Cost of Living Support Icon

Cyfleoedd Staff Etholiadau

Rydym wrthi’n adolygu ein cronfa ddata staff ar gyfer etholiadau yn y dyfodol.  

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio mewn etholiadau neu ar gyfer y Tîm Cofrestru Etholiadol yn ystod canfasio, cliciwch y ddolen isod a llenwch y ffurflen Buddiant Staffio Etholiadol. Bydd angen i hyn gael ei gwblhau gan staff newydd sydd â diddordeb a'r rhai sydd wedi gweithio i ni o'r blaen.

 

Os na fyddwch yn llenwi'r ffurflen isod ni fyddwch yn cael eich ychwanegu at y gronfa ddata ac ni fyddwn yn cysylltu â chi i weithio mewn unrhyw etholiadau yn y dyfodol. Llenwch y ffurflen cyn gynted â phosibl.

 

Ffurflen Diddordeb Staffio Etholiad

  

Swyddog Cyfrif (Gorsaf Bleidleisio)

 Mae tair blynedd o brofiad fel Clerc Pleidleisiau yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Nodwch mai rhwng 6.30am a 10.30pm fyddai’r oriau gwaith.

 

Clerc Pleidleisiau (Gorsaf Bleidleisio)

Cynorthwyo’r Swyddog Cyfrif gyda dyletswyddau yn yr Orsaf Bleidleisio. Nodwch mai rhwng 6.30am a 10.30pm fyddai’r oriau gwaith.

 

Staff Cyfrif

Gwirio papurau pleidleisio, cyfrif papurau pleidleisio ac unrhyw ddyletswyddau cyfrif eraill yn ôl yr angen. Mae hyn yn cynnwys gwaith dros nos a/neu waith ar y penwythnos.

 

Staff Canfasio

Bydd canfaswyr yn cysylltu'n uniongyrchol â thrigolion. Mae angen i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gynnal canfasiad blynyddol o gyfeiriadau preswyl ym Mro Morgannwg. Diben y canfasiad yw cael gwybod am enwau a chyfeiriadau pobl sydd â hawl i gael eu cofrestru ond nad ydynt wedi’u cofrestru ar hyn o bryd a'r manylion y bobl hynny sydd wedi'u cofrestru ond nad oes ganddynt hawl i gael eu cofrestru.

 

Bydd canfasiad mis Hydref yn digwydd dros 3 wythnos (bydd gan ganfaswyr rywfaint o hyblygrwydd o ran y diwrnodau y byddant yn gweithio arnynt).

 

Yn Ganfasiwr, byddwch yn cael eich talu £1, fesul eiddo. Byddwch hefyd yn cael lwfans tanwydd.

 

Rhaid i ymgeiswyr fodloni’r gofynion canlynol:

  • 18 years of age or over

  • Have access to a vehicle

  • Willing to work anywhere in the Vale

  • Have the right to work (ID checks will be made)

  • Have the ability to use a tablet and our Paticip8 database (training will be provided)

 

 

Os hoffech gael copi PDF neu gopi papur o’r ffurflen neu os oes unrhyw ymholiadau gennych e-bostiwch electionjobs@valeofglamorgan.gov.uk neu ffoniwch Chelsie-Louisa Webber ar: 01446 709570.

 

Erbyn hyn caiff yr holl broses o benodi staff etholiadau ei chwblhau ar-lein, felly sicrhewch eich bod yn rhoi cyfeiriad e-bost dilys gan y caiff yr holl ohebiaeth ei hanfon yn electronig. 

 

Newydd – Datganiad Preifatrwydd Gwasanaethau Etholiadol 

Ar ran y Swyddog Canlyniadau, bydd y Tîm Cofrestru Etholiadol ond yn defnyddio’r wybodaeth a rowch i ni at ddibenion recriwtio etholiadol, mewn cydymffurfiaeth â’n rhwymedigaethau cyfreithiol.  Byddwn yn gofalu am eich gwybodaeth bersonol ac yn dilyn deddfwriaeth diogelu data.  Ni fyddwn yn rhoi gwybodaeth bersonol amdanoch chi nac unrhyw wybodaeth bersonol y gallwch ei darparu am bobl eraill i unrhyw un arall nac i sefydliad arall oni bai bod y gyfraith yn dweud bod yn rhaid i ni wneud hynny neu os cawn ganiatâd gennych chi.  Mae manylion llawn Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Etholiadol yn Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Etholiadol