Cynnal a Diogelu Hawliau Tramwy

Mae gan Dirfeddianwyr, Meddianwyr a'r Cyngor gyfrifoldebau o ran cadw llwybrau cyhoeddus ar agor ac ar gael.

 

Yn ogystal â chynnig cyfleoedd hamdden awyr agored ardderchog a mynediad i natur, mae cefn gwlad Bro Morgannwg hefyd yn amgylchedd ar waith.

 

Gall rheoli llwybrau cyhoeddus a thir maent yn ei groesi olygu cydbwysedd gofalus felly rhwng hawliau'r cyhoedd ac anghenion y rheiny sy'n ymwneud â gweithio'r tir.

Anifeiliaid

Ni ddylai anifeiliaid y mae'r ceidwad yn gwybod eu bod yn beryglus gael eu cadw mewn caeau y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt. Os yw anifail o'r fath yn achosi anaf i aelod o'r cyhoedd sy'n defnyddio hawl dramwy, gellid bod trosedd a gallai'r parti a anafwyd erlyn y meddiannydd.

  • Teirw a Gwartheg

    Mae'n drosedd i feddiannydd alluogi tarw i fod yn rhydd mewn cae neu glostir y mae hawl dramwy gyhoeddus yn ei groesi ac eithrio:

    • Pan nad yw'r tarw yn hyn na 10 mis oed neu

    • Pan nad yw'r tarw o frid godro cydnabyddedig ac mae yng nghwmni buchod neu heffrod

    Y bridiau godro cydnabyddedig yw: Ayrshire, Ffrisiaidd Prydeinig, Holstein Prydeinig, Gwartheg Godro Byrgorn, Guernsey, Jersey a Kerry.

     

    Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio'n rheolaidd i ddigwyddiadau sy'n ymwneud â gwartheg ac aelodau'r cyhoedd ar hawliau tramwy ac yn adrodd bod y rhan fwyaf yn codi pan fo buchod sugno a lloi yn rhydd mewn caeau. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu adroddiad a chanllawiau cryno i'r cyhoedd ac i ffermwyr yn Nalen Wybodaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

     

    Mae'r canllawiau hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am ffurf a chynnwys arwyddion y gellid eu defnyddio i ddangos presenoldeb anifeiliaid.

     

  • Cŵn

     

    Dog on the coast

    Gellir dod o hyd i wybodaeth i ddefnyddwyr hawliau tramwy gyda chŵn yn yr adran Defnyddio Hawliau Tramwy.

     

    Ni ddylai cŵn a gedwir ar dir y mae hawl dramwy gyhoeddus yn effeithio arno atal defnyddwyr rhag defnyddio'r llwybr trwy ymddwyn mewn ffordd fygythiol neu frawychus. Os caniateir i gŵn wneud hynny, mae hyn yn niwsans cyhoeddus a gellir ei ystyried yn rhwystr.

     

 

Tir Peryglus yn cyffinio â Hawl Dramwy Gyhoeddus

O bryd i'w gilydd bydd y Cyngor yn dod ar draws peryglon heb eu ffensio ar dir cyfagos sy'n peri peryglon i ddefnyddwyr y llwybr.


Mae gan y Cyngor ddyletswydd i ddiogelu defnyddwyr llwybrau rhag peryglon o'r fath, ac yn y lle cyntaf, bydd yn dechrau deialog â pherchennog y tir cyfagos i'w annog i gael gwared ar y perygl neu’i ffensio'n ddigonol. Gall y Cyngor fynnu bod perchennog y tir peryglus yn cyflawni'r gwaith angenrheidiol trwy gyflwyno rhybudd.

 

Os nad yw'r perchennog yn cydymffurfio â'r rhybudd, gall y Cyngor wneud y gwaith ei hun ac adennill y costau gan y perchennog.

Arwyddion a Hysbysiadau Camarweiniol wedi'u Codi ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Gall arwyddion camarweiniol ac anghyfreithlon atal pobl rhag arfer eu hawl i ddefnyddio llwybrau cyhoeddus yn gyfreithlon ac mae gan y Cyngor ddyletswydd i atal digwyddiadau o'r fath. Gall y Cyngor dynnu arwyddion anghyfreithlon wedi’u Codi ar Hawl Dramwy Gyhoeddus. 

