Cost of Living Support Icon

School road safety signAddysg Diogelwch y Ffordd

Mae angen meithrin ymwybyddiaeth o ddiogelwch y ffordd yn ifanc, a pharhau i dalu sylw iddo gydol oes.

 

Mae ein Swyddogion Diogelwch y Ffordd a Hebryngwyr Croesfannau Ysgolion yn helpu plant o bob oed sut i fod yn ddiogel ar y ffordd.

 

Bydd dysgu ymdopi â’r risgiau fydd yn eu hwynebu yn rhoi hyder i’n pobl ifanc – a’u rhieni – i fwynhau rhyddid teithio a chrwydro. 

 

  • Cynllun Kerbcraft - plant 5-7 oed 

    Mae’r cynllun Kerbcraft yn dysgu plant 5-7 oed sut i fod yn gerddwyr mwy diogel drwy fynd â nhw ar hyd ffyrdd go iawn a dangos iddyn nhw sut i ymddwyn a gwneud y penderfyniadau gorau i wneud yn siŵr eu bod mor ddiogel â phosibl. 

     

     

    1. Adnabod mannau diogel i groesi'r ffordd

    Helpu plant i ddeall peryglon a dewis man diogel i groesi’r ffordd.

     

    2. Croesi’n ddiogel ger ceir wedi’u parcio

    Dysgu plant sut i weithredu’n fwy diogel os oes rhaid croesi’r ffordd mewn man lle mae llawer o geir wedi’u parcio. 

     

    3. Croesi’n ddiogel wrth gyffordd

    Cyflwyno plant i broblemau cyffyrdd syml a chymhleth, a’u dysgu i edrych i bob cyfeiriad yn ei dro cyn croesi.

     

    Cynhelir gwersi ymarferol y tu allan i’r dosbarth wrth ymyl y ffordd mewn strydoedd gerllaw’r ysgol fel rhan o’r cynllun. Mae’r modd realistig hwn o ddysgu’n sicrhau y bydd plant yn medru ymdopi â sefyllfaoedd bob dydd yn y dyfodol. Bydd pob plentyn yn derbyn hanner awr o hyfforddiant bob wythnos am uchafswm o 12 wythnos mewn un flwyddyn ysgol i ymarfer y tair sgìl wahanol. Fel arfer, bydd hyn yn digwydd ar yr un adeg unwaith yr wythnos yn ystod cyfnod yr hyfforddiant.

     

    Mae’r plant ieuengaf yn cael eu hyfforddi gan Gydlynydd Kerbcraft a hyfforddwyr gwirfoddol cymwys sydd wedi eu gwirio drwy’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Fel arfer, rhieni sydd wedi eu recriwtio drwy’r ysgol yw’r gwirfoddolwyr. Mae diogelwch y plant yn flaenoriaeth bob amser. Byddant yn dysgu mewn parau o dan oruchwyliaeth gyson ac yn derbyn cyfarwyddyd i ddal dwylo drwy’r amser. Bydd plant a hyfforddwyr yn gwisgo ffedogau llachar. Gellir addasu cynllun Kerbcraft ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol.

     

    Caiff y cynllun ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n gynllun tymor hir dros flwyddyn ysgol, a’i nod yw llywio camau cyntaf plant wrth iddynt baratoi at anghenion diogelwch y ffordd yn y dyfodol. Nid yw’n fwriad iddo weithredu fel mesur o annibyniaeth, a dylai rhieni ddilyn cyngor y Llywodraeth i sicrhau bod plant o dan wyth oed yng nghwmni unigolyn cyfrifol wrth ochr y ffordd bob amser.

  • Cynllun Tufty - plant o dan 5 oed

    Caiff pob ysgol ym Mro Morgannwg gynnig ymweliad gan Tufty’r wiwer â’u dosbarthiadau blynyddoedd cynnar ac iau.

     

    Drwy gyfrwng ffilmiau, llyfrau a straeon syml iawn, mae Tufty’n darbwyllo plant oed meithrin y gall y ffordd fod yn beryglus. Gwneir hyn drwy ddangos peli’n bostio neu hufen iâ yn disgyn ar lawr, yn hytrach na delweddau anaddas i blant iau, megis gwiwerod wedi’u gwasgu.

     

    Mae cyflwyniad Swyddogion Diogelwch y Ffordd yn para tua hanner awr, ac mae’n defnyddio pypedau a darluniau lliwgar. Mae’n crybwyll amrywiaeth o bynciau diogelwch y ffordd sylfaenol megis dal dwylo, pobl all eu helpu nhw, a mannau diogel i chwarae a chroesi’r ffordd.

     

    www.tuftyclub.org.uk

  • Digwyddiad Crucial Crew - plant 10-11 oed

    Gemau a chwisys, cyngor a chanllawiau diogelwch y ffordd i blant 6-11 oed a’u rhieni.

     

    Digwyddiad blynyddol i holl blant 10-11 oed ym Mro Morgannwg yw hwn. Gwahoddir pob ysgol gynradd i ymweld am hanner diwrnod i brofi amrywiaeth o sefyllfaoedd rhyngweithiol wedi eu cyflwyno gan nifer o sefydliadau proffesiynol.

     

    Cynhelir digwyddiad Crucial Crew dros gyfnod o dair wythnos ym mis Mai / Mehefin ar gyfer Bro Morgannwg, a chaiff ei drefnu gan Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion De Cymru. Ei ddiben yw codi ymwybyddiaeth disgyblion o bob agwedd o ddiogelwch personol.

     

    Lleolir y digwyddiad yn y Parth Diogelwch yn Nhrefforest, sef pentref gwneud lle gall plant ddysgu am sefyllfaoedd peryglus sy’n bosibl mewn bywyd go iawn mewn man diogel. Mae disgyblion Blwyddyn 6 yn treulio deng munud wrth bob gorsaf ryngweithiol, lle gwelir un agwedd ar ddiogelwch, gan gynnwys diogelwch y ffordd, yr heddlu, y gwasanaethau tân, ailgylchu a safle adeiladu.

     

    Mae set pob digwyddiad yn rhyngweithiol yn achos pob asiantaeth. Caiff disgyblion eu rhannu’n grwpiau bach ac maent yn treulio deng munud ar bob set, a derbyn nifer o dasgau a sefyllfaoedd mae gofyn iddyn nhw ymateb iddynt.

     

    Mae sefyllfa ddychmygol diogelwch y ffordd yn dangos peryglon peidio gwisgo gwregys yrru, ac mae Ted y tedi druan yn amlygu canlyniadau peidio â gwneud hyn yn hynod eglur. 

     

     

  • Hyfforddiant Seiclo - Lefel 1

    Gemau a chwisys, cyngor a chanllawiau diogelwch y ffordd i blant 6-11 oed a’u rhieni.

     

    Digwyddiad blynyddol i holl blant 10-11 oed ym Mro Morgannwg yw hwn. Gwahoddir pob ysgol gynradd i ymweld am hanner diwrnod i brofi amrywiaeth o sefyllfaoedd rhyngweithiol wedi eu cyflwyno gan nifer o sefydliadau proffesiynol.

     

    Cynhelir digwyddiad Crucial Crew dros gyfnod o dair wythnos ym mis Mai / Mehefin ar gyfer Bro Morgannwg, a chaiff ei drefnu gan Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion De Cymru. Ei ddiben yw codi ymwybyddiaeth disgyblion o bob agwedd o ddiogelwch personol.

     

    Lleolir y digwyddiad yn y Parth Diogelwch yn Nhrefforest, sef pentref gwneud lle gall plant ddysgu am sefyllfaoedd peryglus sy’n bosibl mewn bywyd go iawn mewn man diogel. Mae disgyblion Blwyddyn 6 yn treulio deng munud wrth bob gorsaf ryngweithiol, lle gwelir un agwedd ar ddiogelwch, gan gynnwys diogelwch y ffordd, yr heddlu, y gwasanaethau tân, ailgylchu a safle adeiladu.

     

    Mae set pob digwyddiad yn rhyngweithiol yn achos pob asiantaeth. Caiff disgyblion eu rhannu’n grwpiau bach ac maent yn treulio deng munud ar bob set, a derbyn nifer o dasgau a sefyllfaoedd mae gofyn iddyn nhw ymateb iddynt.

