Cost of Living Support Icon

Yn ystod Llifogydd 

Gwybodaeth ac arweiniad ar yr hyn ddylid ei wneud yn ystod llifogydd

 

 Gallwch ddefnyddio gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru i gael rhagor o wybodaeth am Beth I’w wneud mewn llifogydd

Rhybuddion Llifogydd

Mae Rhybuddion Llifogydd yn cwmpasu ardaloedd llai ar lefel gymunedol lle rydym yn disgwyl gweld llifogydd i eiddo o afonydd neu'r môr. 

  • Symudwch deulu, anifeiliaid anwes ac eitemau gwerthfawr i fan diogel

  • Diffoddwch gyflenwadau nwy, trydan a dŵr os yw’n ddiogel gwneud hynny.

  • Rhowch offer amddiffyn rhag llifogydd ar waith

   

Rhybudd Llifogydd Difrifol

Cyhoeddir Rhybuddion Llifogydd Difrifol pan fydd llifogydd o afonydd neu'r môr eisoes yn digwydd ac mae perygl i fywyd. 

  • Arhoswch mewn man diogel sydd â modd i ddianc ohono

  • Byddwch yn barod i adael eich cartref os gofynnir i chi wneud hynny gan y gwasanaethau brys.

  • Cydweithredwch â'r gwasanaethau brys

  • Ffoniwch 999 os ydych mewn perygl enbyd

 

Canfod Gwybodaeth Leol

  • Ffoniwch Floodline ar  0345 988 1188

 

 

Os bydd rhaid gadael yr adeilad neu’r eiddo mewn argyfwng

Gwrandewch ar gyngor gan y gwasanaethau brys a gadawch pan ddwedir wrthych am wneud hynny.

 

Cewch eich arwain i ganolfan adael mewn argyfwng dan reolaeth eich cyngor lleol. Darperir bwyd a dillad gwely os oes angen ond bydd angen dillad sbâr, meddyginiaeth hanfodol ac eitemau gofal babanod arnoch os oes baban gennych.

 

Bydd y rhan fwyaf o ganolfannau gadael mewn argyfwng yn gadael i chi ddod â'ch anifeiliaid anwes. Dylech gymryd bwyd anifeiliaid anwes a chofiwch roi eich ci ar dennyn a chathod ac anifeiliaid bach mewn cludwr anifeiliaid anwes neu flwch diogel.

Rhoi gwybod am lifogydd

 

Draeniau a gylïau wedi'u blocio

Rhowch wybod i'r awdurdod lleol am lifogydd a achosir gan ddraeniau, gylïau wedi'u blocio neu ddŵr sy'n rhedeg oddi ar gaeau.

  • 01446 700111

 

Adrodd Ar-lein


Afonydd wedi'u blocio a thirlithriadau

Rhowch wybod i Cyfoeth Naturiol Cymru am lifogydd a achosir gan afonydd wedi'u blocio, tirlithriadau neu lifogydd o afonydd a'r môr

Llinell achos argyfwng 24 awr:

 

  • 03000 65 3000

Llifogydd prif gyflenwad dŵr wedi byrstio

Os achosir llifogydd gan brif gyflenwad dŵr yn byrstio, cysylltwch â Dŵr Cymru ar: 

  • 0800 085 3968

Problemau gyda nwy, trydan neu garthffosiaeth

Os ydych yn pryderu am ddŵr llifogydd sy'n effeithio ar eich gwasanaethau nwy, trydan, dŵr neu garthffosiaeth, cysylltwch â'ch cyflenwr:

 

Dod o hyd i'ch cyflenwr

 

Ar gyfer llifogydd carthffosydd, neu os yw eich toiled neu’ch sinc yn gwthio dŵr yn ôl yn ystod llifogydd, ffoniwch Dŵr Cymru ar: 

  • 0800 085 3968

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar eu gwefan Dŵr Cymru

 

Bagiau Tywod

Nid ydym yn cyflenwi bagiau tywod. Dylech wneud eich trefniadau eich hun i brynu bagiau tywod o siopau DIY a masnachwyr adeiladwyr lleol. Sylwch eich bod hefyd yn gyfrifol am waredu bagiau tywod ail law. Gallant gael eu halogi gan ddŵr llifogydd, carthion, olew neu danwydd ac efallai y bydd angen eu trin fel gwastraff halogedig.

 

Mae Dŵr Llifogydd yn Beryglus

Gall fod wedi'i halogi â charthffosiaeth, cemegolion a gwastraff anifeiliaid felly golchwch eich dwylo'n drylwyr bob amser.

Peidiwch byth â cherdded, gyrru drwodd, na gadael i blant chwarae mewn llifddwr - gall chwe modfedd o ddŵr sy'n llifo'n gyflym eich sgubo oddi ar eich traed a bydd dwy droedfedd o ddŵr yn peri i’ch car arnofio.

  • Gall llifddwr godi'n gyflym iawn - peidiwch byth â cherdded ar amddiffynfeydd môr na glannau afonydd a byddwch yn ymwybodol y gallai pontydd fod yn beryglus i gerdded neu yrru drostynt.

  • Byddwch yn ofalus o goed a llinellau pŵer sydd wedi cwympo. Gall y llif dŵr hefyd beri i orchuddion tyllau archwilio ddod yn rhydd a pheri gorlifo ceuffosydd.

  • Peidiwch â gyrru drwodd na phasio arwyddion Ffordd Ar Gau, mae ffyrdd ar gau er mwyn atal perygl i'r cyhoedd neu i'r rhai sy'n gweithio ar ffyrdd neu wrth eu ymyl.

 

 

Gwybodaeth ac arweiniad ar yr hyn i'w wneud: