Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Rydym yn falch iawn o groesawu'n ôl i Bafiliwn Penarth, Toni Horne o Lily Pad Florist, am noson hyfryd o greadigrwydd Nadoligaidd!
Cadwch le nawr
Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad Nadoligaidd hwn ym Mhafiliwn Pier Penarth gyda'r darlithydd hanes celf clodfawr, Stella Grace Lyons am y sgwrs hynod ddiddorol hon am stori'r Nadolig mewn celf. Mae'r stori wedi addurno ein cardiau Nadolig ac wedi rhoi cyfle i gannoedd o artistiaid ychwanegu lliw egsotig a golau dramatig at eu gwaith.
Mae At a Loss yn rhaglen unigryw o naw ffilm fer a wnaed gan artistiaid sy'n cael ei dangos ym Mhafiliwn Pier Penarth am 2pm Ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr 2023. Mae'r artistiaid ffilm yn rhan o arddangosfa fwy sydd i'w gweld yn Oriel Gelf Ganolog y Barri ac maent yn dod o Gymru, gweddill y DU a gwledydd rhyngwladol. Bydd rhai o'r artistiaid yn ymuno â ni yn y sioe i siarad am eu gwaith.
Mae Pafiliwn Pier Penarth yn falch iawn o fod yn bartner gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i ddod â sesiynau bach Cerddoriaeth Bore gwych i chi. Mae'r rhain yn ddosbarthiadau cerddoriaeth a symud bywiog ar gyfer plant dan 5 oed sy’n llawn hwyl i blant a rhieni at ei gilydd.
The young and dynamic string quartet ‘Quartet Draig' return for a festive concert to end their 2023 residency at Penarth Pier Pavilion. This Christmas concert features well-known festive songs alongside choral works, soundtracks from Christmas films and classic seasonal pieces.
Ymunwch â ni ar gyfer Diwrnod Agored Pafiliwn Penarth 2022 – cyfle i gwrdd â'r tîm a chael gwybodaeth am y lleoliad eiconig hwn! Mae'r diwrnod yn cychwyn gyda chanu carolau o flaen y Pafiliwn am 11am, ac rydym yn falch unwaith eto i gael Band Byddin yr Iachawdwriaeth Penarth i ymuno â ni, a'r cerddor lleol Richard Parry. Ar ôl y canu carolau, dewch fewn i gynhesu gyda the/coffi a mins peis a'r cyfle i edrych o gwmpas yr adeilad hardd yma.
Yn dilyn cyngerdd y gwerthwyd pob tocyn amdano ym mis Ebrill, mae Pafiliwn Pier Penarth yn falch iawn o gyhoeddi dychweliad Clare Teal a Jason Rebello y Nadolig hwn!
Gwisgwch eich hoff wisg Nadoligaidd ac ymunwch â ni y Nadolig hwn ym Mhafiliwn Pier Penarth am ddisgo Nadolig llawn hwyl i blant ddydd Sul 17 Rhagfyr. Rydym yn falch iawn o groesawu'r DJ Sparky Marky yn ôl i'r Pafiliwn gyda'r caneuon a'r gemau Nadolig gorau.