     

    Mae sefyllfa ddychmygol diogelwch y ffordd yn dangos peryglon peidio gwisgo gwregys yrru, ac mae Ted y tedi druan yn amlygu canlyniadau peidio â gwneud hyn yn hynod eglur. 

  • Hyfforddiant Seiclo - Lefel 2

    Os yw’r plentyn wedi llwyddo i gyrraedd Lefel 1 y Safonau Cenedlaethol, bydd yn symud ymlaen at Lefel 2. Cwrs ‘ar y ffordd’ yw hwn, sy’n para am awr a hanner bob dydd am dridiau ychwanegol.

     

    Nod y cwrs yw annog a datblygu sgiliau seiclo diogel yn ogystal â meithrin agwedd gadarnhaol at ddefnyddio’r ffordd, cynyddu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o amgylchiadau’r ffordd a thraffig, ac ennyn hyder yn y dysgwyr i seiclo ar heolydd lleol.

     

    Caiff yr hyfforddiant ei gynnal ar ffyrdd lleol. Mae 15 amcan dysgu gorfodol i Lefel 2, a rhaid cyflawni’r rhain er mwyn cwblhau’r cwrs. Dyma nhw:

    - Holl amcanion Lefel 1

    - Dechrau taith ar y ffordd

    - Gorffen taith ar y ffordd

    - Bod yn ymwybodol o beryglon posibl

    - Deall pryd a sut i ddangos bwriad i ddefnyddwyr eraill y ffordd

    - Deall ymhle i seiclo ar ffordd sy’n cael ei defnyddio

    - Mynd heibio i gerbydau wedi’u parcio neu sy’n symud yn araf

    - Mynd heibio i ffyrdd ochr

    - Troi i’r dde i heol lai

    - Gwneud tro pedol

    - Troi i’r dde i heol fawr

    - Troi i’r dde oddi ar heol fawr i heol fach

    - Dangos y gallu i wneud penderfyniadau a dealltwriaeth o strategaeth seiclo diogel

    - Dangos dealltwriaeth syllfaenol o Reolau’r Ffordd Fawr.

     

    Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i ddatblygu sgiliau arsylwi a hawster trin, cyflwyno Rheolau’r Forddd Fawr i ddenfyddwyr ifanc y ffyrdd, dysgu pwysigrwydd cynnal a chadw beic, meithrin ymwybyddiaeth o beryglon a darparu gwybodaeth a chyngor ar gael eich gweld a gwisgo helmed diogelwch.

     

    I gloi, mae’n cynnig cyfle i gynyddu ymwybyddiaeth plentyn o beryglon a allai eu hwynebu wrth iddynt seiclo ar y ffyrdd. Mae pob plentyn yn derbyn tystysgrif am fynychu pob sesiwn a chyrraedd lefel cymhwysedd y Safonau Cenedlaethol priodol. Nodwch nad yw’r cwrs hwn yn rhoi hawl i blant seiclo i’r ysgol. Penderfyniad y rhiant / gwarcheidwad fydd hwn yn y pen draw. 

  • Theatr mewn Addysg

    Mae Theatr mewn Addysg yn ddull gwych o ddarparu Addysg Diogelwch y Ffordd i ddisgyblion ysgol o bob oed.

     

    Cynhelir amrywiaeth o gynyrchiadau bob blwyddyn i bob ysgol gynradd ac uwchradd ledled dalgylch yr awdurdod, i gyfleu negeseuon diogelwch y ffordd pwysig mewn dull difyr a dyfeisgar.

     

    Yn ogystal, mae nifer o gwmnïau theatr a dramâu ar gael i ysgolion ar thema diogelwch y ffordd.

     

    Mae gan theatr ffordd unigryw o gyflwyno gwybodaeth i gynulleidfa, yn enwedig gan fod diogelwch y ffordd yn medru bod yn bwnc anodd i’w drosglwyddo.

     

    Caiff y dramâu i gyd eu hariannu gan Gyngor Bro Morgannwg, ac maent yn boblogaidd iawn mewn ysgolion a chymunedau yn y Fro. 

Am wybodaeth bellach ar y cyrsiau sydd ar gael, cysylltwch â thîm diogelwch y ffordd: