Cost of Living Support Icon

what's on (nia)

Amdanom ni

Wedi'i agor ym 1929, mae Pafiliwn Pier Penarth yn enghraifft hardd o bensaernïaeth Art Deco, gyda phrif oriel a golygfeydd godidog o Fôr Hafren. 

 

Gyda'i leoliad trawiadol ar lan y môr, mae Pafiliwn Pier Penarth yn lleoliad bywiog yng nghanol Penarth, gan gynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys sinema, cerddoriaeth fyw, arddangosfeydd celf a gweithdai.  Gellir hefyd archebu ei fannau ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau, priodasau a digwyddiadau dathlu arbennig.

 

Ers cymryd yr awenau yn y Pafiliwn yn gynnar yn 2021, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi sefydlu'r lleoliad fel canolbwynt i'r gymuned gyfan ei fwynhau.

 

Allwn ni ddim aros i'ch gweld chi!