Cost of Living Support Icon

Voting by post or proxy banner CY

 

Pleidleisio trwy'r post neu drwy ddirprwy

Sut mae gwneud cais am bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy.

 

Rydych nawr yn gallu gwneud cais ar-lein i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy (rhywun sy'n pleidleisio ar eich rhan) ar gyfer etholiad Seneddol San Steffan ac etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

 

Gallwch wneud hyn drwy fynd i Gwneud cais i bleidleisio drwy’r post 

 

Gwneud cais i bleidleisio drwy’r post - GOV.UK (www.gov.uk)

 

 

I bleidleisio drwy'r post ar gyfer Etholiadau'r Senedd a Llywodraeth Leol, bydd angen i chi gwblhau cais papur y gellir dod o hyd iddo yma

 

 

Os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch ddefnyddio’r Ffurflen gais gyfun hon i wneud cais ar gyfer yr holl fathau o etholiadau. 

 

 

 

Os ydych yn dymuno gwneud cais am bleidleisio drwy ddirprwy drwy’r post, cysylltwch â'r swyddfa os gwelwch yn dda.

 

 

 

Bydd angen i chi adnewyddu'r llofnod ar eich cais pleidlais bost ar gyfer etholiadau Seneddol y DU a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu bob tair blynedd. Bydd angen adolygu eich llofnod ar gyfer eich pleidlais bost Etholiadau’r Senedd a Llywodraeth Leol bob 5 mlynedd. Ond peidiwch â phoeni, byddwn yn cysylltu â chi pan fydd angen i chi adnewyddu eich llofnodion.

 

Ni fydd angen i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig i wneud cais drwy'r post neu drwy ddirprwy.  Er y bydd angen i'r dirprwy ddangos ei ID ffotograffig yn yr orsaf bleidleisio. I gael gwybod mwy am ID Pleidleisiwr, ewch i'n tudalen Bwrpasol sy'n cynnwys llawer o gwestiynau cyffredin.

 

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw un o'r newidiadau hyn, cysylltwch â'r tîm Cofrestru Etholiadol drwy e-bost yn electoralregistration@valeofglamorgan.gov.uk neu dros y ffôn ar 01446 729552.