybodaeth Atodol 2]

[Gweld Cofnod]

 

 

Yn unol ag Adran 18(3)(a) Deddf Trwyddedu 2003, gallai’r Gwrandawiad hwn gael ei hepgor os yw’r Awdurdod Trwyddedu, yr Ymgeisydd a phawb sydd wedi cyflwyno sylw’n cytuno bod y Gwrandawiad yn ddiangen ar ôl proses Gyfryngu.  Gallai hyn ddigwydd hyd at 24 awr cyn i’r Gwrandawiad ddechrau.  Byddai felly’n syniad cysylltu â’r swyddog a enwir ar ddiwedd yr agenda i sicrhau bod y Gwrandawiad yn dal i gael ei gynnal.

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

24 Hydref, 2022

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985. 

Arolygu papurau cefndir – yn yr achos cyntaf dylid ymholi  

A. Rudman (Tel: 01446 709855)

E-bost: Democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Holl Aelodau’r Is-bwyllgor Trwyddedu:

Y Cynghorwyr P. Drake, J.M. Norman a M.R. Wilkinson

                                     

 

SYLWCH: Mae'r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd. Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu'n gyson yn seiliedig ar ganllawiau sy’n dod i law gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

 

Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor:

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/_Committee%20Reports/Remote-Procedures-COVID-19/Multi-Location-Meetings-Policy-WELSH.pdf   ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn.Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor arDPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709855

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx