Cost of Living Support Icon

Ceisiadau Rheoliadau Adeiladu

 

A oes angen Cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu arnaf? 

Fel arfer, mae angen Rheoliadau Adeiladu ar gyfer y prosiectau canlynol:

  • Gwaith To Newydd (os yw mwy na 50% o’r to’n newydd mae rheoliadau adeiladu’n berthnasol)

  • Adeiladau allanol ar wahân, swyddfeydd neu ystafelloedd gardd. Cysylltwch â’r swyddfa am fwy o fanylion

  • I wneud newidiadau strwythurol i adeilad cyfredol (gan gynnwys sylfeini)

  • Newid defnydd yr adeilad sydd eisoes yn bodoli (mewn rhai achosion)

  • Darparu, ymestyn neu newid cyfleusterau draenio

  • Gosod boeler gwresogi neu ddŵr poeth 

  • Gosod system ddŵr poeth

  • Codi adeilad newydd neu ymestyn adeilad sydd eisoes yn bodoli (oni bai nad oes angen i’r gwaith ar yr adeilad neu’r estyniad ddiwallu’r rheoliadau) 

  • Gosod ffenestr, golau to, ffenestr to neu ddrws newydd (o ran drysau, mae’n rhaid i o leiaf 50% o wyneb y drws a’r ffrâm fod yn wydr). 

Mae yna nifer o eithriadau nad yw’r Rheoliadau Adeiladu’n berthnasol iddynt – cyn belled â’u bod yn diwallu meini prawf maint, adeiladwaith a lleoliad a chyn belled â’u bod yn llai na’r maint a ganiateir. Gall enghreifftiau gynnwys:  Siediau gardd, tai haf, garej ddomestig, tai gwydr, tai haul, cynteddau a phyrth ceir.

 

 

Gwneud Cais Rheoliadau Adeiladu

Cyflwyno cais Rheoli Adeiladu ar-lein

Defnyddio’r Porth Cynllunio yw’r ffordd orau i gyflwyno eich cais i ni. Mae’n rhwydd cofrestru a gallwch lenwi eich ffurflen gais, prynu cynlluniau safle ac uwchlwytho dogfennau atodol yma. 

Dyma rai o fanteision ymgeisio ar-lein: 

 

  • Gallwch weithio ar eich cais ar ffurf ddrafft cyn ei gyflwyno

  • Bydd eich cais yn ein cyrraedd ar unwaith a chewch gydnabyddiaeth o hynny

  • Mae’n arbed costau postio ac argraffu

  • Help ar gael ar-lein wrth lenwi ceisiadau 

  • Cofnod ar-lein o’r ceisiadau rydych wedi’u cyflwyno 

 

 

 

planning-portal-building-control-application-service

 

Fel arall, anfonwch eich cais Rheoli Adeilad yn y post neu mewn e-bost

 

I gael cyngor a chyfarwyddyd ar wneud cais, lawrlwythwch gopi o’r Taflen Wybodaeth Rheoli Adeiladu.

 

Dyma’r tri math o gais y gallwch chi ei wneud:  

 

Cynlluniau Llawn

Dyma’r dewis mwyaf cyffredin ac sy’n cael ei ddefnyddio amlaf, lle mae cynlluniau graddedig yn dangos yn glir y manylion adeiladu a lle cyflwyno amcangyfrifon o’r gwaith adeiladu yn angenrheidiol.

 

Bydd rhaid i chi gyflwyno:

 

Hysbysiad Adeiladu

Argymhellir y dull hwn ar gyfer gwaith bach mewn eiddo preswyl yn unig. Ni ellir defnyddio’r ffurflen hon os yw’r gwaith eisoes wedi dechrau neu os mae’r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn berthnasol.

 

Bydd angen i chi gyflwyno:

Gallwch ddechrau ar y gwaith ar y safle ar ôl rhoi hysbysiad ysgrifenedig 2 ddiwrnod gwaith i’r Awdurdod Lleol.

 

Cais Unioni

Mae hyn yn berthnasol i newid neu estyniad sy’n cael ei wneud i adeilad heb yn gyntaf ymgeisio am reoliad adeiladu neu heb roi hysbysiad o’r arolygon statudol gofynnol. O ran gwaith a wneir ar ôl 11 Tachwedd 1985, gallwch ymgeisio am reoliad adeiladu er mwyn rheoleiddio’r sefyllfa a chael tystysgrif rheoleiddio.

 

Nid yw’r cyngor o dan unrhyw ymrwymiad i dderbyn cais nag i roi tystysgrif Rheoleiddio os nad yw’n fodlon bod gofynion y rheoliadau adeiladu wedi cael eu diwallu. 

 

Bydd angen i chi gyflwyno:

  • Ffurflen Gais - Dewiswch yr opsiwn Rheoleiddio

  • Y ffi Unioni

  • Unrhyw wybodaeth sydd ei hangen gan y Swyddog Rheoli Adeiladau i gefnogi’r cais 

 

Cais i Ddymchwel

Os bwriadwch ddymchwel adeilad sydd a mwy na 50 metr ciwbig o gapasiti, mae’n rhaid cyflwyno rhybudd ysgrifenedig gyda manylion y gwaith a fwriedir.  Ni all y gwaith dymchwel ddechrau nes eich bod wedi cael gwrth-hysbysiad ac wedi cydymffurfio â’r amodau neu mae 6 wythnos wedi pasio.

 

Ni chaniateir dymchwel adeilad rhestredig, na rhan ohono, nag unrhyw adeilad sydd mewn Ardal Gadwraeth, heb y caniatâd angenrheidiol neu ganiatâd cynllunio. 

 

Bydd angen i chi gyflwyno:

 

Ffioedd a thaliadau

   

Gellir talu ffioedd a chostau am reoliad adeiladu dros y ffôn:

  • 01446 704842 or 01446 704609 / 01446 704829 or 01446 700111

 

Talu ar-lein 

 

Neu anfon siec yn daladwy i Gyngor Bro Morgannwg a’i hanfon i Swyddfa’r Dociau, Heol yr Isffordd, Y Barri, CF63 4RT

Cofrestr Personau Cymwys

Person Cymwys yw person sy’n ymwneud â masnachu neu fenter sy’n cael ei ystyried i fod yn ddigon cymwys i hunan-dystio bod y gwaith yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu. 

Fel arfer, gall gwaith hunan-dystio gynnwys gwaith trydanol, gosod systemau nwy, drysau, ffenestri ac inswleiddio waliau dwbl.

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefannau'r Llywodraeth a Chofrestr Unigolion Cymwys.