Cost of Living Support Icon

Gyrru'n Ddiogel

Cyngor ar ddiogelwch y ffordd ac arweiniad i yrwyr ifanc, gyrwyr hŷn, beicwyr modur a seiclwyr ym Mro Morgannwg.

 

 

Pass Plus logo

Gyrwyr ifanc: 17-25 oed

Fersiwn uwch o gwrs safonol Pass Plus yw Pass Plus Cymru, a chaiff ei gymeradwyo gan yr Asiantaeth Safonau Gyrru. 

 

Mae’r cwrs gyrru byr wedi ei ddysgu gan arbenigwyr, a’i nod yw datblygu arferion da, cynyddu ymwybyddiaeth ac ehangu profiad. Mae ar gael i bobl ifanc rhwng 17 a 25 oed yng Nghymru am £20 yn unig, a thelir y gweddill gan Lywodraeth Cymru ar ffurf grant i awdurdodau lleol. 

 

Mae Pass Plus yn canolbwyntio ar yr isod: 

  • Gyrru ar y draffordd

  • Arferion gyrru ac ymwybyddiaeth o beryglon posibl

  • Gyrru yn y nos

  • Ymdopi â threfi a dinasoedd prysur

  • Gyrru ar lonydd cefn gwlad

  • Meddwl ymlaen

 

Buddion Pass Plus:

  • Gwella sgiliau gyrru

  • Gwell gyfle i gael yswiriant rhatach

  • Llai o bosibilrwydd o gael gwrthdrawiad neu frifo'ch hun, eich ffrindiau ac eraill

 

Rhagnodi Lle

Mae Adran Diogelwch y Ffordd Cyngor Bro Morgannwg, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, yn cynnal cyrsiau Pass Plus bob mis yng Ngorsaf Dân y Barri.

 

I gadw eich lle, ewch i wefan Diogelwch Ffyrdd Cymru neu ffoniwch:

  • 0845 050 4255

 

Diogelwch Ffyrdd Cymru

 

Vale of Glamorgan Libraries Logo

Ymarfer eich Prawf Gyrru Theori

Gall trigolion y Fro sy’n dysgu gyrru ymarfer ar gyfer eu prawf theori yn eu llyfrgell leol.

 

Ceir mynediad i adnodd Theory Test Pro yn rhad ac am ddim i aelodau’r llyfrgell drwy alw i mewn i unrhyw un o lyfrgelloedd Bro Morgannwg.

 

Gall aelodau gael mynediad o bell i Theory Test Pro drwy ddefnyddio’u cerdyn llyfrgell hefyd.

 

Theory Test Pro

Rush-hour-traffic-congestion

Cyrsiau Gloywi Gyrwyr Hŷn

Dydy hi byth yn rhy hwyr i wella ein sgiliau, gan gynnwys gyrru. Mae adran Diogelwch y Ffordd Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig cwrs gloywi hanner diwrnod i drigolion y Fro.

 

Un sesiwn theori hanner diwrnod ac awr ymarferol yn gyrru ar y ffordd (dewisol).

 

Mae’r cwrs yn addas i bobl sy’n dymuno diweddaru/gwella eu sgiliau gyrru, neu sydd heb yrru ers peth amser ac sydd angen meithrin eu hyder. 

 

Yn ystod y sesiwn hanner diwrnod, ceir:

  • Cyflwyniad - cynyddu ymwybyddiaeth y gyrrwr, gan gyn-yrrwr heddlu cymwys
  • Cyflwyniad gan optegydd lleol
  • Cyfle i yrru (ar ddiwrnod arall) gyda hyfforddwr cymeradwy (dewisol)

 

Cynhelir cyrsiau gydol y flwyddyn mewn gwahanol leoliadau ym Mro Morgannwg. Am wybodaeth bellach ac i nodi eich diddordeb, cysylltwch â:

 

  • 01446 704768
BikeSafe-logo

Cynllun BikeSafe Cymru

Cynllun cynghori, asesu ac atgyfeirio i feicwyr modur yw BikeSafe. Yr heddlu sy’n ei weinyddu, ac mae gweithdai’n cael eu cynnal dros fisoedd y gwanwyn a’r haf fel arfer. Gallwch ddefnyddio’r wefan hon i weld manylion a rhagnodi lle mewn gweithdy yn eich ardal.

 

Nod BikeSafe yw annog y sawl sy’n mynd i’r gweithdai i fanteisio ar y cyfle i ddilyn hyfforddiant achrededig ar ôl pasio’r prawf, ac annog ymddygiad ac agweddau positif ymhlith beicwyr modur.

 

Ewch i wefan Bikesafe am wybodaeth bellach ac i ddod o hyd i fanylion y gweithdai:

 

www.bikesafe.co.uk

Car driving through surface water

Cyngor ar yrru yn y gaeaf

Mae gyrru yn y gaeaf yn gwbl wahanol i dymhorau eraill y flwyddyn. Mae tywydd gwael a chyfnodau hirach o dywyllwch (yn enwedig ar ôl i’r awr newid ddiwedd mis Hydref) yn golygu bod gyrru’n fwy peryglus. Gall amodau fod yn eithafol weithiau, fel y gwelsom ambell dro dros y gaeafau diwethaf, pan fu eria neu law trwm yn disgyn dros gyfnod hir.

 

Ceir canllawiau gyrru yn y gaeaf i’w lawrlwytho ar wefan y Gymdeithas Frenhinol dros Arbed Damweiniau (RoSPA):

 

RoSPA Winter Driving Tips