Cost of Living Support Icon

Hebryngwyr Croesfannau Ysgolion

Pan fod gyrwyr yn gweld hebryngydd yn camu i’r ffordd o’u blaen gan ddal yr arwydd STOP, RHAID iddynt STOPIO i adael i bobl groesi’r ffordd (Rheol 87 , Rheolau’r Ffordd Fawr)

 

Mae’n drosedd o dan Ddeddf Traffig y Ffordd 1984 i beidio â stopio ar ôl derbyn arwydd i wneud hynny gan Hebryngydd Croesfannau Ysgolion. 

 

Os na fyddwch chi’n stopio, mae’r cosbau posibl yn cynnwys: 

  • Dirwy o hyd at £1,000
  • Tri phwynt cosb ar eich trwydded yrru
  • Gwaharddiad rhag gyrru

 

Ar heolydd prysur heddiw, mae gofyn meddu ar nodweddion arbennig iawn i gamu i’r ffordd a stopio traffig, a dal sylw plant gydol yr adeg maent yn croesi’r heol. Er bod y rhan fwyaf o yrwyr yn gwrtais ac yn amyneddgar pan fod hebryngwyr yn cyflawni eu dyletswyddau, mae nifer yr achosion o yrru peryglus ac ymddygiad ymosodol at hebryngwyr croesfannau ysgol wedi cynyddu.

 

Mae Swyddogion Hebrwng Croesfannau Ysgolion yn cyflawni gwaith hanfodol drwy sirchau bod plant a cherddwyr eraill yn croesi’n ddiogel wrth gerdded yn ôl ac ymlaen i’r ysgol. Gan fod cynnydd cyson mewn traffig ar ein ffyrdd ym Mro Morgannwg, mae’n gynyddol bwysig i annog gyrwyr i yrru’n ddiogel. Hoffem ofyn i yrwyr feddwl am bwysigrwydd y ddyletswydd mae’r hebryngwyr yn ei chyflawni a’u helpu yn hytrach na’u rhwystro. 

 

lollipop sign

Dod yn Swyddog Hebrwng Croesfannau Ysgolion

Os ydych chi’n chwilio am ychydig oriau o waith â thâl da yn yr awyr agored, ac yn mwynhau cwrdd â phobl, gallech chi ystyried ceisio am swydd fel ‘swyddog lolipop’ neu Swyddog Hebrwng Croesfannau Ysgolion.

 

Oriau’r gwaith yw dwy awr y diwrnod yn ystod y tymor yn unig, ag ernes o hanner y tâl dros wyliau’r ysgol.

 

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Thîm Diogelwch y Ffordd:

 

Diogelwch y Ffordd

Cyngor Bro Morgannwg

Yr Alpau

Gwenfô

CF5 6AA