Cost of Living Support Icon

Hygyrchedd yn yr Orsaf Bleidleisio 

 

Dylai'r broses bleidleisio fod yn hygyrch i bob pleidleisiwr.  Rydym yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth i bleidleiswyr sydd ag anableddau i'w galluogi i bleidleisio'n annibynnol neu gyda chymorth. 

 

Dyma rai o'r ffyrdd rydyn ni'n gwneud hyn: 

 

  • Mae gorsafoedd pleidleisio yn hygyrch i gadeiriau olwyn, a darperir rampiau lle bo angen.

  • Bwth pleidleisio ar lefel wedi'i addasu ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.

  • Fersiynau print bras o bapurau pleidleisio i'w gweld.

  • Dyfais Bleidleisio Gyffyrddadwy, i alluogi pleidleiswyr dall i farcio eu papurau pleidleisio yn annibynnol.

  • Chwyddwydr Papur Pleidleisio, er mwyn galluogi etholwr i chwyddo unrhyw ran o'r papur pleidleisio.

  • Gefeiliau pensil i’w rhoi ar feiros neu bensiliau wrth farcio papur pleidleisio.

  • Staff gorsaf bleidleisio cyfeillgar a chymwynasgar a fydd yn gwneud addasiadau rhesymol lle bo hynny'n bosib.

  • Darparu parcio anabl lle bo modd.

  • Goleuadau digonol yn yr orsaf a'r tu allan iddi.

  • Canllaw i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio wedi ei gymeradwyo gan Makaton.

 

P'un a ydych chi'n berson ifanc, yn berson ag anabledd neu'n ddinesydd tramor cymwys. Gallwch ddod o hyd i fideo byr i weddu i'ch anghenion ar ein tudalen Sut i Bleidleisio.

 

Sut i Bleidleisio 

 

Sylwer ar ôl Mai 2023 y bydd gofyn i bleidleiswyr ddarparu cerdyn adnabod ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio mewn etholiadau i San Steffan ac etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru.

 

Mwy o wybodaeth am ID Pleidleiswyr

 

Os nad ydych am fynd eich hun i bleidleisio, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy. Gellir lawrlwytho ffurflenni cais o'n gwefan neu drwy gysylltu â ni ar 01446 729552.

 

Lawrlwythwch Ffurflen Gais 

 

 

Cefnogaeth yn yr Orsaf Bleidleisio 

Os ydych yn bleidleiswyr gydag anabledd neu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i gwblhau papur pleidleisio ar eich pen eich hun, gallwch fynd â ffrind neu berthynas i'r orsaf bleidleisio i'ch helpu. Bydd staff ein gorsafoedd pleidleisio hefyd ar gael ac yn gallu'ch helpu.

 

Yr hyn y gall pobl eraill ei wneud:

  • Eich cynorthwyo chi i symud o amgylch yr orsaf bleidleisio

  • Darllen enwau a phartïon yr ymgeiswyr ar y papur pleidleisio yn ôl eu trefn

  • Esbonio’r opsiynau pleidleisio i chi

  • Defnyddiwch eu gwybodaeth ynghylch eich dulliau cyfathrebu chi i ddeall dros bwy rydych chi am bleidleisio

  • Dod i mewn i'r bwth pleidleisio gyda chi

  • Marcio’r papur pleidleisio ar eich rhan gyda’ch caniatâd chi

 

 

Yr hyn na all pobl eraill ei wneud: 

  • Penderfynu drosoch chi ynghylch pwy sydd i gael eich pleidlais

  • Marcio’r papur pleidleisio yn groes i’ch dymuniadau

  • Stopio chi rhag pleidleisio oherwydd bod gennych anabledd neu bod angen cymorth ychwanegol arnoch

 

 

Angen Cymorth Ychwanegol

Rhowch wybod i staff yr orsaf bleidleisio os oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnoch i allu arfer eich hawl i bleidleisio. 

 

Er enghraifft, os oes angen:

  • Rhywun i ddarllen enwau’r ymgeiswyr ar y papur pleidleisio

  • Rhywun i ddangos papur pleidleisio print bras i chi

  • I ddefnyddio'r Ddyfais Bleidleisio Gyffyrddadwy

  • I ddefnyddio chwyddwydr

  • I ddefnyddio gefel bensil

  • I allu darllen gwefusau

  • Rhywun all helpu i farcio'r papur pleidleisio gyda'ch penderfyniad - unai rhywun sydd wedi dod gyda chi neu staff yr orsaf bleidleisio

  • I'ch cynorthwyo i symud o amgylch yr orsaf bleidleisio

 

Adrodd am Fater Hygyrchedd 

Os gwelwch broblem hygyrchedd mewn gorsaf bleidleisio, rhowch wybod am hyn i'r Gwasanaethau Etholiadol electoralregistration@valeofglamorgan.gov.uk neu ffoniwch 01446 729552. 

 

 

Cysylltwch â ni