Cost of Living Support Icon

hire us 2024 cover

Llogwch Ni

Mae Pafiliwn Pier Penarth, gyda'i ddyluniad Art Deco, a lleoliad trawiadol ar ymyl y dŵr, yn ofod digwyddiadau gwirioneddol unigryw, ar gyfer digwyddiadau corfforaethol a phreifat.

O gynadleddau, cinio gala a seremonïau gwobrwyo i sioeau ffasiwn, priodasau a derbyniadau diodydd.

 

I weld sut y gallwn helpu gyda'ch digwyddiad, ac i’ch dangos chi o amgylch Pafiliwn Pier Penarth, anfonwch e-bost at:

  • Pavilion@valeofglamorgan.gov.uk

 

hire us room 1

Mae prif ofod digwyddiadau'r Pafiliwn yn oriel gyda seddau ar gyfer hyd at 150 o westeion.  Mae sinema glyd hefyd gyda seddau ar gyfer hyd at 66 ac ystafell ddosbarth sy'n agor yn uniongyrchol i'r Pier.

 

Ar ben yr adeilad mae ystafell wydr hardd, gyda ffenestri o’r llawr i’r nenfwd; mae'r ystafell hon yn mwynhau golygfeydd godidog ar draws Môr Hafren, i Ynys Echni ac Ynys Rhonech sy’n gryn gefnlen i unrhyw ddigwyddiad!

 

 

hire us room 617

Mae gennym amrywiaeth gwych o leoedd ar gael i'w llogi ar gyfer ffilmio lleoliadau neu ffotograffiaeth, gyda phensaernïaeth eiconig a golygfeydd anhygoel o'r môr.

Mae ein sinema, oriel, ystafell 617 a'r ystafell ddosbarth hefyd yn cynnig cefndir trawiadol ar gyfer sesiynau lluniau ymgysylltu, delweddau hyrwyddo artistiaid neu gyfweliadau â'r cyfryngau ac maent ar gael i'w llogi drwy gydol y flwyddyn.

 

Holwch ni heddiw am logi Pafiliwn Pier Penarth ar gyfer ffilmio neu dynnu lluniau

 

YSTAFELL ARDDULL THEATR GWLEDDAYSTAFELL DDOSBARTH  DERBYNIAD DIODYDD
Oriel  150  110  50  150
Ystafell Ddosbarth  16  16  16  20
Bar   n/a  n/a  n/a  100
Llawr Uchaf (617)  15  20  12  20
Sinema  66  n/a  n/a n/a 
Y Dderbynfa  n/a  n/a  n/a  20