Aredig a Thyfu Cnydau

Lle bynnag y bo modd, dylid osgoi aredig Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Ni ddylid byth aredig llwybrau cyhoeddus os ydynt:

  • Ar hyd ymyl y cae
  • Yn Gilffyrdd Cyfyngedig Traws Cae
  • Yn Gilffordd Traws Cae sydd ar Agor i Unrhyw Draffig

Gellir aredig Llwybrau Cyhoeddus a Llwybrau Ceffylau Cyhoeddus Traws Cae os nad yw'n rhesymol gyfleus eu hosgoi. Pan fydd hyn yn digwydd, rhaid eu nodi ar lawr gwlad a'u gwneud yn rhesymol gyfleus i'w defnyddio o fewn naill ai:

 

  • 14 diwrnod ar ôl aflonyddwch cyntaf y gylchred tyfu cnydau
  • 24 awr ar ôl unrhyw aflonyddwch pellach megis ogedu a hau mewn rhesi

Isod dangosir isafswm lled y llwybr y dylid ei adfer neu’i adael heb ei drin lle na chaniateir aredig:

 

Traws Cae

Ymyl Cae

Llwybr Cyhoeddus

1m

1.5m

Llwybr Ceffyl Cyhoeddus

2m

3m

Cilffordd Gyfyngedig

3m

3m

Cilffordd sydd ar Agor i Unrhyw Draffig

3m

3m


Ar ôl aredig, mae dyletswydd ar berchennog y tir i barhau i sicrhau bod llinell y llwybr yn cael ei thorri i'w lled isaf a'i nodi i ddefnyddwyr trwy gydol y tymor tyfu. Mae hyn hefyd yn cynnwys atal ymledu i'r llwybr o'r ochrau.

Adeileddau a Ffensys

Un o amcanion allweddol yr awdurdod priffyrdd yw gwella mynediad ar hyd hawliau tramwy cyhoeddus, gan ddefnyddio polisi o fynediad cyfyngol lleiaf wrth ystyried cais am osod adeiledd neu newid adeiledd ar draws hawl dramwy gyhoeddus.

 

Yn ymarferol, mae hyn yn golygu:

  •  bod adeileddau presennol yn cael eu harolygu er mwyn sicrhau eu bod yn briodol ac mewn cyflwr da a'u bod yn bodloni manylebau adeileddau
  • os canfyddir bod adeileddau mewn cyflwr gwael, fel arfer mae'n ddyletswydd ar y tirfeddiannwr i'w hatgyweirio, a gellir gofyn iddo eu newid hefyd
  • byddwyn yn cyfeirio at gofnodion hanesyddol i wirio a oes tystiolaeth o adeiledd mewn lleoliad penodol
  • ein nod yw sicrhau'r nifer lleiaf posibl o adeileddau ar y rhwydwaith hawliau tramwy ac i newid camfeydd yn gynyddol.

 

  • Gwifrau Pigog

    Dylid gorchuddio'r gwifrau pigog, neu dynnu’r pigau, ger adeileddau fel camfeydd a gatiau. Dylid gosod gwifrau pigog wrth ymyl hawl dramwy gyhoeddus ar ochr pellaf y pyst, sy'n wynebu i ffwrdd o'r llwybr. Ni ddylid trydanu gwifrau pigog neu unrhyw adeiledd metel arall nad yw'n rhan o ffens (er enghraifft, canllaw ar bont).
  • Ffensys Trydan

    ElectricFenceRhaid arddangos arwyddion rhybudd bob hyn a hyn pan ddefnyddir ffensys trydan. Os oes angen i ffens drydan dros dro groesi llinell llwybr cerdded cyhoeddus, rhaid darparu handlenni wedi'u hinswleiddio er mwyn galluogi pobl i fynd drwyddi a pharhau ar hyd llinell gyfreithiol y llwybr.

    Dylid osgoi gosod ffensys trydan ar draws neu wrth ymyl llwybrau ceffylau, cilffyrdd cyfyngedig neu gilffyrdd sydd ar agor i unrhyw draffig gan eu bod yn berygl mawr i geffylau.

  • Ffensys

    Mae ffensys newydd sydd wedi'u codi ar draws hawl dramwy gyhoeddus yn rhwystrau hyd yn oed os cânt eu gosod gyda chamfeydd neu gatiau, oni bai bod y camfeydd neu'r gatiau hynny wedi cael eu hawdurdodi gan y Cyngor. 

     

    Ni chaniateir codi ffensys o unrhyw fath i dresmasu ar led hawl dramwy gyhoeddus. Holwch y Tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus cyn adeiladu unrhyw ffensys wrth ochr yr hawl dramwy.

  • Camfeydd a Gatiau

    Mae Deddf Priffyrdd 1980 yn rhoi'r cyfrifoldeb am gynnal a chadw'r adeileddau presennol ar hawliau tramwy cyhoeddus ar y tirfeddiannwr ac wrth wneud hynny, mae gan dirfeddiannwr hawl i wneud cais am gyfraniad o 25% gan y Cyngor. Yn ymarferol, dylai tirfeddianwyr sydd ag adeileddau y mae angen eu hatgyweirio neu eu newid gysylltu â'r Cyngor i drefnu cymorth gydag unrhyw waith angenrheidiol.

