Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio" \o "Cofrestru i bleidleisio:
*SICRHEWCH EICH BOD WEDI'CH COFRESTRU CYN CWBLHAU UNRHYW FFURFLENNI CAIS DRWY’R POST, TRWY DDIRPRWY NEU YMEITHRIO*
drwy glicio ar y botwm isod:
Pan fydd eich ffurflen yn cyrraedd yn y Swyddfa Gofrestru Etholiadol caiff eich enw, dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol eu gwirio yn erbyn pyrth digidol y llywodraeth. Os bydd eich manylion yn cyd-fynd â’r rheiny byddwch yn cael eich ychwanegu at y Gofrestr Etholiadol. Yna byddwch yn derbyn llythyr sy'n cadarnhau eich bod wedi cael eich ychwanegu i'r gofrestr etholiadol.
Os nad yw eich manylion yn cyd-fynd â’r gwybodaeth ar byrth y llywodraeth yna byddwch yn derbyn llythyr gyda rhagor o gyfarwyddiadau.
Ffurflen Gwahoddiad i Gofrestru (ITR) (Cymraeg)
Invitation To Register (ITR) Form (English)
Caiff y pleidleisiau eu dosbarthu i’ch cyfeiriad cartref neu i unrhyw gyfeiriad arall rydych wedi nodi. Caiff eich papurau pleidleisio eu dosbarthu i chi fel rhan o becyn y mae’n rhaid i chi ei gwblhau a’i ddychwelyd er mwyn i'ch pleidlais gael ei chyfrif. Dylech dderbyn y rhain o fewn 10 diwrnod i’r dyddiad pleidleisio. Mae’n rhaid i chi roi eich llofnod a'ch dyddiad geni gan fod y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i wirio eich papurau pleidleisio.
Cysylltwch â ni yn y Swyddfa Gofrestru Etholiadol drwy glicio ar y botwm Manylion Cyswllt yn y golofn nesaf er mwyn gofyn am ffurflen Bleidleisio drwy Ddirprwy.
Byddwch yn derbyn llythyr yn cadarnhau bod y person rydych wedi’i enwebu i bleidleisio ar eich rhan (eich dirprwy) wedi'i gymeradwyo. Bydd eich dirprwy yn derbyn cerdyn pleidleisio. Mae’n rhaid i’ch dirprwy fynd i’r orsaf bleidleisio’n bersonol, ar ddyddiad y bleidlais er mwyn pleidleisio ar eich rhan.
*Nodwch fod rhaid i’r person rydych wedi enwebu wedi’i gadarnhau ar y Gofrestr Etholwyr neu ni all fod yn ddirprwy i chi*
Cysylltwch â ni yn y Swyddfa Gofrestru Etholiadol drwy glicio ar y botwm Manylion Cyswllt yn y golofn nesaf er mwyn gofyn am ffurflen Bleidleisio drwy Ddirprwy trwy’r Post.
Rhowch y rheswm dros y cais hwn er mwyn i ni anfon y ffurflen gywir atoch.
Manylion Cyswllt
I ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y Gofrestr Agored, cliciwch ar y botwm isod:Gofrestr Agored.
Byddwch yn derbyn llythyr yn cadarnhau bod eich cofnod ar y Gofrestr Etholwyr wedi’i addasu ac rydych bellach wedi eithrio o’r gofrestr agored.
*Gallwch gwblhau ein Ffurflen Eithrio Ar-Lein neu argraffu copi papur i gwblhau a danfon yn ôl atom drwy’r post. Cliciwch ar y dull yr hoffech ei ddefnyddio yn y golofn Dolen Ffurflen Gais*
Ffurflen Optio Allan - Cymraeg a Saesneg
Ffurflen Optio Allan ar-lein
*Cofiwch - mae’n rhaid i chi anfon tystiolaeth eich bod wedi newid eich enw pan fyddwch yn anfon y ffurflen hon yn ôl! Nid oes rhaid i hyn fod y fersiwn gwreiddiol. Gallwch ddanfon gopi o dystysgrif priodas, tystysgrif geni diwygiedig neu dystysgrif newid enw*
Caiff manylion eich ffurflen eu gwirio yn erbyn manylion eich tystiolaeth. Os ydynt yn cyd-fynd, yna caiff eich enw ei newid ar y gofrestr. Byddwch yn derbyn llythyr addasu yn dweud bod eich enw wedi'i newid.
Os na fydd y manylion yn cyd-fynd yna byddwch yn derbyn llythyr gyda rhagor o gyfarwyddiadau.
Ffurflen Newid Enw - Cymraeg
*Mae'r ffurflen Ildio Hawl hon yn caniatáu i chi bleidleisio heb orfod rhoi llofnod. Rhaid bod rheswm dilys dros hyn, er enghraifft mae'n bosibl y bydd eich llofnod yn wahanol bob tro. Os byddwch yn gofyn am Ildio Hawl drwy'r post bydd ond rhaid i chi roi eich dyddiad geni wrth i chi gwblhau’ch cais am bleidleisio drwy'r post ac i bleidleisio drwy'r post.*
Caiff eich papurau pleidleisio eu danfon i’ch cyfeiriad cartref neu i unrhyw gyfeiriad arall rydych yn nodi. Caiff eich papur pleidleisio ei ddanfon i chi fel rhan o becyn ac mae’n rhaid i chi gwblhau’r pecyn hwnnw a’i ddychwelyd er mwyn i’ch pleidlais gael ei chyfrif. Dylech dderbyn y rhain o fewn 10 diwrnod gwaith i ddyddiad y pleidleisio. Mae’n rhaid i chi roi eich dyddiad geni gan ei fod yn cael ei ddefnyddio i wirio eich papurau pleidleisio.
Cysylltwch â ni yn y Swyddfa Gofrestru Etholiadol drwy glicio ar y botwm Manylion Cyswllt yn y golofn nesaf er mwyn gofyn am ffurflen Ildio Hawl.
*Os gwnewch gais i ildio hawl bydd rhaid i chi enwebu person i weithredu hynny. Bydd rhaid i chi ddarparu eich dyddiad geni a gall y person enwebedig eich helpu wrth gwblhau’r manylion ar y ffurflen*
Byddwch yn derbyn llythyr yn cadarnhau bod y person rydych wedi’i enwebu i bleidleisio ar eich rhan (eich dirprwy) wedi'i gymeradwyo. Bydd eich dirprwy yn derbyn cerdyn pleidleisio gyda’ch enw arno cyn dyddiad y bleidlais. Mae’n rhaid i’ch dirprwy fynd i’r orsaf bleidleisio’n bersonol, ar ddyddiad y bleidlais, gyda’r cerdyn pleidleisio ac yna’n gallu pleidleisio ar eich rhan.
*Nodwch fod rhaid i’r person rydych chi’n enwebu wedi’i gadarnhau ar y Gofrestr Etholwyr neu ni all fod yn ddirprwy i chi*
Caiff y Gofrestr Etholiadol ei diweddaru'n fisol a'i chyhoeddi unwaith y flwyddyn ar 1 Rhagfyr.
Cysylltu â ni