Cost of Living Support Icon

 

 

Hysbysiad o Gyfarfod    IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU STATUDOL

 

Dyddiad ac amser

y Cyfarfod                   DYDD MERCHER, 4 MAI, 2022 AM 10.00 A.M.

 

 

Lleoliad                       CYFARFOD O BELL

 

 

Agenda

 

 

1.         Penodi Cadeirydd.

[Gweld Cofnod]

 

2.         Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.

(Noder: Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau’r Awdurdod Trwyddedu -

3.         Deddf Trwyddedu 2003 – Cais ar gyfer Cymeradwyo Trwydded Safle – The Old Bank, 1 Elm Grove Road, Dinas Powys, CF64 4AA.  [Gweld Gwybodaeth Atodol]

[Gweld Cofnod]

 

 

 

 

Yn unol ag Adran 18(3)(a) Deddf Trwyddedu 2003, gallai’r Gwrandawiad hwn gael ei hepgor os yw’r Awdurdod Trwyddedu, yr Ymgeisydd a phawb sydd wedi cyflwyno sylw’n cytuno bod y Gwrandawiad yn ddiangen ar ôl proses Gyfryngu.  Gallai hyn ddigwydd hyd at 24 awr cyn i’r Gwrandawiad ddechrau.  Byddai felly’n syniad cysylltu â’r swyddog a enwir ar ddiwedd yr agenda i sicrhau bod y Gwrandawiad yn dal i gael ei gynnal.

 

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

 

27 Ebrill, 2022

 

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985. 

Arolygu papurau cefndir – yn yr achos cyntaf dylid ymholi  

M. Thomas (Tel: 01446 709279)

E-bost: Democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Holl Aelodau’r Is-bwyllgor Trwyddedu:

Y Cynghorwyr J.W. Thomas, J.M. Norman a M.R. Wilkinson                   

 

SYLWCH:

 

Mae’r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd.  Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu’n barhaus yn seiliedig ar ganllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac wrth wneud hynny yn ystyried asesiadau risg perthnasol.  Ni chynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn eu lleoliad arferol hyd nes y clywir yn wahanol.  Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor, swyddogion perthnasol ac unrhyw ‘partïon â diddordeb’  sydd wedi cofrestru i siarad lle bo’n briodol.  Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu ffrydio’n fyw a’u recordio i’w darlledu wedyn drwy wefan gyhoeddus y Cyngor.

 

Yn weithredol o 5 Mai 2022 er mwyn cydymffurfio ag Adrannau 46 a 47 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 bydd rhai cyfarfodydd yn gofyn i’r rhai sy’n bresennol allu “i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd ac i weld ei gilydd ac i gael eu gweld gan ei gilydd ".  Mae cydweithwyr yn y Gwasanaethau Democrataidd a TGCh yn gweithio i sicrhau y cedwir at ofynion Adrannau 46 a 47 yn barod ar gyfer 5 Mai 2022.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709279.

 

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx