Cost of Living Support Icon
warm Spaces Icon

Ffordd Fawreddog Morgannwg

Gan ehangu Llwybrau Ceffylau Canol De Cymru, rydym yn datblygu llwybr rhanbarthol newydd sy'n ddelfrydol ar gyfer beicio mynydd pellter hir a marchogaeth. 

 

Cycling at Castle Coch

Ariennir gan y Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant (ENRaW) ac mewn cydweithrediad â grwpiau defnyddwyr lleol, ei nod yw datblygu'r llwybrau gwyrdd hyn fel coridorau bywyd gwyllt, sefydlu cyfleoedd twristiaeth newydd a sicrhau cysylltiad dyfnach rhwng tirwedd Cymru a'i phobl. 

 

Mae'r prosiect yn ehangu'r canolfannau Llwybrau Ceffylau presennol, gan wella a chyd-gysylltu llwybrau gwasgaredig ar draws pum sir:

  • Bro Morgannwg

  • Caerdydd

  • Pen-y-bont ar Ogwr

  • Rhondda Cynon Taff

  • Merthyr Tudful

 

Llwybrau ceffylau presennol

Current Bridleways in South Central Wales Map

 

Llwybrau ceffylau oddi ar y ffordd ar hyn o bryd ar draws Canol De Cymru 

 

Llwybrau ceffylau arfaethedig

Green Trails Planned Route Map

 

Rhwydwaith arfaethedig y Llwybr Rhanbarthol, yn cysylltu Llwybrau Ceffylau â thros 262km o lwybrau cysylltiedig.

 

 

Y Prosiect fel ag y mae

Disgwylir i'r gwaith o sefydlu'r Llwybr Rhanbarthol hwn gael ei weithredu rhwng 2020-2023 ac mae wedi derbyn cyllid llawn gan grant ENRaW am y tro hwn, gyda chyllideb refeniw o £1,038,372.00.

 

European Funding logo - no transparency

Gyda'r adnoddau hyn, bydd y prosiect yn gosod y sylfeini ar gyfer llwybr rhanbarthol allweddol yng Nghymru, gan roi llwybrau beicio a marchogaeth ceffylau pellter hir i ymwelwyr, pobl leol a'r cyhoedd yng Nghymru o fewn ffiniau de Cymru.

 

Nodau allweddl

Nodau allweddl y cyfnod hwn yw:

  • Sefydlu bod llwybr rhanbarthol newydd yn bodoli, gan osod y sylfeini cychwynnol drwy gyfuniad o welliannau i lwybrau, ehangu llwybrau a chreu llwybrau a llwybrau ceffylau newydd.

  • Hyrwyddo  defnyddio'r llwybr ar draws y rhanbarth ac annog cydweithio â grwpiau defnyddwyr lleol er mwyn helpu i gyflwyno'r llwybrau a'u cynaliadwyedd wedyn.

  • Sicrhau cefnogaeth grwpiau cadwraeth a chymunedol i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i drawsnewid llwybrau gwyrdd yn goridorau bywyd gwyllt ledled y rhanbarth.

  •  

    Cynllunio ac asesu'r gallu i gael cyfleuster porth Parc Beicio yng Nghoed Lecwydd i gynnig troedle i ymwelwyr â'r llwybr. Mae cynlluniau ar gyfer Parc Ceffylau yn y dyfodol hefyd, ac ar hyn o bryd rydym yn asesu hyfywedd hyn rywle ar hyd y llwybr.

 

Cycling father and daughter

Drwy'r nodau hyn, gobeithiwn sicrhau mwy o amrywiaeth amgylcheddol yn y rhanbarth, gwell llwybrau a chreu llwybrau i drigolion lleol, hwb economaidd yn sgil mwy o dwristiaid a rhwydwaith mwy diogel o lwybrau ceffylau a fydd yn lleihau’n sylweddol ddamweiniau ar y ffyrdd sy'n ymwneud â beicwyr a marchogion.

Bydd hyrwyddo'r llwybr a chydweithredu â'n partneriaid yn helpu i sicrhau cyllid ychwanegol, gan sicrhau bod y prosiect yn cael ei gwblhau i safon Genedlaethol, yn mynd i'r afael â'r diffyg llwybrau oddi ar y ffordd yn y rhanbarth a chysylltu llwybrau cysylltiedig gan roi cyfanswm o 262km o lwybrau ceffylau nas ceir yn unman arall ar draws de Cymru.

 

Ein Partneriaid

Mae nifer o Randdeiliaid a grwpiau allweddol wedi ffurfio partneriaeth â ni er mwyn ein helpu i gyflawni'r prosiect i'r safonau ansawdd uchaf.

 

 

Mae llawer yn rhannu nodau cyffredin gyda ni o ran mynediad cyhoeddus i gefn gwlad a'r gwelliannau y bydd y prosiect yn eu cyflwyno i gymunedau beicio a  marchogaeth. Mae pum Cyngor Sir y Fro, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr, Caerdydd a Rhondda Cynon Taf yn helpu i gefnogi'r prosiect o fewn eu siroedd, ond mae nifer o sefydliadau allanol sydd â buddiannau yn y cynllun sydd wedi partneru er mwyn sicrhau llwyddiant y prosiect.

