Cost of Living Support Icon

Trwyddedau Parcio i Drigolion

Gallwch chi wneud cais am drwydded barcio i drigolion os ydych chi’n byw mewn stryd lle mae cynllun parcio i drigolion yn bodoli, neu gyfyngiadau amser ar barcio ac eithrio trigolion. 

 

Nodwch: nid yw trwyddedau parcio preswyl a thrwyddedau parcio i ymwelwyr yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig. Cyfrifoldeb deiliad y drwydded yw adnewyddu’r trwyddedau cyn iddynt ddod i ben.  I adnewyddu eich trwydded, ail-ymgeisiwch ar-lein neu drwy'r post.

 

Rhaid i gerbydau beidio â bod yn fwy na 2.44m (8 troedfedd) o uchder a 5.49m (18 troedfedd) o hyd.

 

Mae trwyddedau parcio preswylwyr yn flynyddol ac yn ddilys tan ddiwedd y mis cyhoeddi y flwyddyn ganlynol (h.y. os gwnaethoch gais ar 02 Ebrill 2024, byddai’r drwydded yn dod i ben ar 30 Ebrill 2025).

 

Rhaid i ddeiliaid trwyddedau parcio i drigolion sicrhau bod: 

  • Cyfrifoldeb deiliaid y drwydded yw adnewyddu eu trwyddedau cyn iddynt ddod i ben
  • Gallai methu ag arddangos trwydded ddilys arwain at hysbysiad tâl cosb (HTC)

Gall preswylwyr wneud cais am un drwydded ymwelwyr fesul cartref a dim ond ar gyfer parcio byrdymor y gellir ei defnyddio. 

 

Rhaid i ddeiliaid trwyddedau parcio preswylwyr sicrhau:

  • Bod y drwydded yn cael ei harddangos yn glir ar ffenestr flaen y cerbyd fel y gellir ei darllen o'r tu allan i'r cerbyd

  • Bod y drwydded yn ddilys ac nad yw wedi dod i ben

  • Bod y rhif cofrestru a'r stryd yn gywir

 

Mae gan bob trwydded hologramau ac fe'u rhoddir gan ddefnyddio ysgrifbin arbennig gydag inc sy'n gwrthsefyll pylu a dŵr. Bydd eich trwydded yn dangos y stryd/parth y mae’r drwydded yn ddilys ar ei gyfer gan gynnwys rhif cofrestru’r cerbyd a'r dyddiad dod i ben. Bydd unrhyw farciau neu ymgais arall i ddifwyno'r drwydded yn ei gwneud yn annilys yn awtomatig a gall y Swyddog Gorfodi Sifil gymryd camau a chyflwyno Hysbysiad Tâl Cosb (HTC).

 

Darllenwch y Polisi Rheoli Parcio Preswylwyr i gael y manylion llawn.

 

Beth sydd ei angen arnoch i wneud cais

I wneud cais am drwydded rhaid i chi brofi eich bod yn byw yn y cyfeiriad a’ch bod yn berchen ar y cerbyd neu’n cael defnyddio’r cerbyd. Cofiwch amgáu copi o'ch tystiolaeth sy’n dangos eich bod yn byw yn y cyfeiriad ac yn berchen ar y cerbyd.

 

Gwnewch gais ar-lein am drwydded. Derbynnir ceisiadau drwy'r post, ond maent yn cymryd mwy o amser. Peidiwch ag anfon dogfennau gwreiddiol gyda'ch cais drwy'r post.  

 

I brofi eich bod yn byw yn y cyfeiriad rhaid cyflwyno un o'r canlynol:

  • Llyfr Rhent Swyddogol / Cytundeb Tenantiaeth (wedi'i lofnodi gan y landlord)
  • Cyfriflen Banc neu Gymdeithas Adeiladu (dyddiedig o fewn y tri mis diwethaf).
  • Bil Treth Gyngor neu Fil Trydan/Nwy/Dŵr (sy’n cwmpasu’r cyfnod o 3 mis cyn y cais)
  • Llythyr gan gyfreithiwr yn cadarnhau eich bod wedi prynu eiddo

 

I brofi eich bod yn berchen ar y cerbyd neu'n cael defnyddio'r cerbyd, rhaid cyflwyno un o'r canlynol:

