Cost of Living Support Icon

Voter ID banner CY

 

ID pleidleisiwr

O 4 Mai 2023, bydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos dogfen adnabod (ID) ffotograffig i fynd i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio, mewn rhai etholiadau.

 

Mae hyn yn dilyn gofynion newydd a gyflwynwyd gan y Ddeddf Etholiadau. 

Bydd hyn yn berthnasol i:

  • Etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu

  • Is-etholiadau Senedd San Steffan

  • Etholiadau Adalw

O fis Hydref 2023 bydd hefyd yn berthnasol i Etholiadau Senedd Cyffredinol San Steffan. 

 

Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos dogfen adnabod (ID) ffotograffig i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn etholiadau'r Senedd nac mewn etholiadau cyngor lleol. 

 

Dysgwch fwy am ID Pleidleiswyr:

 

Poster ID Pleidleiswyr

 

 

 

Dogfennau Adnabod Pleidleisiwr Derbyniol


Mae dogfen adnabod ffotograffig y gellir ei defnyddio i bleidleisio yn cynnwys pasbort, trwydded yrru, dogfen fewnfudo, cerdyn PASS, Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn, pàs teithio rhatach (ac eithrio cardiau rheilffordd) a cherdyn adnabod cenedlaethol.


Ni fydd pasys gwaith/myfyrwyr, cardiau rheilffordd a llungopïau o ddogfennau adnabod na lluniau ar ffonau symudol yn dderbyniol. 


Nid oes angen i’r ddogfen adnabod ffotograffig fod yn gyfredol i'w defnyddio - dim ond bod angen iddi ddangos tebygrwydd i'r pleidleisiwr. 


Os na allwch chi ddarparu un o'r mathau adnabod gofynnol fel y nodir mewn deddfwriaeth, gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr am ddim drwy:
Gov.uk  


Bydd Tystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr yn ddogfen ar bapur A4 gyda nodweddion diogelwch cynhenid. Bydd yn arddangos enw a llun ffotograff yr etholwr, y dyddiad cyhoeddi a'r awdurdod lleol sy'n cyhoeddi.


Bydd tri math o "Dystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr" - Tystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr, Tystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr dros dro, a'r Ddogfen Etholwyr Anhysbys (DEA/AED).


Bydd gan etholwyr ystod o opsiynau i ddewis ohonynt wrth wneud cais am Dystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr - yn bersonol, drwy'r post neu ar-lein, gan sicrhau hygyrchedd i'r holl etholwyr. Bydd ein swyddfa yn gallu darparu cais ar bapur ar gais. Waeth beth yw'r dull y bydd person yn gwneud cais, bydd gwiriad ar statws cofrestriad etholiadol y person, a bydd angen cadarnhau pwy ydyn nhw.

 

Cwestiynau Cyffredin

  • Ym mha etholiadau y bydd gofyn dangos ID ffotograffig?  
    O fis Mai, bydd angen i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig cyn pleidleisio mewn etholiadau cyngor lleol yn Lloegr, yn etholiadau'r comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru a Lloegr, ac mewn unrhyw isetholiadau seneddol i San Steffan.

     

     

    O 5 Hydref 2023, bydd pleidleiswyr angen ID ffotograffig ar gyfer etholiadau cyffredinol seneddol San Steffan. Ni fydd yn ofynnol ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru na'r Alban, nac i etholiadau’r Senedd yma nac i Senedd yr Alban. Mae'r gofyniad eisoes yn bodoli yng Ngogledd Iwerddon.

     

  • Beth ydw i'n ei wneud os nad yw fy Rhif Yswiriant Gwladol gennyf? 

    Hyd yn oed os nad ydych yn gallu rhoi eich Rhif Yswiriant Gwladol, gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr drwy ddefnyddio tystiolaeth ddogfennol dderbyniol arall.

     

    Mathau o ID ffotograffig a dderbynnir 

  • Etholwr anhysbys ydw i; oes angen i mi ddarparu ID o hyd?

    Bydd, bydd angen i chi wneud cais am Ddogfen Etholwr Dienw i’w dangos yn eich gorsaf bleidleisio. Peidiwch â phoeni am na fydd modd eich adnabod ac ni fydd yn cael ei rhannu ag unrhyw un arall.

     

     

    Cofrestru i bleidleisio’n ddienw | y Comisiwn Etholiadol

  • Pam nad yw mathau eraill o ID yn cael eu derbyn?  

    Yn ôl y Gyfraith y pennir y mathau o ddogfennau derbyniol fel ID. Mae’r rhain wedi’u penderfynu gan Lywodraeth y DU. 

     

    Mae Llywodraeth y DU wedi darparu mwy o wybodaeth am ba fathau o brawf adnabod (ID) sy'n cael eu derbyn a pha rai nad sydd, ynghyd â'r meini prawf a ystyriwyd. Gallwch weld hynny ar

     

    Mathau o ID ffotograffig a dderbynnir 

  • Beth fydd yn digwydd os bydd pleidleisiwr yn mynd i'r orsaf bleidleisio heb unrhyw ddull adnabod derbyniol?  

    Os bydd pleidleisiwr yn dod i orsaf bleidleisio heb unrhyw ddogfen adnabod ffotograffig dderbyniol, ni fyddant yn cael papur pleidleisio a bydd angen iddynt ddychwelyd gyda dogfen adnabod ffotograffig dderbyniol. 

  • Beth os nad yw pleidleisiwr am ddangos ID i bleidleisio? 

    Os byddai'n well gan bleidleiswyr beidio â dangos ID mewn gorsaf bleidleisio, gallant wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy. Nid oes angen ID ffotograffig i wneud cais na phleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy. Fodd bynnag, bydd gofyn i'w dirprwy ddangos ei ID ffotograffig yn yr orsaf bleidleisio.
  • Beth ydych yn ei wneud am rai sydd heb ID? 

    Rydym yn gweithio i sicrhau bod unrhyw un heb ffurf dderbyniol o ID yn ymwybodol o'r ID am ddim sydd ar gael ac yn deall sut i wneud cais amdano. 
  • Sut fath o broses fydd y broses ymgeisio am Dystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr / ID? 

    Gall pleidleiswyr wneud cais am ID pleidleisiwr am ddim ar-lein yn voter-authority-certificate.service.gov.uk/ neu drwy lenwi a phostio ffurflen bapur i dîm gwasanaethau etholiadol eu cyngor lleol. Gall rhai awdurdodau lleol dderbyn ceisiadau yn bersonol. Bydd angen i bleidleiswyr ddarparu ffotograff, eu dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol yn rhan o'r cais.

  • Pa wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y Tystysgrif Awdurdodi Pleidleisiwr/ ID am ddim?

    Bydd yr ID am ddim yn dangos enw llawn a ffotograff pleidleisiwr, y cyngor lleol sy’n ei gyhoeddi, dynodwr priodol (cyfeirnod gan gynnwys rhifau a llythrennau a ddyrannwyd gan y cyngor), dyddiad cyhoeddi a dyddiad adnewyddu a argymhellir. 

  • Sut mae hyn yn effeithio ar bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy? 

    Ni fydd angen i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig i wneud cais drwy'r post neu drwy ddirprwy.  Er y bydd angen i'r dirprwy ddangos ei ddogfen adnabod ffotograffig yn yr orsaf bleidleisio.
  • A fydd ID pleidleisiwr yn difreinio pobl? 

    Rydym yn gweithio i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r newid, yn deall pa fathau o ID a gaiff eu derbyn, ac i'r rhai heb, sut a phryd i wneud cais am ID am ddim.  Ein nod yw cefnogi'r rhai sydd am bleidleisio i wneud hynny'n llwyddiannus ac yn hyderus. 

 

 

Cysylltwch â Gwasanaethau Etholiadol