Adolygiadau
Comisiwn Ffiniau A Democratiaeth Leol Cymru
Arolwg O'r Trefniadau Cymunedol Ar Gyfer Bro Morgannwg
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru wrthi’n cynnal adolygiad o drefniadau cymunedol ar gyfer Bro Morgannwg. Ymhlith y materion y bydd y Comisiwn yn eu hystyried yw ffiniau'r wardiau cymunedol a chymunedau presennol ac unrhyw newidiadau canlyniadol sy'n ofynnol i drefniadau etholiadol y cymunedau hynny.
Gellir dod o hyd i'r cynigion drafft ar wefan y Comisiwn: Bro Morgannwg - Cynigion Drafft | CFfDLC (llyw.cymru)
Mae rhagor o wybodaeth am yr adolygiad a gwaith y Comisiwn ar gael ar wefan y Comisiwn: www.cffdl.llyw.cymru.
Bydd y cyfnod ymgynghori rhwng 5 Medi 2023 a 30 Hydref 2023. Yn ystod y cyfnod hwn, gall unrhyw un gyflwyno ei sylwadau ei hunan.
Gellir anfon unrhyw sylwadau ar y cynigion drafft at:
Y Prif Weithredwr
Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Tŷ Hastings
Llys Fitzalan
Caerdydd
CF24 0BL
Neu drwy e-bost i: consultations@boundaries.cymru
dim hwyrach na 30 Hydref 2023.
Comisiwn Ffiniau i Gymru 2023 - Arolwg Etholaethau Seneddol
Gellir dod o hyd i Arolwg y Comisiwn Ffiniau i Gymru drwy glicio ar y ddolen ganlynol:
comffin-cymru.gov.uk
Mae’r Comisiwn Ffiniau i Gymru wedi cyhoeddi ei Gynigion Terfynol ar gyfer etholaethau seneddol newydd Cymru.
Mae’r adroddiad Cynigion Terfynol, ynghyd ag Adroddiad y Comisiynwyr Cynorthwyol ar gael ar wefan y Comisiwn Ffiniau i Gymru:
Adolygiad Seneddol 2023 - Argymhellion Terfynol
Gellir gweld copi caled o'r mapiau sy'n ymwneud â'r adolygiad hwn yn y Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri a hefyd yn Llyfrgell y Barri a Phenarth.