  • Dogfen cofrestru’r cerbyd - (llyfr log / V5)
  • Tystysgrif yswiriant modur - (yn dangos enw a rhif cofrestru’r cerbyd)
  • Llythyr gan gwmni prydles neu gyflogwr

 

Gwneud cais am Drwydded Parcio Preswylwyr

 

Cofiwch: 

  • Gall unrhyw un sy'n byw yn y breswylfa wneud cais am drwydded parcio preswylwyr ar gyfer cerbydau sydd wedi’u neilltuo iddynt yn y cyfeiriad hwnnw

  • Rhaid defnyddio trwyddedau ar gerbydau ac yn y strydoedd/parthau y’u rhoddwyd ar eu cyfer yn unig.

  • Os ydych yn byw mewn eiddo cornel sy'n ffinio â dwy stryd sydd â threfniadau parcio preswylwyr, gallwch ddewis pa stryd/parth yr hoffech ddefnyddio'r drwydded ar ei gyfer 

  • Mae trwyddedau'n ddilys am flwyddyn a rhaid eu hadnewyddu'n flynyddol

 


Gwneud cais am Drwydded Flynyddol Parcio i Drigolion


Neu fel arall, lawrlwythwch a chwblhewch ffurflen gais a'i dychwelyd trwy'r post gan gynnwys amlen â chyfeiriad wedi'i stampio i:

 

Cyngor Bro Morgannwg,

Yr Alpau,

Heol Chwarel yr Alpau,
Gwenfô,
CF5 6AA

 

 

Gwneud cais am Drwydded Parcio Ymwelwyr

 

Cofiwch:

  • Rhaid rhoi’r drwydded i ymwelwyr wrth gyrraedd i’w harddangos yn eu cerbyd yn ystod eu harhosiad

  • Dim ond un drwydded ymwelwyr a ganiateir fesul cyfeiriad

  • Mae’r drwydded yn ddilys am flwyddyn a rhaid ei hadnewyddu'n flynyddol.

 


Gwneud cais am Drwydded Ymwelydd


Neu fel arall, lawrlwythwch a chwblhewch ffurflen gais a'i dychwelyd trwy'r post gan gynnwys amlen â chyfeiriad wedi'i stampio i:

 

Cyngor Bro Morgannwg,

Yr Alpau,

Heol Chwarel yr Alpau,
Gwenfô,
CF5 6AA

 

 

 

Trwyddedau Parcio Newydd - Trwyddedau a Gollwyd neu a Ddinistriwyd yn Unig

 

Os yw eich trwydded parcio yn ddilys o hyd ond ei bod:

  • Ar goll

  • Wedi’i dwyn

  • Wedi'i dinistrio'n ddamweiniol

Gallwch wneud cais am drwydded newydd ar-lein

 

 

Os oes angen i chi adnewyddu trwydded barcio, bydd yn rhaid i chi wneud cais eto yn llawn ar-lein neu trwy'r post.

 

  • Pwy all wneud cais am Drwydded Parcio Preswylwyr ac a oes cyfyngiad fesul aelwyd?
     Gall unrhyw un sy'n byw mewn ardal y mae Rheolaethau Parcio Preswylwyr ar waith ynddi wneud cais am drwydded ar gyfer unrhyw gerbydau mae’n berchen arnynt ac sydd wedi’u cofrestru iddo yn y cyfeiriad hwnnw. Dylid defnyddio trwyddedau parcio preswylwyr yn y cerbydau ac yn y strydoedd neu barthau y’u rhoddwyd ar eu cyfer yn unig.

 

