Cost of Living Support Icon

 

Baner Trin Pleidleisiau Post wedi'i darparu gan y comisiwn etholiadol. Mae'r rheolau ar bwy all gyflwyno pleidleisiau drwy'r post mewn rhai etholiadau yng Nghymru wedi newid. Mae dy bleidais yn cyrfi paid colli dy gyfle.

 

Trin pleidleisiau post 

 

O fis Mai 2024, dim ond 6 pleidlais bost y cewch chi eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio.Mae hyn yn cynnwys eich pleidlais bost eich hun. 

 

Os byddwch yn cyflwyno mwy na 6 phleidlais bost, bydd eich pleidlais yn dal i gael ei derbyn, ond bydd yr holl bleidleisiau eraill yn cael eu gwrthod. 

 

Os ydych chi'n ymgyrchydd gwleidyddol, rydych chi wedi'ch gwahardd rhag delio â phleidleisiau post, oni bai:

 

• Am eich pleidlais chi eich hun,

• Bod y bleidlais ar gyfer aelod teulu agos, neu

• Mae'r bleidlais i rywun rydych chi'n gofalu amdano.

 

Os ydych yn trin pleidleisiau post, bydd angen i chi gwblhau Ffurflen Dychwelyd Pleidlais Bost mewn unrhyw orsaf bleidleisio ym Mro Morgannwg neu yn bersonol yn y swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF64 4RU (gofynnwch i'r dderbynfa ffonio aelod o'n tîm). 

 

Wrth lenwi'r ffurflen, bydd angen i chi gynnwys: 

• Eich enw,

• Eich cyfeiriad, a’r 

• Rheswm pam rydych chi'n cyflwyno pleidleisiau post pobl eraill.

 

Bydd eich pleidleisiau post yn cael eu gwrthod os na fyddwch yn llenwi'r ffurflen yn iawn, neu’n foddhaol yn nhyb y swyddog awdurdodi.  Mae hyn hefyd yn berthnasol i unrhyw bleidleisiau sy'n cael eu cyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau yn y Swyddfeydd Dinesig. 

 

SYLWER - Ni fydd eich pleidlais yn cael ei chyfrif os byddwch yn eu cyflwyno eich hunain i unrhyw un heblaw am aelod o'r tîm Gwasanaethau Etholiadol neu aelod o staff mewn gorsaf bleidleisio.

 

Mae'r gofynion cyfrinachedd mewn gorsaf bleidleisio hefyd yn berthnasol i unrhyw bleidleisiau post neu bleidlais drwy ddirprwy. Mae’n drosedd

 

• Darganfod sut mae rhywun arall wedi pleidleisio, neu 

• dweud wrth bobl eraill sut mae rhywun wedi pleidleisio.

 

Dysgwch sut i wneud cais ar-lein i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy yn etholiad Senedd y DU ac etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

 

Os ydych chi'n dewis pleidleisio trwy ddirprwy, yna bydd yn rhaid i'r sawl rydych chi wedi ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan fynd â’u cerdyn adnabod â llun eu hunain. Os nad oes ganddynt ID ffotograffig, ni fyddant yn derbyn papur pleidleisio. 

 

ID pleidleisiwr

 

Am fwy o wybodaeth am drin pleidleisiau post, ewch i'r Comisiwn Etholiadol.