Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL.

 

 

Hysbysiad o Gyfarfod       PWYLLGOR DEDDF YSTÂD YR EGLWYS YNG NGHYMRU

 

Dyddiad ac amser           DYDD LLUN, 10 HYDREF, 2022  AM 4.00 P.M.

y Cyfarfod              

 

Lleoliad                           CYFARFOD O BELL

 

 

Agenda

 

 

RHAN I

 

1.       Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.       Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mehefin, 2022.

[Gweld Cofnod]

 

3.       Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.

          (Noder: Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau’r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol –

4.       Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021/22 (Gweld Atodiad A).

[Gweld Cofnod]

5.       Diweddariad Buddsoddi.

[Gweld Cofnod]

6.       Ceisiadau am Gymorth Ariannol 2022/23 Cyfran 2.

[Gweld Cofnod]

7.       Tir yn Glebe Fields, Sili – Diweddariad Cais Ymchwiliad Maes Tref a Phentref.

[Gweld Cofnod]

8.       Cynnig Perllan Gymunedol Tregatwg.

[Gweld Cofnod]

 

9.       Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

Adroddiad Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol –

10.     Cynnig Perllan Gymunedol Tregatwg.

[Gweld Cofnod]

 

11.     Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

3 Hydref, 2022

 

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985. Arolygu papurau cefndir – yn yr achos cyntaf dylid ymholi  

K. Bowen: (01446) 709856

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk 

 

Aelodau’r Pwyllgor Deddf Ystâd yr Eglwys yng Nghymru –

Cadeirydd: Y Cynghorydd M.R. Wilson;

Is-gadeirydd: Y Cynghorydd P. Drake;

Y Cynghorwyr: C.E.A. Champion, J.E. Charles, H.C. Hamilton, M.J. Hooper ac M.J.G. Morgan

 

                         

SYLWCH: Mae'r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd. Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu'n gyson yn seiliedig ar ganllawiau sy’n dod i law gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

 

Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor:

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/_Committee%20Reports/Remote-Procedures-COVID-19/Multi-Location-Meetings-Policy-WELSH.pdf   ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor arDPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709249

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx