Cost of Living Support Icon

Beth yw Trosglwyddiad Asedau Cymunedol (TAC)

Mae Trosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC) yn digwydd pan fydd Corff Sector Cyhoeddus yn trosglwyddo rheolaeth neu berchnogaeth ased eiddo i gorff cymunedol.

 

Mae gan y Cyngor bolisi, arweiniad a phroses ar gyfer rheoli TACau.

 

Mae gan y canllawiau wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer cyrff cymunedol sy'n ystyried TAC:

  • Sefydliadau gwirfoddol

  • Cydweithfeydd

  • Sefydliadau cydfuddiannol

  • Mentrau cymdeithasol

  • Cynghorau Tref a Chymuned

Mae'r canllawiau hefyd yn nodi'r mathau o asedau a allai neu na fyddant yn cael eu hystyried ar gyfer TAC.

 

Mae'r canllawiau'n manylu ar broses benderfynu'r Cyngor wrth ystyried ceisiadau TAC. Mae’r broses TAC wedi'i seilio ar rai egwyddorion allweddol:

  • Angen cymunedol

  • Cefnogi nodau ac amcanion ehangach y Cyngor

  • Yr angen i sicrhau tryloywder a chynaliadwyedd unrhyw gynigion

Mae tri cham i'r broses ymgeisio CAT:

 

  1. Mynegi Diddordeb
  2. Cynllun busnes llawn
  3. Penderfyniad

 

Am wybodaeth bellach am Drosglwyddiadau Asedau Cymunedol, cysylltwch ag Andrew Tovey, Swyddog Ystadau Cynorthwyol:  

 

 

 

Parc Bryn y Don (Pafiliwn a Chyrtiau Tenis)  
Cardiff Road
DINAS POWYS
CF64 4HB  
Derbyniwyd Datganiad o Ddiddordeb mewn perthynas â’r eiddo uchod o dan drefn Trosglwyddo Asedau Cymunedol Cyngor Bro Morgannwg ac mae’n ofynnol i’r Cyngor hysbysebu’r eiddo yn unol â’i weithdrefn. Trosglwyddo Asedau Cymunedol yw trosglwyddo rheolaeth a/neu berchnogaeth tir ac adeiladau cyhoeddus i sefydliad cymunedol.  
Os bydd unrhyw barti â diddordeb yn dymuno gwneud cais tebyg, cyflwynwch Ddatganiad o Ddiddordeb yn unol â gweithdrefn a chanllawiau Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor sydd i'w gweld yma - Canllawiau Ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol 2019 - 2023 ac anfon y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb Cam 1 ac unrhyw ddogfennau ategol eraill i ddechrau at:
Andrew Tovey
Grŵp Ystadau Strategol
Adran Eiddo
Cyngor Bro Morgannwg
Swyddfeydd Dinesig 
Heol Holton 
Barri 
CF63 4RU 
Neu drwy e-bost at - antovey@valeofglamorgan.gov.uk
Dylid cyflwyno mynegiadau erbyn 5.00pm ddydd Llun 14 Hydref 2024

Canolfan Gymunedol Belle Vue,

Bwthyn Belle Vue, Albert Crescent,

PENARTH CF64 1DA

 

Canolfan Gymunedol Belle Vue,

Bwthyn Belle Vue, Albert Crescent,

PENARTH CF64 1DA

Derbyniwyd Datganiad o Ddiddordeb mewn perthynas â’r eiddo uchod o dan drefn Trosglwyddo Asedau Cymunedol Cyngor Bro Morgannwg ac mae’n ofynnol i’r Cyngor hysbysebu’r eiddo yn unol â’i weithdrefn.

 

Os bydd unrhyw barti â diddordeb yn dymuno gwneud cais tebyg, cyflwynwch Ddatganiad o Ddiddordeb yn unol â gweithdrefn a chanllawiau Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor sydd i'w gweld yma - Canllawiau Ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol 2019 - 2023 ac anfon y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb Cam 1 ac unrhyw ddogfennau ategol eraill i ddechrau at:

 

Andrew Tovey

Grŵp Ystadau Strategol

Adran Eiddo

Cyngor Bro Morgannwg

Swyddfeydd Dinesig

Heol Holton

Barri

CF63 4RU

Neu drwy e-bost at - antovey@valeofglamorgan.gov.uk

 

Dylid cyflwyno mynegiadau erbyn 4.30pm ddydd Gwener 23 Awst 2024

 

Ffynonellau Gwybodaeth Ychwanegol a Chanllawiau i Ymgeiswyr

 

Mae'r Gronfa Loteri Fawr yn dosbarthu miliynau o bunnoedd i helpu grwpiau cymunedol a phrosiectau elusennol yn y DU.

Mae CLAS Cymru yn helpu grwpiau tyfu cymunedol, tirfeddianwyr ac eraill sy'n ymwneud â mynediad i dir.  Eu nod yw gweithio’n gydweithredol er mwyn sicrhau bod mwy o dir ar gael ar gyfer twf cymunedol.

Materion Cymunedol yw'r sefydliad aelodaeth a chymorth cenedlaethol ar gyfer y sector cymunedol.  Maent yn annog gweithredu gwirfoddol a chymunedol ar lefel cymdogaeth. 

 

Mae gan Fy Nghymuned yr holl offer, awgrymiadau a syniadau diweddaraf i wneud cymunedau hyd yn oed yn lleoedd gwell i fyw ynddynt.  Mae ganddynt hefyd wybodaeth am hawliau cymunedol a rhaglenni grant. 

Mae porth CYD ar gyfer amrywiaeth o bobl a sefydliadau sydd â diddordeb mewn datblygu asedau tir ac adeiladau er budd y gymuned.

Mae Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg yn helpu i wella ansawdd bywyd cymunedau drwy gefnogi cyfleoedd gwirfoddoli.

Mae'r Uned Trosglwyddo Asedau’n hyrwyddo ac yn cefnogi trosglwyddiadau asedau cymunedol.

NALC* 

Cymdeithas Genedlaethol y Cynghorau Lleol yng Nghymru a Lloegr. 

Un Llais Cymru yw'r prif sefydliad ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yng Nghymru.  Maent yn rhoi llais cryf sy'n cynrychioli buddiannau'r cynghorau ac amrywiaeth o wasanaethau o ansawdd uchel i gefnogi eu gwaith.

Mae Canolfan Cydweithredol Cymru yn fenter gydweithredol sy'n canolbwyntio ar adeiladu economi decach, wyrddach a chymdeithas fwy cyfartal.  Maent yn cefnogi datblygiad entrepreneuriaeth gymdeithasol, mentrau a mentrau cydweithredol yng Nghymru.

Mae’r CGGC yn cefnogi ac yn cynrychioli trydydd sector Cymru. Maent yn cynrychioli ac yn ymgyrchu dros fudiadau gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau. 

Pecyn cymorth Llywodraeth Cymru i gynorthwyo grwpiau cymunedol sy'n ystyried cat's at ddibenion chwaraeon, y celfyddydau a diwylliannol.  

*Mae'r gwefannau hyn yn Saesneg yn unig