  • A allaf wneud cais am Drwydded Parcio Preswylwyr ar gyfer car cwmni?
     Gallwch, ar yr amod mai eich prif breswylfa ydyw a'ch bod yn dangos tystiolaeth gan eich cwmni bod y cerbyd at eich defnydd chi yn unig. Ni ddylai’r cerbyd fod yn fwy na 2.44m o uchder na 5.49m o hyd, â mwy na wyth sedd yn ogystal â sedd y gyrrwr neu’n pwyso dros 3.5 tunnell.
  • Pwy all wneud cais am drwydded ymwelwyr ac a oes cyfyngiad ar nifer y trwyddedau y gallwch wneud cais amdanynt?
     Gall preswylwyr wneud cais am un drwydded Ymwelwyr fesul eiddo, p'un a oes cerbyd wedi'i gofrestru yn y cyfeiriad hwnnw ai peidio. Dim ond ymwelwyr all ddefnyddio trwyddedau ymwelwyr a dim ond er mwyn parcio am gyfnodau byrdymor. 
  • Nid oes byth unrhyw leoedd gwag ger fy nhŷ, a allaf barcio yn y stryd nesaf?
     Na allwch, yn anffodus. Ar hyn o bryd, dim ond ar gyfer y stryd neu'r parth yr ydych yn byw ynddo y mae'r drwydded yn ddilys. Os ydych yn byw ar lain gornel ac mae trefniadau trwyddedau parcio ar waith yn y ddwy stryd sy’n ffinio â’ch eiddo, gallwch ddewis y stryd/parth yr hoffech i’ch trwydded fod yn ddilys ar ei gyfer.
  • A oes cyfyngiad o ran maint cerbydau?

     Oes, ni fydd cerbydau sy'n fwy na 2.44M o uchder a 5.49M o hyd neu sydd â mwy nag wyth sedd, yn ogystal â sedd y gyrrwr, neu sy’n pwyso dros 3.5 tunnell, yn gymwys i gael trwydded parcio preswylwyr o fewn cynlluniau Mannau Parcio Preswylwyr lle mae mannau wedi’u marcio.

    Fodd bynnag, mewn cynlluniau Mannau Parcio â Thrwydded i Breswylwyr dynodedig lle nad oes mannau wedi’u marcio, bydd carafanau modur a faniau gwersylla sy’n fwy na 2.44m o uchder a 5.49m o hyd, neu sy’n pwyso dros 3.5 tunnell, yn gymwys ar gyfer Trwydded Parcio Preswylwyr ar yr amod bod y cerbyd wedi’i gofrestru yn yr eiddo. NI chaniateir trwyddedau ymwelwyr ar gyfer cerbydau o’r fath yn yr ardaloedd hyn.

  • Os byddaf yn newid fy ngherbyd a fydd fy Nhrwydded Parcio Preswylwyr yn ddilys o hyd?
     Nid oes modd trosglwyddo trwyddedau dan unrhyw amgylchiadau. Os ydych wedi newid eich cerbyd neu'n bwriadu ei newid, bydd angen i chi wneud cais am Drwydded Parcio Preswylwyr newydd, cyn gynted â phosibl gan na fydd eich trwydded bresennol yn ddilys ar gyfer eich cerbyd newydd. Cofiwch mai cyfrifoldeb y preswylwyr yw sicrhau eu bod yn rhoi digon o amser i'r drwydded newydd gael ei phrosesu er mwyn osgoi camau gorfodi.
  • Beth sy'n digwydd os bydd gwaith yn cael ei wneud ar fy nhŷ?
     Bydd angen i gerbydau masnach arddangos trwydded ymwelwyr ddilys ar gyfer pob diwrnod y maent yn parcio ar y briffordd gyhoeddus mewn ardal Rheoli Parcio Preswylwyr.
  • A fydd trwydded barcio yn gwarantu'r hawl i mi barcio y tu allan i'm tŷ?
     Na fydd, ni allwn gadw lleoedd parcio ar gyfer grwpiau neu unigolion. Fodd bynnag, drwy atal cymudwyr ac ati rhag parcio yn eich stryd/parth, bydd yn llawer mwy tebygol y byddwch yn dod o hyd i le parcio ger eich cartref.
  • Sut mae'r cynllun yn cael ei orfodi?
     Gall Swyddogion Parcio Sifil ddefnyddio’r gronfa ddata trwyddedau mewn amser real sy’n eu galluogi i gadarnhau a oes gan gerbydau ganiatâd dilys i barcio yn y lleoliad y maen nhw wedi’u parcio ynddo. 
  • A allwn ni gael Cynllun Parcio Preswylwyr yn ein stryd ni?
     Edrychwch ar dudalen we’r Cynllun Preswylwyr i gael mwy o wybodaeth am hyn.

 

 

Mae darpariaeth trwyddedau parcio i drigolion yn eithrio datblygiadau tai newydd yn benodol, am fod disgwyl i barcio addas fod ar gael ar y safle.