Cost of Living Support Icon

Y Gofrestr Etholwyr

Mae'r Gofrestr Etholwyr yn rhestr o bobl, yn byw ym Mro Morgannwg, sydd wedi'u cofrestru i bleidleisio mewn etholiad. Os nad ydych ar y gofrestr yna ni chewch bleidleisio.

  • Beth yw buddion bod ar y Gofrestr Etholwyr?

    Y buddion yw: 
    • Cewch ddewis pleidleisio neu beidio mewn etholiad neu refferendwm.   
    • Gall asiantaethau cardiau credyd gadarnhau eich cyfeiriad er mwyn cymeradwyo morgais, benthyciad neu geisiadau am gredyd.
    • Gellir galw arnoch chi i wneud Gwasanaethu Rheithgor.

 

  • Pa fanylion a ddelir ar y gofrestr?

    Mae’r gofrestr yn cynnwys y mathau canlynol o ddata:

    • Enw
    • Cyfeiriad (gan gynnwys enw’r tŷ os oes un)
    • Dosbarth Pleidleisio
    • Rhif Etholwr

 

  • Pwy sy’n defnyddio’r Gofrestr Etholwyr?



    • Staff etholiadol, pleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr a deiliad swyddi etholedig sy’n defnyddio'r gofrestr at bwrpasau etholiadol.
    • Mae eich cyngor lleol a’r Llyfrgell Brydeinig yn cadw copïau y gall unrhyw edrych arnynt o dan oruchwyliaeth.
    • Mae'r Comisiwn Etholiadol, y Comisiwn Ffiniau (sy’n pennu ffiniau etholaethau ar gyfer y rhan fwyaf o etholiadau) a’r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn cadw copïau hefyd.
    • Gall y cyngor ddefnyddio’r gofrestr ar gyfer dyletswyddau’n ymwneud â diogelwch, gorfodi’r gyfraith ac atal troseddau.
    • Gall yr heddlu a’r gwasanaethau diogelwch ei defnyddio hefyd ar gyfer gorfodi’r gyfraith.
    • Gall asiantaethau cyfeirio credyd brynu'r gofrestru i’w helpu i wirio enwau a chyfeiriadau pobl sy’n gwneud cais am gredyd. Gallan nhw hefyd ei defnyddio i wirio pwy yw pobl pan fyddan nhw'n ceisio atal a dod o hyd i wyngalchu arian.
    Mae’n drosedd i unrhyw roi’r gofrestr ar gael neu ei defnyddio at bwrpasau eraill.

 

  • Sut rwy’n mynd ar y Gofrestr Etholiadol?

    Bydd rhaid ichi gofrestru.

    Ewch i’n tudalennau Sut i Gofrestru drwy glicio’r botwm isod:

      

    Sut i Gofrestru

     

 

  • Pwy sy’n diweddaru’r Gofrestr Etholwyr?

    Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cyflogi tîm o swyddogion i gynnal y gofrestr. Maen nhw’n gweithio yn y Swyddfa Gofrestru Etholwyr (ERO) sydd wedi’i lleoli yn y Swyddfeydd Dinesig yng nghanol y Barri.

     

    Bydd y swyddfa cofrestru etholwyr yn defnyddio’r gofrestr lawn ar gyfer etholiadau a refferenda. Ni chaiff y gofrestr etholwyr ei defnyddio at bwrpasau marchnata.

     

    Mae’n drosedd i’r ERO drosglwyddo’r gofrestr etholwyr i unrhyw un arall i gael ei defnyddio at unrhyw bwrpas arall.

     

    Y Gofrestr Agored

     

     

 

Gaf i weld y Gofrestr Etholwyr?

Mae copi papur o’r Gofrestr Etholwyr ar gael i’r cyhoedd edrych arni yn y Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU o dan oruchwyliaeth rhwng 09:00-16:30 dydd Llun tan ddydd Iau ac o 09:00-16:00 ddydd Gwener.

 

Mae’r gofrestr wedi’i threfnu yn ôl dosbarth pleidleisio ac mae enwau’r etholwyr yn ymddangos yn eu strydoedd yn nhrefn y wyddor.  Gan nad yw’n bosibl chwilio’r gofrestr yn ôl cyfenw mae’n anodd iawn i ddod o hyd i rywun os nad ydych yn gwybod ble mae'n byw ym Mro Morgannwg.

 

Mae copi papur o’r Gofrestr Etholiadol hefyd ar gael i’r cyhoedd yn eich Llyfrgell leol. Mae copïau llyfrgelloedd ond yn cynnwys rhestr Dosbarth Etholiadol yr ardal honno.

 

Caiff copi newydd o'r Gofrestr Etholwyr, ei chreu ar gyfer derbynfa'r Swyddfeydd Dinesig, bob mis Rhagfyr.

 

 

 

 

 

  Sut i Gysylltu â Ni