Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL.

 

 

Hysbysiad o Gyfarfod     PWYLLGOR SAFONAU

 

Dyddiad ac amser

y Cyfarfod                     DYDD IAU, 8 MEHEFIN, 2023 AM 10.00 A.M.

 

Lleoliad                         CYFARFOD O BELL

 

 

Agenda

 

RHAN I

 

1.         Penodi Cadeirydd.

[Gweld Cofnod]

 

2.         Penodi Is-Gadeirydd.

[Gweld Cofnod]

 

3.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

4.         Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth, 2023.

[Gweld Cofnod]

 

5.         Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad y Cyngor.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau’r Swyddog Monitro / Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd –

6.        Ceisiadau am Ganiatâd.

[Gweld Cofnod]

7.        Sylwadau gan Aelodau Annibynnol o Gyfarfodydd Pwyllgorau Cynghorau Tref a Chymuned.

[Gweld Cofnod]

8.        Adroddiad Blynyddol Drafft y Pwyllgor Safonau (Ynghyd ag Adborth gan Arweinwyr Grwpiau Gwleidyddol ar Gydymffurfio ag Adran 62 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).

[Gweld Cofnod]

9.         Cyfarfodydd Swyddog Monitro gyda Chlercod Cynghorau Tref a Chymuned.

[Gweld Cofnod]

10.       Adroddiad Archwilio Mewnol mewn perthynas ag Aelodau Etholedig 2022-2023.

[Gweld Cofnod]

11.       Ymateb i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o'r Fframwaith Safonau Moesegol (adroddiad Richard Penn); a Chysoni Trothwyon Anrhegion a Lletygarwch i Gyd-fynd ag Ymagwedd Cymru Gyfan.

[Gweld Cofnod]

12.       Cylch Gorchwyl drafft ar gyfer Panel y Pwyllgor Safonau.

[Gweld Cofnod]

13.       Gohebiaeth gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

[Gweld Cofnod]

 

14.       Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

 

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

Adroddiad r Swyddog Monitro / Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd –

15.       Gohebiaeth gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

[Gweld Cofnod]

 

16.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

2 Mehefin, 2023

 

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985

Arolygu papurau cefndir: Yn yr achos cyntaf dylid ymholi K. Bowen (Ffôn: 01446 709856).

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Aelodau’r Pwyllgor Safonau

Y Cynghorwyr: R.M. Birch, J.E. Charles a C.P. Franks

 

Aelodau Annibynnol:

R. Alexander

P. Hallett

R. Hendicott

L. Tinsley

G. Watkins

 

Cynrychiolydd Cynghorau Tref a Chymuned:

(Y gwag)

 

 

SYLWCH: Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor arDPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig e.e. o Siambr y Cyngor, er mwyn cael mynediad/mynychu cyfarfod o bell, drwy ddefnyddio dyfais y Cyngor. Gan ddefnyddio rhwydwaith TGCh y Cyngor i ymuno â’r cyfarfod wneud hynny.  Hysbysu'r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod yn enwedig pan gynhelir y cyfarfod gyda'r nos fel y gellir hysbysu diogelwch adeiladau.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709856

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx