Cost of Living Support Icon

uk_parliament_logo_bEtholiad Cyffredinol Seneddol

Mae Senedd y DU yn cynrychioli trigolion y Deyrnas Unedig, ac mae’n meddu ar y pŵer i wneud penderfyniadau a chymeradwyo deddfwriaeth.

 

 

Nid yw dyddiad yr Etholiad Cyffredinol nesaf wedi’i gadarnhau eto.

 

 

Rhaid i Etholiad Cyffredinol gael ei gynnal bob pum mlynedd, ond gellir galw am un ymhen llai na hynny. Y Prif Weinidog sy’n penderfynu ar union ddyddiad yr etholiad, ond yn ôl y traddodiad, caiff ei gynnal ar ddydd Iau.

 

Gelwir diwrnod yr etholiad yn Ddiwrnod y Bleidlais hefyd, gan mai dyma pryd rydych chi’n bwrw eich pleidlais. Yn ôl traddodiad, gwneir hyn mewn Gorsaf Bleidleisio.

 

Mewn Etholiad Cyffredinol, rydych chi’n dewis ymgeisydd i gynrychioli eich ardal leol yn Nhŷ’r Cyffredin drwy fwrw eich pleidlais drostynt.

 

Yr ymgeisydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau fydd yr AS etholedig.

 

Ar ôl Etholiad Cyffredinol, bydd arweinydd y blaid sy’n ennill yr Etholiad Cyffredinol, yn cael ei wahodd yn swyddogol gan y Brenin i fod y Prif Weinidog nesaf, a ffurfio’r Llywodraeth nesaf a fydd yn rhedeg y wlad.

  

 

Aelodau Seneddol

Caiff Etholiadau Cyffredinol eu cynnal er mwyn ethol Aelodau Seneddol (ASau) yn Nhŷ’r Cyffredin.

 

AS 

 

Mae Senedd y DU wedi ei rhannu’n ddwy siambr neu ‘Dŷ’ - Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.

 

Gelwir y cynrychiolwyr yn Nhŷ’r Cyffredin yn Aelodau Seneddol (ASau). Mae pob AS yn cynrychioli rhan o’r Deyrnas Unedig a elwir yn 'etholaeth' neu’n 'sedd'. Y blaid wleidyddol â’r nifer fwyaf o AS yn Nhŷ’r Cyffredin sy’n ffurfio’r Llywodraeth. Ar hyn o bryd, y blaid Geidwadol yw hon.

 

Mae’r Llywodraeth yn cynnig cyfreithiau newydd ac yn codi materion i’r Senedd eu trafod.

Mae hefyd yn gweithredu’r penderfyniadau a wneir gan y Senedd.

 

Mae Tŷ’r Arglwyddi’n archwilio gwaith Tŷ’r Cyffredin.

 

Mae gan y Brenin ran i’w chwarae yn Senedd y DU hefyd, er mai seremonïol yw hi ar y cyfan.

 

Mae e'n cymeradwyo cyfreithiau a wneir gan y Senedd ac yn traddodi Araith y Brenin, sy’n manylu ar y cynlluniau mae’r Llywodraeth yn bwriadu eu gweithredu bob blwyddyn.

 

Cyswllt