Cost of Living Support Icon

Pridiannau Tir

Cofrestr o bridiannau tir ac eiddo ym Mro Morgannwg.

 

Diben Chwiliad Lleol yw rhoi gwybodaeth i’r prynwr am yr eiddo efallai ei fod/ei  bod yn ei brynu.  Byddai’r prynwr yn cyfarwyddo’r cyfreithiwr sy’n gweithredu ar ei ran i fwrw ymlaen â’r Chwiliad Lleol.

 

Gwybodaeth am Daliadau Tir Gwylio 

Cysylltwch â ni ymlaen llaw i archwilio gwybodaeth pridiannau tir yn yr Swyddfeydd Dinesig:

  • 01446 709418/709419/709416

 

Gall y Cyngor dderbyn Chwiliadau Lleol mewn tair ffordd:

  • Chwiliadau cyfrifiadur trwy NLIS Providers
  • Trwy’r post
  • Cyfnewid Uniongyrchol 

 

Gall yr amser troi ar gyfer Chwiliad Lleol gymryd hyd at 15 diwrnod gwaith o'r cadarnhad ei fod wedi'i dderbyn.

 

Sylwer: Mae TAW (20%) ar bob chwiliad, ar gyfanswm ffi’r ymholiadau CON29R & O yn unig.

  

Mudo i Gofrestrfa Tir Ei Fawrhydi

Cyngor: Rydym wrthi'n gweithio gyda Chofrestrfa Tir Ei Fawrhydi i fudo ein gwasanaeth pridiannau tir lleol i'w cofrestr ddigidol ganolog.

 

Bydd Cofrestrfa Tir Ei Fawrhydi yn darparu canlyniadau chwilio ar gyfer chwiliadau pridiannau tir lleol ym Mro Morgannwg pan fyddant wedi'u cwblhau. Byddwn yn darparu dyddiad union ar gyfer pryd y bydd y gwasanaeth hwn yn mynd yn fyw, maes o law.

 

Am fwy o wybodaeth ewch i GOV.UK

 

 

  • 1. Mynediad Llawn at Wybodaeth – CON29R Chwilio Data Crai (Cod RA1)

    Gellir cael ymateb i bob cwestiwn ar y CON29R trwy gysylltu â’r adran Pridiannau Tir Lleol.

  • 2. Mynediad at Wybodaeth – CON29R Chwiliad Data Crai (heb Gofrestr Cynllunio a Phriffyrdd) (Cod RA2)

    Fel arall, ceir gwybodaeth am (C1.1(a) i (e) Cynllunio a 2(a) Priffyrdd) am ddim yn uniongyrchol gan yr adran berthnasol (gweler ‘Gwybodaeth Amgen’ isod am fanylion cyswllt). Ceir gweddill yr ymatebion i ddata crai CON29 gan Bridiannau Tir Lleol. 

  • 3. Gwasanaeth Chwilio Personol Statudol (Cod PE1)

    Gellir trefnu chwiliadau ar y gofrestr pridiannau tir am ddim trwy apwyntiad yn unig.  Ffôn: 01446 709418/709419

  • 4. Chwiliad LLC1 a CON29R Llawn

    Mae’r chwiliad ar gael trwy wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol

     

    Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol

     

    neu’n uniongyrchol o un o'r sianeli canlynol gan y NLIS.

    www.jordansproperty.co.uk or  www.searchflow.co.uk or  www.tmgroup.co.uk

     

    Gellir cyflwyno chwiliadau ar ffurf papur hefyd. 


    Nid ydym yn cynnig cyflwyniad electronig trwy ein gwefan ar hyn o bryd.

     

     

     

 

Mynediad at y Weithdrefn Gwybodaeth

Chwiliadau CON29R Data Crai (RA1 a RA2) – Dylid gwneud ymholiadau cyntaf gyda'r adran Pridiannau Tai ac yn dibynnu ar faint/natur yr wybodaeth y mae ei hangen, gellir ei chyflwyno mewn adroddiad at y diben (yn cynnwys y ffioedd a ddengys yn yr atodiad).

 

Ffonier yr Adrannau perthnasol i weld cofnodion ar y gofrestr Cynllunio a Phriffyrdd neu ar gyfer ymholiadau Iechyd yr Amgylchedd (gweler ‘Gwybodaeth Amgen’ am fanylion cyswllt a manylion lleoliadau).

 

Fel arfer, cyflwynir adroddiadau at y diben o fewn 5 niwrnod gwaith.

Ffioedd a Thalu

Chwiliad LLC1 a Con29 Llawn: £132.00

LLC1: £6.00

Ymholiadau CON290 4 i 21: £11.50 yr un.

Ymholiad 22: £14.75.

Parseli Ychwanegol: £15.75 yr un.

 

Archwilio gwybodaeth taliadau lleol yn y Swyddfeydd Dinesig trwy apwyntiad - dim tâl.

 

 

Nodwch er mwyn talu bridiant dir ar-lein mae angen dewis 'incwm arall o'r ddewislen.

 

Talu ar-lein 

 

 

 

 

 

Cynllunio / Priffyrdd

  • 01446 704600

Ymholiadau Draenio

  • 01443 331155

 

Iechyd yr Amgylchedd

  • 01446 709804

Tir Comin a Threfi a Lawnt Pentref

  • 01446 709417/8
 

I archwilio gwybodaeth pridiannau tir yn yr Swyddfeydd Dinesig , cysylltwch â:

 

Gwasanaethau Democrataidd a Chraffu

Swyddfeydd Dinesig

Heol Holton

Barri

CF63 4RU

  • 01446 709418/709419/709416