Cost of Living Support Icon

Hysbysiad o Dâl Cosb

Caiff ein gwaith papur ei weinyddu gan Bartneriaeth Prosesu Cosbau Cymru (WPPP) sydd wedi'r lleoli yng ngogledd Cymru.

 

CyfeiriadBartneriaeth Prosesu Cosbau Cymru (WPPP), Blwch Post 273, Sir Ddinbych LL18 9EJ 

 

Rhybudd Taliad Cosb

Bydd cerbydau sydd wedi’u parcio’n anghyfreithlon neu’n anghyfrifol yn derbyn tocyn parcio o’r math hwn (RhTC).

 

Rhoddir RhTC dim ond pan fod cerbydau wedi’u parcio mewn ffordd sy’n groes i’r cyfyngiadau. Caiff y RhTC eu gweinyddu gan Bartneriaeth Prosesu Cosbau Cymru (PPCC), sydd â’i phencadlys yng ngogledd Cymru.

 

Os na chaiff y RhTC ei thalu na’i herio o fewn y cyfnod 28 diwrnod a nodir ar flaen y RhTC, gellid cyflwyno Hysbysiad i Berchennog i berchennog cofrestredig y cerbyd, yn hawlio swm llawn y taliad cosb.

 

Os gwneir y taliad o fewn 14 diwrnod, gostyngir y ddirwy gan 50%. Os na wneir y taliad o fewn 14 diwrnod, bydd gofyn talu’r swm cyfan.

 

Os ydych chi’n credu na ddylid talu’r RhTC, gallwch chi herio RhTC ar-lein neu yn ysgrifenedig at y PPCC. Cofiwch gynnwys rhif y RhTC, rhif cofrestru eich car a’ch enw llawn ym mhob gohebiaeth, a datgan sail eich her, yn cynnwys unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r her os yw’n berthnasol.

 

Partneriaeth Prosesu Cosbau Cymru (PCCC) 

 

Nodwch: Ni all Cyngor Bro Morgannwg ymateb i’r her.

 

 

Y Gwasanaeth Dyfarnu Annibynnol

Os caiff eich her ei wrthod, byddwch yn derbyn Hysbysiad o Wrthodiad a fydd yn egluro’r rheswm dros y penderfyniad. Os nad ydych wedi eich bodloni â’r eglurhad, mae gennych hawl i’r mater gael ei ystyried gan ddyfarnwr annibynnol.

 

Bydd cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn yn yr Hysbysiad o Wrthodiad.