     

    Dim ond ar sail naill ai rheoli stoc neu ddiogelwch defnyddwyr y gall ceisiadau i'r Cyngor i awdurdodi adeileddau newydd gael eu hystyried. Dim ond ar adegau prin y byddwn yn ystyried ceisiadau ar gyfer camfeydd newydd, gan fod gatiau i gerddwyr a gatiau mochyn yn cynnig opsiwn mynediad llai cyfyngol ar gyfer defnyddwyr llwybrau. 

 

Stile

Awdurdodiad ar gyfer Camfeydd a Gatiau newydd

Mae angen caniatâd yr Awdurdod Priffyrdd (Cyngor) dan adran 147 Ddeddf Priffyrdd 1980 i osod camfeydd a gatiau newydd ar hawl dramwy gyhoeddus.

 

Ni chaiff yr Awdurdod roi caniatâd am gelfi oni bai bod ei angen at ddibenion amaeth (h.y. rheoli stoc) neu goedwigaeth. Gellir rhoi caniatâd gydag amodau ynghlwm a heb amodau.

 

Dylai’r Awdurdod hefyd ystyried anghenion pobl anabl wrth roi caniatâd, gan gynnwys rhoi e

Kissing Gate

gwyddorion ‘Mynediad Lleiaf Cyfyngol’ ar waith.

 

Ystyrir cyfyngiadau i fynediad (megis camfeydd neu gatiau) a godir heb ganiatâd yn rhwystrau. Mae ar yr Awdurdod Priffyrdd rwymedigaeth statudol i amddiffyn a haeru hawliau’r cyhoedd lle bo rhwystrau.

 

Defnyddiwch y Ffurflen Awdurdodi A147 hon er mwyn gwneud cais i godi celfi ar Hawl Dramwy Gyhoeddus.

Arwynebau Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Mae'n drosedd ymyrryd ag arwyneb hawl dramwy gyhoeddus a fydd yn anfanteisio defnyddwyr. Mae hyn yn golygu na chaiff tirfeddiannwr neu feddiannydd gloddio neu hyd yn oed ail-wynebu hawl dramwy gyhoeddus heb gael caniatâd y Cyngor ymlaen llaw.

 

Rhaid i dirfeddianwyr neu feddianwyr sicrhau nad yw eu defnydd preifat o'r llwybr, er enghraifft, mewn cerbydau modur, yn difrodi arwyneb yr Hawl Dramwy Gyhoeddus. Os achosir unrhyw ddifrod, rhaid i'r tirfeddiannwr neu'r meddiannydd ei ail-osod.

 

Coed a Llystyfiant 

  • Rhywogaethau Ymledol

    Os ydych yn ffermwr neu'n dirfeddiannwr, bydd yr wybodaeth am blanhigion gwyllt ar wefan GOV.UK yn dweud wrthych pa blanhigion gwyllt y mae angen i chi gymryd camau yn eu herbyn a chadw llygad amdanynt, a pha rai y mae'n rhaid i chi eu diogelu.

  • Llystyfiant sy’n Gordyfu

    Mae tirfeddianwyr a rheolwyr yn gyfrifol am gynnal a chadw llystyfiant ochr, megis perthi a choed, ar hawl dramwy gyhoeddus neu wrth ei hochr, i sicrhau nad yw'n tyfu dros y llwybr cyhoeddus. Ni ddylai unrhyw ganghennau sy'n gordyfu dros hawl dramwy rwystro defnyddwyr, a dylent fod â chliriad uchder o 3.75 metr ar lwybrau ceffylau.

     

    Os oes angen gwneud gwaith ar goeden, dylid ymgynghori â'r Cyngor rhag ofn y bydd angen cau'r llwybr dros dro ac i sicrhau nad yw'r coed dan sylw yn destun Gorchymyn Diogelu Coed.

     

    Os yw coeden neu gangen sy’n gordyfu yn achosi perygl uniongyrchol i ddefnyddwyr y llwybr, efallai y bydd angen i’r tîm hawliau tramwy drefnu i waith gael ei wneud, neu wneud y gwaith ei hun gan godi tâl ar y perchennog.

  • Llystyfiant Arwyneb


    Cyfrifoldeb y Cyngor yw clirio llystyfiant o arwyneb hawliau tramwy cyhoeddus. Wrth wneud hynny mae'r Cyngor yn gweithredu cynllun clirio blynyddol ar lwybrau blaenoriaeth. Mae'r Cyngor hefyd yn mynd ati i wneud gwaith torri ar lwybrau eraill mewn ffordd ymatebol.