Cost of Living Support Icon

Adnoddau Cofrestru Pleidleiswyr

Gwybodaeth i rieni, ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid am gofrestru i bleidleisio.

 

Gall pob disgybl 14 - 15 oed, neu ddinasyddion tramor sy'n byw yng Nghymru bellach wneud cais i gael eu hychwanegu at y Gofrestr Etholiadol. Bydd cofrestru ar yr oedran hwn yn eu galluogi i fod ar y Gofrestr Etholiadol pan fyddant yn troi'n 16 oed ac yn gymwys i bleidleisio.

 

  • Comic Book How to vote 19.12png_CY

  • Os bydd rhywun rydych chi'n ei adnabod yn troi'n 16 oed ar neu cyn 05 Mai 2022, neu eisoes yn 16 oed mae ganddyn nhw hawl i bleidleisio yn Etholiad Lleol.

  • Os ydych yn adnabod rhywun sy’n ddinesydd tramor sy'n byw yng Nghymru ac wedi troi'n 16 oed mae ganddyn nhw hawl hefyd i bleidleisio yn Etholiad Lleol.

 

Cam 1: Cofrestru i Bleidleisio

Mae bod â’ch enw ar Gofrestr Etholiadol Bro Morgannwg hefyd yn cynnig y manteision canlynol:

  • Prawf o gyfeiriad a chyfnod byw ym Mro Morgannwg

  • Prawf adnabod

  • Tystiolaeth o breswylfa

  • Cofnod at ddibenion credyd ac i helpu i wella statws credyd ar gyfer y dyfodol 

      

 

I gofrestru, ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio dim ond 5 munud mae'n ei gymryd!

 

 

Sut i Gofrestru

 

Cam 2: Ymchwil a Gwybodaeth

Paratoi i bleidleisio, mwy o wybodaeth ynghylch lle i ddod o hyd i wybodaeth am ymgeiswyr, pleidiau, ffyrdd o bleidleisio a'ch gorsaf bleidleisio agosaf.

 

Unwaith y byddwch wedi cofrestru i bleidleisio, gallwch benderfynu sut i bleidleisio yn yr etholiad nesaf. Mae 3 ffordd o bleidleisio:

  • Ewch i'ch gorsaf bleidleisio agosaf yn bersonol, ar Ddiwrnod y Bleidlais

  • Anfonwch eich papur pleidleisio yn ôl atom yn y post

  • Penodwch ddirprwy (person arall) i bleidleisio ar eich rhan naill ai'n bersonol neu drwy'r post

 

Gwybodaeth Bleidleisio

Darganfyddwr Gorsaf Bleidleisio

 

Cam 3: Pleidleisio

Gwybodaeth ac arweiniad am y broses bleidleisio.

  • Byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio yn y post tua 2 i 3 wythnos cyn y Diwrnod Etholiad sydd ar y gweill.

  • Bydd y cerdyn pleidleisio hwn yn dangos pa un o'r 3 modd rydych wedi ei ddewis i bleidleisio.

  • Papur pleidleisio yw'r darn o bapur yr ydych yn nodi eich pleidlais arno yn yr orsaf bleidleisio.

  • Os byddwch yn pleidleisio drwy'r post byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio i ddweud mai dyma'ch dull pleidleisio ac yna byddwch yn derbyn eich papurau pleidleisio ar wahân tua 10 diwrnod cyn Diwrnod y Bleidlais.

 

Os ydych am newid y modd y byddwch yn pleidleisio, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais a'i hanfon i'ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol.

 

Adnoddau Llywodraeth Cymru

Adnoddau HWB Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion a cholegau:

 

Gwybodaeth “Defnyddiwch eich barn”

Adnoddau Hwb Cyfnod Allweddol 3 a 4

 

Senedd Cymru

Gwybodaeth am y Senedd a sut y gellir clywed eich llais yn y Senedd.

 

Adnoddau Pleidleisio yn 16 oed

 

Wythnos Senedd y DU 06 - 12 Tachwedd 

Cynhelir Wythnos Senedd y DU yn ystod wythnos gyntaf mis Tachwedd bob blwyddyn. Yn ystod yr wythnos hon gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth am ddemocratiaeth a chymryd rhan mewn digwyddiadau sy'n cael eu cynnal mewn sawl rhan o'r wlad. Gallwch hefyd ddod o hyd i adnoddau i alluogi cymryd rhan mewn dadleuon a chwis, trefnu ymweliad â'r Senedd, lawrlwytho taflenni a gwylio fideos am sut i rymuso eich dyfodol. 

 

Wythnos Senedd y DU adnoddau

 

 

Adnoddau'r Comisiwn Etholiadol

Mae amrywiaeth o wybodaeth bleidleisio ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol:

 

 

Fideos y Comisiwn Etholiadol

 

 

 

Adnoddau'r Adran Cofrestru Etholiadol

Hoffech chi wybod mwy am y Gofrestr Etholiadol, optio allan o'r gofrestr agored, deall yr opsiynau sydd ar gael i weddu i'ch anghenion neu wybod sut i gwblhau cais ar-lein? Gallwch nawr wylio'r cyflwyniad PowerPoint hwn a grëwyd gan ein tîm i roi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud penderfyniad gwybodus. 

 

PowerPoint y Gofrestr Etholiadol