Cost of Living Support Icon

Adroddiadau Ymchwiliadau Lifogydd

Adroddiadau ymchwilio mewn perthynas â llifogydd ym Mro Morgannwg

 

Dan Adran 19 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, mae ar Gyngor Bro Morgannwg, fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (ALlLlA), ddyletswydd i ymchwilio llifogydd yn ei ardal a chyhoeddi adroddiadau arnynt i'r graddau y mae'n ystyried sy'n angenrheidiol neu'n briodol.

 

Pan ddaw yn ymwybodol o lifogydd yn ei ardal, rhaid i’r ALlLlA, i'r graddau y mae'n ystyried sy’n angenrheidiol neu'n briodol, ymchwilio’r canlynol:

  • pa awdurdodau rheoli risg sydd â swyddogaethau rheoli risg llifogydd perthnasol

  • a yw pob un o'r awdurdodau rheoli risg hynny wedi arfer, neu'n bwriadu arfer, y swyddogaethau hynny yn ymateb i'r llifogydd

 

Pan fydd awdurdod yn cynnal ymchwiliad dan is-adran rhaid iddo:

  • gyhoeddi canlyniadau ei ymchwiliad

  • hysbysu unrhyw awdurdodau rheoli risg perthnasol

Am ragor o wybodaeth, gweler copi o’r ddeddfwriaeth lawn yma.

 

Trothwyon ar gyfer Cynnal Ymchwiliadau 

Y trothwyon ar gyfer cynnal ymchwiliadau Adran 19 ffurfiol i lifogydd a ddefnyddir gan Gyngor Bro Morgannwg, yn gyffredinol yn unol â'r dangosyddion ar gyfer canlyniadau niweidiol sylweddol fel y'u nodir yn y Strategaeth Rheoli Llifogydd a Dŵr Lleol yw:

  • digwyddiad lle mae naw neu ragor o eiddo wedi dioddef llifogydd mewnol

  • digwyddiad lle mae dau neu ragor o eiddo amhreswyl yn dioddef llifogydd mewnol

  • digwyddiad sy’n achosi llifogydd ar wasanaethau critigol neu’n tarfu'n sylweddol arnynt

  • digwyddiad lle mae llifogydd yn effeithio'n uniongyrchol ar 750m o'r ffordd (Ffordd A, Ffordd B, Stryd Leol a thraffordd) neu reilffordd (unrhyw fath)

  • digwyddiad lle mae llifogydd yn effeithio'n andwyol ar un neu ragor o safleoedd sydd wedi'u dynodi'n amgylcheddol yn genedlaethol neu'n rhyngwladol

  • digwyddiad lle mae llifogydd yn effeithio'n andwyol ar un neu ragor o nodweddion treftadaeth sy’n bwysig yn genedlaethol neu'n rhyngwladol

  • digwyddiad lle mae ardal sy'n fwy na 0.4km2 o dir Gradd 1, 2 neu 3 yn dioddef llifogydd

 

 

Adroddiadau ar Ymchwiliadau i Lifogydd:

 

s.19 report
     
     
s.19
Dogfen  Dyddyad y Llifogydd  Dyddiad Cyhoeddi 

Ymchwiliad Llifogydd, Adran 19 Sili 

23-24 Rhagfyr 2020   Gorffennaf 2021 

Ymchwiliad Llifogydd, Adran 19 Dinas Powys

Ymchwiliad Llifogydd, Adran 19 Dinas Powys - Crynodeb Gweithredol

23-24 Rhagfyr 2020 Tachwedd 2021

Ymchwiliad Llifogydd, Adran 19 Lavernock Road

23-24 Rhagfyr 2020 Mai 2023

Ymchwiliad Llifogydd, Adran 19 Ffordd Sully Moors

29 Chwef - 2 Maw 2020 Mawrth 2023

Ymchwiliad Llifogydd, Adran 19 Ffordd Sully Moors

23-24 Rhagfyr 2020 Rhagfyr 2023

Camau nesaf:

 

Mae'r ymchwiliad Adran 19 ar gyfer Sili wedi nodi fod 18 eiddo wedi ei affeithio gan lifogydd dwr wyneb ar 23ain Rhagfyr 2020. Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi sicrhau cyllid o £149,270 i ddarparu mesurau amddiffyn llifogydd ar lefel adeilad i 21 eiddo yn Sili.

Mae arolygu ar eiddo yn parhau a drefnwyd i osod yn y 6 mis nesaf.

Tra bydd hwn yn amddiffyn yr eiddo unigol, ni fydd yn helpu rhwystro unrhyw effaith ehangach o ganlyniad i lifogydd o erddi, tai allan neu ffyrdd. Gan hynny, bwriadir y Prif Awdurdod Llifogydd Lleol asesu posibilrwydd o gynlyn lefel cymunedol i reoli'r risg o lifogydd dwr wyneb yn yr ardal gan ddechrau drwy gyflwyno cais at Lywodraeth Cymru am gyllid i ddatblygu adroddiad busnes amlinellol. Bydd datblygu adroddiad busnes amlinellol yn gofyn am fodeli manylach o’r risg llifogydd presennol a’r difrod posib , a hefyd asesiad o’r opsiynau gan gynnwys ardaloedd storfa llifogydd neu uwchraddio adeiledd presennol a’r costau cysylltiedig.

Mae’r raddfa amser ar gyfer gwaith materol yn ddibynnol ar leoliad a’r math o waith gan gynnwys y broses o sicrhau’r cyllid angenrheidiol a’r caniatâd.

Yn amodol â chynnig llwyddiannus i Lywodraeth Cymru am Gymorth Amddiffyn rhag Llifogydd, disgwylir bydd y paratoi o’r adroddiad busnes amlinellol yn cychwyn ym mis Ebrill 2022, gyda graddfa amser i’w gwblhau o 6 mis.

 

 

Nododd ymchwiliad Adran 19 ar gyfer Dinas Powys 98 eiddo a gafodd eu heffeithio gan lifogydd mewnol ar 23 Rhagfyr 2020 ac un o'r argymhellion allweddol oedd i ystyried ymarferoldeb mesurau Gwydnwch Llifogydd Eiddo (PFR) ar gyfer eiddo mewn perygl ledled Dinas Powys.  Ers digwyddiad 2020 mae Bro Morgannwg wedi datblygu achos busnes a wedi sicrhau cymorth grant o £2.5M gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gosod PFR mewn 181 eiddo.  Mae’r gwaith o gaffael y contract gosod PFR yn parhau, a disgwylir dyfarniad ym mis Ebrill 2023 yn amodol ar gymeradwyaeth cyllid Llywodraeth Cymru, a rhagwelir rhaglen waith 9 mis o hyd.