Cost of Living Support Icon

Cynlluniau Diogelwch y Ffordd

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithredu i wella diogelwch y ffordd mewn ardaloedd trafferthus drwy gynllunio croesfannau a darparu ffyrdd diogel ar gyfer ysgolion a chymunedau

 

Nod adran diogelwch y ffordd yw meithrin amgylchiadau diogelach i holl ddefnyddwyr y ffyrdd. Mae archwiliadau’n cael eu cynnal ar safleoedd ledled y Fro lle mae cofnod o wrthdrawiadau gwael, er mwyn nodi achosion cyfrannol posib o ran nodweddion y briffordd. Yn sgil dadansoddi data ar safle gwrthdrawiadau, gellid gweithredu cynlluniau peirianegol diogelwch y ffordd i’w hyrwyddo, eu cynllunio a’u gosod, i leihau nifer y damweiniau yn y dyfodol.

 

 

Rydyn ni’n cynnig ystod eang o wasanaethau archwilio diogelwch y ffordd i ddatblygwyr sy’n newid strwythur y briffordd. Mae proses yr archwiliad diogelwch yn sicrhau bod unrhyw newidiadau a wneir i’r briffordd yn ddiogel, ac na fyddant yn cynyddu’r risg i ddefnyddwyr y ffyrdd dan sylw. 

 

Os oes gennych bryderon am lain benodol o unrhyw heol, cysylltwch â ni er mwyn i ni ei harchwilio.

 

Road safety signs and marking

Ffyrdd Diogel mewn Cymunedau

Gall gweithgareddau Cynllun Ffyrdd Diogel mewn Cymunedau gynnwys darparu lloches ganolog i gerddwyr, culhau ffordd, gwella palmentydd a llwybrau troed, a datblygu lonydd seiclo ac adnoddau ychwanegol megis mannau parcio beic.

 

Gall cymunedau lleol, ysgolion neu unrhyw grŵp arall gynnig cynlluniau teithio sy’n dynodi problemau sy’n ymwneud â diogelwch y ffordd a theithio cynaliadwy fel ei gilydd.

 

Bydd lladmerydd y Cynllun Teithio yn y gymuned yn llunio cynllun ac yn ei gyflwyno i uned ddiogelwch y Cyngor, a fydd yn asesu’r Cynllun yn unol â gofynion unrhyw grant.

 

Bydd y cynigion yn cael eu hasesu fel rhan o’r cais Ffyrdd Diogel mewn Cymunedau fydd yn mynd at Lywodraeth Cymru.

 

 

Deddfwriaeth cyflymder 20mya safonol newydd

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyflwyno terfyn cyflymder 20mya safonol ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru o fis Medi 2023.

 

Ffordd gyda goleuadau stryd nad ydynt yn fwy na 200 llath ar wahân, fel arfer mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig yw ffordd gyfyngedig.

 

Pan ddaw’r ddeddf newydd i rym, bydd yr holl ffyrdd cyfyngedig yn cael eu newid o 30mya i 20mya.  Mae hyn yn golygu na chewch deithio’n gyflymach na 20mya ar y ffyrdd hyn yn ôl y gyfraith.

 

Bydd rhai ffyrdd yn parhau â therfyn cyflymder o 30mya.  Bydd gan y rhain arwyddion fel sydd gan ffyrdd â therfynau cyflymder uwch ar hyn o bryd.

 

Gallai lleihau'r terfyn cyflymder o 30mya i 20mya greu llawer o fanteision. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Mwy o gyfleoedd i gerdded a beicio yn ein cymunedau
  • Helpu i wella ein hiechyd a’n lles
  • Gwneud ein strydoedd yn fwy diogel
  • Lleihau gwrthdrawiadau ar y ffyrdd; a
  • Diogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y dolenni isod:

https://llyw.cymru/cyflwyno-terfynau-cyflymder-20mya

https://llyw.cymru/cynnig-i-ostwng-y-terfyn-cyflymder-ar-ffyrdd-cyfyngedig-i-20mya-crynodeb-or-ymatebion-html

Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 (DRAFFT)

Taflen 20mya Llywodraeth Cymru - Gorffennaf 2022

Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya: cwestiynau cyffredin | LLYW.CYMRU

 

Ceir isod ddolenni i ddwy ffilm fer wedi'u ffilmio yn Llandudoch gafodd eu creu gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo terfynau cyflymder 20mya: