Cost of Living Support Icon

Sut i Bliedleisio

Pleidleisio yw eich cyfle i leisio'ch barn ar faterion pwysig sy'n effeithio arnoch chi, eich ardal, a’ch gwlad.

 

Rhaid i chi fod:

  • Wedi’ch cofrestru ar y Gofrestr Etholiadol
  • Yn 16 oed neu’n hŷn
  • Yn byw yn y DU
  • Yn ddinesydd Prydeinig, y Gymanwlad, neu Wladwriaeth sy’n Aelod o'r UE

  • Cenedlaethol Tramor sy'n preswylio'n gyfreithiol, sydd â hawl i bleidleisio mewn Etholiad Llywodraeth Leol, Etholiad Senedd Cymru a rhai refferenda.

Sut i Bliedleisio

Mae 3 ffordd i bleidleisio:

  • Ewch i’ch gosaf bleidleisio agosaf ar y diwrnod pleidleisio
  • Anfon eich papur pleidleisio yn ôl atom yn y post.
  • Penodi cynrychiolydd i bleidleisio ar eich rhan drwy fynd i'r orsaf bleidleisio neu yn y post

 

Cewch chi gerdyn pleidleisio ryw 2 i 3 wythnos cyn Diwrnod Pleidleisio.

Bydd y cerdyn pleidleisio hwn yn dangos p’un o’r 3 ffordd rydych chi wedi dewis i bleidleisio.

 

Papur pleidleisio yw’r darn o bapur rydych chi’n marcio’ch pleidlais arno yn yr orsaf bleidleisio.

Os byddwch chi’n pleidleisio drwy’r post, cewch chi gerdyn pleidleisio i roi gwybod mai hwn yw'r dull pleidleisio rydych chi wedi'i ddewis ac wedyn cewch chi bapurau pleidleisio ryw 10 diwrnod cyn y Diwrnod Pleidleisio.

 

Os ydych chi am newid y ffordd rydych chi’n bwrw pleidlais, llenwch ffurflen gais a’i hanfon i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol Leol.

 

Cliciwch y botwm isod i weld ffurflenni ychwanegol ar ein tudalen Cais ac Ildio.

  

Ffurflenni Cais

Dolenni Fideo Sut i Bleidleisio 

 

Yma fe welwch lawer o fideos byr ar Sut i Bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio am y tro cyntaf, cliciwch ar unrhyw ddolen isod. 

 

Person ifanc yn pleidleisio am y tro cyntaf 

Saesneg   Cymraeg

Pleidleisio gydag anabledd 

Saesneg   Cymraeg

 

Pleidleisio gydag anabledd cudd

Saesneg    Cymraeg


Pleidleisio fel gwladolyn tramor cymwys

 

Saesneg   Cymraeg   Arabeg   Bengali   Cantoneg   Gujarati   Hindi  Pwylaidd  Punjabi    Somali   Wrdw

  • Nid wyf wedi cael fy ngherdyn pleidleisio, allaf bleidleisio o hyd?

    Gallwch, gallwch chi bleidleisio heb gerdyn pleidleisio, cyn belled â'ch bod ar y Gofrestr Etholiadol.

     

    Os ydych chi’n meddwl efallai nad ydych chi wedi'ch cofrestru, rhwydd hynt i chi gysylltu â'r Swyddfa Cofrestru Etholiadol i wirio p'un a ydych chi ar y Gofrestr Etholiadol

     

    Cysylltu â Ni

  • Pryd gallaf bleidleisio?
    voting times
    Sut rydych yn bwrw
    pleidlais . . .
    Pryd rydych yn bwrw pleidlais . . .
    Yn yr orsaf bleidleisio Ar ddiwrnod y bleidlais: 7am – 10pm
    Drwy'r post Cyn gynted ag y daw’r papur pleidleisio yn y post
    Mae rhywun arall yn pleidleisio ar eich rhan yn yr orsaf bleidleisio Pan fydd y person a enwebwyd gennych (dirprwy) yn ymweld â’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod y bleidlais: 7am – 10pm
    Mae rhywun arall yn pleidleisio ar eich rhan drwy’r post Cyn gynted â bod y person a enwebwyd gennych (dirprwy) yn cael papur pleidleisio yn y post

     

    Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar eich cerdyn pleidleisio cyn yr etholiad i wirio p’un a yw’r amseroedd hyn wedi newid, a chyfeiriad eich gorsaf bleidleisio agosaf.

     

    I weld rhagor o wybodaeth am eich gorsaf bleidleisio agosaf, cliciwch y botwm isod:

      

    Gorsafoedd Pleidleisio 

  • Os oes gennych chi anabledd, oes cymorth ychwanegol ar gael i chi yn yr orsaf bleidleisio?

    Oes, dylai pleidleisio fod yn hygyrch i chi dim ots p’un a ydych chi wedi dewis i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio neu drwy'r post.

     

    Rhaid i ddarparwyr gwasanaeth, yn ôl y gyfraith, wneud unrhyw addasiadau ffisegol rhesymol i’w safleoedd er mwyn eu gwneud yn hygyrch i bobl sydd ag anabledd.

     

    Mae addasiadau’n cynnwys mannau parcio anabl ac esgynfeydd mynediad, cuddyglau pleidleisio ac offer fel chwyddwydr ar gyfer pleidleiswyr â nam ar y golwg.

     

    Os oes angen cymorth arnoch chi ar ddiwrnod yr etholiad yn yr orsaf bleidleisio, gallwch chi ofyn i'r Swyddog Cyfrif ddarllen rhestr yr ymgeiswyr a'u manylion i chi. Cân nhw hefyd farcio’ch papur pleidleisio i chi.

     

    Fel arall, gallwch chi bleidleisio gyda chymorth gan gydymaith (rhywun sy'n dod gyda chi).

  • I'm not sure which way to vote?

    Mynd i’ch gorsaf bleidleisio mewn etholiad yw’r ffordd arferol o bleidleisio.  Serch hynny, gallwch chi hefyd wneud cais i bleidleisio mewn ffyrdd eraill:

     

    Etholwr post

    Os oes yn well gennych bleidleisio drwy’r post ac rydych chi eisoes wedi gwneud cais i gael gwneud hynny, cewch chi'ch papur(au) pleidleisio tua 10 diwrnod gwaith cyn diwrnod yr etholiad. Caiff y rhain eu hanfon yn rhan o becyn a fydd yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut mae pleidleisio’n llwyddiannus drwy’r post. Bydd angen llenwi eich papur pleidleisio a’i anfon yn ôl i'ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol er mwyn iddo gael ei gyfrif.

     

    Pleidlais drwy ddirprwy

    Os ydych chi ar y Gofrestr Etholiadol a does dim modd i chi fynd i bleidleisio, mae modd gofyn i rywun arall wneud hynny ar eich rhan. Pleidleisio drwy ddirprwy yw hyn. Mae unrhyw un yn gallu pleidleisio ar eich rhan cyn belled â’i fod yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad a’i fod yn fodlon gwneud hynny.

    Gallwch chi wneud cais am gael pleidleisio drwy ddirprwy yn yr achosion canlynol:

    • Nid oes modd i chi fynd i’r orsaf bleidleisio mewn etholiad penodol. Er enghraifft, os byddwch chi ar wyliau
    • Mae cyflwr corfforol arnoch sy'n eich atal rhag mynd i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad. Yn yr achos hwn, efallai y bydd angen i chi gyflwyno datganiad gan Feddyg, nyrs neu warden cartref
    • Ni fyddwch yn yr ardal oherwydd gwaith naill ai yn rhan o drefniant parhaol neu ar y diwrnod hwnnw’n unig
    • Byddwch chi ar gwrs addysgol a bydd hynny’n eich atal rhag mynd i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad
    • Rydych chi'n Ddinesydd Prydeinig sy’n byw dramor
    • Rydych chi’n Was Sifil neu’n aelod o Luoedd Arfog ei Mawrhydi

     

    Fel arfer, mae’r dyddiad cau i bleidleisio drwy ddirprwy yn 6 diwrnod gwaith cyn etholiad.

    Ni chaiff dirprwyon bleidleisio ar ran mwy na dau berson mewn unrhyw etholiad unigol heblaw eu bod yn berthynas agos.

     

    Os ydych chi am benodi dirprwy, gallwch chi fynd i orsaf bleidleisio o hyd a bwrw'ch pleidlais cyn belled â nad yw’r dirprwy wedi pleidleisio ar eich rhan eisoes.

     

    Gallwch ofyn i unrhyw un bleidleisio ar eich rhan, ar yr amod bod yr unigolyn hwnnw wedi cofrestru i bleidleisio a'i fod yn fath o etholiad y mae ganddo hawl i bleidleisio ynddi.

     

    Pleidleisiwr Drwy Ddirprwy Drwy’r Post

    Os hoffech chi benodi rhywun i bleidleisio ar eich rhan ond mae’r person hwnnw’n byw'r tu allan i'r ardal, neu os nad oes modd iddo gyrraedd yr orsaf bleidleisio, gallwch chi wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy drwy'r post.

    Caiff eich papur(au) pleidleisio eu hanfon at gyfeiriad y dirprwy a bydd y dirprwy wedyn yn gallu llenwi'ch papur(au) pleidleisio fel pleidlais post arferol.

     

    Os hoffech wneud cais i fod yn bleidleisiwr post, yn ddirprwy neu'n ddirprwy drwy'r post, ewch i'n tudalen Cais ac Ildio drwy glicio'r botwm isod:

     

    Ffurflenni Cais

     

  • Beth sy'n digwydd os na allaf ysgrifennu fy llofnod ar ffurflen gais i ddod yn bleidleisiwr Post, yn Ddirprwy neu’n Ddirprwy Drwy’r Post?

    Os nad oes modd i chi lofnodi’r ffurflen gais i bleidleisio drwy’r post, drwy ddirprwy, neu drwy ddirprwy a thrwy'r post, gallwn ni gyflwyno eithriad i chi. Bydd hwn yn eich galluogi i bleidleisio heb lofnod.

     

    Eithriad Post

    Bydd hwn yn eich galluogi i bleidleisio drwy'r post heb lofnod.  Rhaid rhoi rheswm dilys, er enghraifft anallu sy'n golygu nad yw'ch llofnod yn gyson, er mwyn gwneud cais am eithriad.

    Os gwnewch chi gais am eithriad post, dim ond eich dyddiad geni y bydd rhaid i chi ei nodi ar gais i bleidleisio drwy'r post a phapur pleidleisio drwy'r post.

     

    Eithriad i Ddirprwy

    Bydd hwn yn galluogi rhywun arall i bleidleisio drwy'r post ar eich rhan heb lofnod.  Rhaid rhoi rheswm dilys, er enghraifft anallu sy'n golygu nad yw'r llofnod yn gyson, er mwyn gwneud cais am eithriad.

    Os gwnewch chi gais am eithriad i ddirprwy, dim ond eich dyddiad geni y bydd raid i chi ei nodi ar y ffurflen gais.

     

    Os hoffech wneud cais i fod yn bleidleisiwr post, yn ddirprwy neu'n ddirprwy drwy'r post, ewch i'n tudalen Cais ac Eithriad drwy glicio'r botwm isod:

     

    Ffurflenni Cais

  • A all Gweision y goron a staff y Cyngor Prydeinig sy’n gweithio dramor wneud cais o dramor?

    Gallan, cân nhw bleidleisio ym mhob etholiad.

     

    Bydd angen Ffurflen Cofrestru Pleidleisiwr arnyn nhw yn benodol ar gyfer Gweision y Goron a staff y Cyngor Prydeinig a bydd rhaid iddyn nhw ei hanfon i’r Swyddfa Cofrestru Etholiadol leol gyda manylion am y cyfeiriad lle y bydden nhw’n byw pe na baen nhw dramor ar y pryd.

     

    Mae modd iddyn nhw ddewis i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy.

    Anfonir pleidleisiau drwy’r post tua 14 diwrnod cyn etholiad.  Bydd angen iddyn nhw ystyried p'un a yw hynny'n gadael digon amser i gwblhau'r ffurflen a'i hanfon yn ôl.

    Efallai y byddai’n well iddyn nhw benodi dirprwy i bleidleisio ar eu rhan.

     

    Cysylltwch â Swyddfa Cofrestru Etholiadol Bro Morgannwg i ofyn am Ffurflen Cofrestru Pleidleisiwr:

     

    Cysylltu â Ni