Cost of Living Support Icon

Mannau Parcio i’r Anabl 

Mae mannau parcio i’r anabl, neu lecynnau parcio i bobl ag anabledd i roi eu henw swyddogol iddynt, yn cynnig parcio digyfyngiad i ddefnyddwyr cerbydau sy’n gymwys o dan Reoliadau Unigolyn ag Anabledd (Bathodynnau i Gerbydau Modur) Cymru 2000 ar hyn o bryd. 

 

Nid yw gwneud cais am Fan Parcio i’r Anabl o flaen cartref yn golygu ei fod at ddefnydd yr ymgeisydd yn unig, a gellir ei ddefnyddio gan unrhyw ddeiliad Bathodyn Glas.

  

Cymhwysedd ar gyfer Man Parcio i’r Anabl 

Rhaid i bob ymgeisydd gyflawni’r meini prawf isod, neu mi gaiff y cais ei wrthod. 

  • Rhaid bod y cyfeiriad yn gartref parhaol i’r ymgeisydd.
  • Rhaid bod y gyrrwr neu’r teithiwr yn berchen ar gar sydd wedi’i gofrestru yn y cyfeiriad hwn.
  • Rhaid bod yn ddeiliad Bathodyn Parcio i Bobl ag Anabledd (Bathodyn Glas).
  • Ni ddylai fod gan yr ymgeisydd fynediad i fan parcio oddi ar y stryd (e.e. garej, dreif neu debyg), a rhaid i’r unig fan sydd ar gael fod ar y briffordd fabwysiedig o flaen eu tŷ.
  • Os nad yr ymgeisydd yw’r person ag anabledd (e.e. yn achos plant), rhaid i’r ymgeisydd fod yn derbyn cyfradd symudoldeb uwch y Lwfans Byw i’r Anabl, neu fod ganddynt anabledd parhaus a difrifol sy’n effeithio’n sylweddol ar eu gallu i symud, neu fod yn ddibynnol ar gadair olwyn neu anallu i ddeall rheolau sylfaenol diogelwch y ffordd. Rhaid darparu tystiolaeth.

Nodwch: cynhelir pum arolwg o’r cyfleusterau parcio ger tŷ’r ymgeisydd ar wahanol adegau o’r dydd a gyda’r nos, a rhaid nad oes man parcio cyfleus o fewn 25 metr o gartref yr ymgeisydd. 

 

Gwneud Cais am Fan Parcio i’r Anabl 

Os ydych chi’n dymuno gwneud cais, llenwch y ffurflen isod:

 

 

Anfonwch ffurflenni cyflawn at: 

Cyngor Bro Morgannwg 

Y Swyddfeydd Dinesig

Holton Road

Y Barri 

CF63 4RU

  • visible@valeofglamorgan.gov.uk

 

Disabled-Parking-logo

Cynllun Parcio’r Bathodyn Glas  

Mae Cynllun Ewropeaidd y Bathodyn Glas yn helpu pobl sydd â chyfyngiadau difrifol wrth symud o gwmpas.

 

Gall deiliad y bathodyn fod yn yrrwr neu’n deithiwr. Mae car sy’n arddangos Bathodyn Glas yn medru parcio’n agosach at siopau ac adeiladau cyhoeddus, er enghraifft mewn Mannau Parcio i Bobl ag Anabledd neu ar linellau melyn dwbl.

 

Cynllun Parcio’r Bathodyn Glas