 

  • Cymdeithas Ceffylau Prydain (BHS)

    Nod y BHS yw diogelu a hyrwyddo buddiannau pob ceffyl a'r rhai sy'n poeni amdanynt, yn eu cadw a'u marchogaeth.

  • Sustrans 

    Gan ganolbwyntio ar iechyd a hapusrwydd pobl, mae Sustrans yn gweithio i wella cyfleoedd a'i gwneud yn haws cerdded a beicio ledled y Deyrnas Gyfunol.

  • Sefydliad Twristiaeth Antur Cymru (WATO) 

    Mae WATO yn cysylltu sefydliadau presennol yn y sector awyr agored ledled Cymru, gan rannu eu canfyddiadau i sefydlu arfer gorau ledled y wlad. 

  • Cycling UK 

    Eu nod yw sicrhau bod pobl o bob oed, cefndir a gallu yn gallu beicio'n ddiogel, yn hawdd a chael pleser.

  • Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru 

    Yn canolbwyntio ar sefyll dros fywyd gwyllt, eu cenhadaeth yw ailadeiladu bioamrywiaeth ac ymgysylltu pobl â'u hamgylchedd drwy greu a gwella cynefinoedd bywyd gwyllt o fewn a thu allan i warchodfeydd natur.

  • Cyngor Sir Bro Morgannwg (CS) 

    Mae'r cyngor hwn yn helpu i ddatblygu'r llwybrau ceffylau yn eu sir.  Mae'r map isod yn dangos y newidiadau sydd i'w gwneud i'r rhanbarth er mwyn datblygu mwy o gysylltiadau a llwybrau i bobl leol ac ymwelwyr â’r rhanbarth. 

     

    Vale of Glamorgan Bridleway improvement map

  • Cyngor Sir Caerdydd (CS) 

    Mae'r cyngor hwn yn helpu i ddatblygu'r llwybrau ceffylau yn ei sir.  Mae'r map isod yn dangos y newidiadau sydd i'w gwneud i'r rhanbarth er mwyn datblygu mwy o gysylltiadau a llwybrau i bobl leol ac ymwelwyr â’r rhanbarth. 

     

    Cardiff Bridleway Improvement map

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CS) 

    Mae'r cyngor hwn yn helpu i ddatblygu'r llwybrau ceffylau yn ei sir.  Mae'r map isod yn dangos y newidiadau sydd i'w gwneud i'r rhanbarth er mwyn datblygu mwy o gysylltiadau a llwybrau i bobl leol ac ymwelwyr â’r rhanbarth. 

     

    Bridgend Bridleway improvement Map

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CS) 

    Mae'r cyngor hwn yn helpu i ddatblygu'r llwybrau ceffylau yn ei sir.  Mae'r map isod yn dangos y newidiadau sydd i'w gwneud i'r rhanbarth er mwyn datblygu mwy o gysylltiadau a llwybrau i bobl leol ac ymwelwyr â’r rhanbarth. 

     

    Merthyr Tydfill Bridleway Improvement Map

  • Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf (CS) 

    Mae'r cyngor hwn yn helpu i ddatblygu'r llwybrau ceffylau yn ei sir.  Mae'r map isod yn dangos y newidiadau sydd i'w gwneud i'r rhanbarth er mwyn datblygu mwy o gysylltiadau a llwybrau i bobl leol ac ymwelwyr â’r rhanbarth. 

     

    Rhondda Cynon Taff Bridleway Improvement Map

 

Cwrdd â’r Tîm

Dyma'r bobl sy'n gweithredu'r prosiect, gan ddod â'u cyfoeth o brofiad ac angerdd i'r llwybr er mwyn meithrin llwybr a fydd yn cysylltu cymunedau ar draws y rhanbarth am flynyddoedd i ddod.

  • Steve Pickering - Arweinydd Tin, Gwasanaethau Cefn Gwlad

  • Madeleine Sims - Swyddog Prosiect, Rhanbarthol

  • James Walker - Uwch Swyddog Maes

  • Rhodri Hewit - Swyddog Maes 

  • Miriam Adam - Swyddog Maes

  • TBC - Swyddog Bioamrywiaeth

 

Cysylltwch â Ni

Welsh Valleys

Ar hyn o bryd rydym yn datblygu Grŵp Ffocws i ymgysylltu'n ddyfnach â'r gymuned a darparu fframwaith peilot ar gyfer y llwybrau newydd wrth iddynt gael eu gweithredu.

Os ydych yn teimlo bod gennych fewnbwn gwerthfawr i'w roi i'r prosiect, neu os oes gennych ddiddordeb mewn treialu neu drafod yr hyn sy'n cael ei wneud, cysylltwch â Madeleine Sims. 

Rydym hefyd yn awyddus i gynnwys unrhyw berson neu grŵp sy'n dymuno cymryd rhan o ran amcanion Ecoleg a Bioamrywiaeth y prosiect.

Byddai croeso cynnes i unrhyw awgrymiadau a digwyddiadau posibl a fyddai'n cyd-fynd â nodau'r prosiect.