Cost of Living Support Icon

 

 

Hysbysiad am Gyfarfod      CYFARFOD BLYNYDDOL CYNGOR BRO MORGANNWG

 

Dyddiad ac amser

y Cyfarfod                         MERCHER, 9 MAI, 2018 AM 6.05 P.M.

 

Lleoliad                             SIAMBR Y CYNGOR, Y SWYDDFEYDD DINESIG

 

GOFYNNIR I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD.

OFFRYMIR Y GWEDDÏAU AM 6.00 P.M.

 

 

Agenda

 

** Bydd y Maer sy’n ymddeol yn cadeirio nes bod y Maer newydd yn cael ei ethol yn ffurfiol. Cyflwynir Trefn gyflawn y Digwyddiadau yn ystod y cyfarfod.

 

RHAN 1

 

1.      Ymddiheuriadau am absenoldebau.

 

2.      (a)          Clywed cofrestr yr aelodau.

(b)          Derbyn datganiadau o ddiddordeb.

((Noder: Gofynnir i Aelodau sydd angen cyngor ar y mater hwn gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

[Gweld Cofnod]

 

3.      Ethol Maer ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd i ddod yn unol â darpariaethau Adrannau 22 a 23 Deddf Llywodraeth Leol 1972. **

[Gweld Cofnod]

 

4.      Penodi Dirprwy Faer ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd i ddod yn unol â darpariaeth Adran 24 Deddf Llywodraeth Leol 1972.

[Gweld Cofnod]

 

5.      Derbyn cyhoeddiadau gan y Maer neu Bennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau’r Rheolwr Gyfarwyddwr –  

 

6.      Trefniadau Gweithredol: Aelodaeth a Phortffolios Cabinet a Thalu Cyflogau Uwch –

         I nodi statws yr Arweinydd a chael gwybod gan yr Arweinydd beth yw enwau’r Cynghorwyr a ddewiswyd i fod yn Ddirprwy Arweinydd ac yn Aelodau’r Cabinet, ynghyd â’u portffolios a, pan fo’n berthnasol, enwebiadau ar gyfer “Llefarwyr”. (N.B. Ceir manylion taliadau arfaethedig Uwch Gyflogau yn yr adroddiad hefyd.)

 

Bydd unrhyw newidiadau mewn aelodaeth pwyllgorau mewn perthynas ag Eitemau 7 a 8 yr Agenda isod, fel y'u hysbysir gan Arweinyddion Grwpiau, yn cael eu dosbarthu i'r Aelodau ymlaen llaw neu eu cyflwyno yn y cyfarfod.

[Gweld Cofnod]

 

7.      Trefniadau Anweithredol –

         Penodi Pwyllgorau Craffu ynghyd â’u telerau a phenodi eu haelodaeth ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd i ddod:

         (a)     Craffu (Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol)

         (b)     Craffu (Yr Amgylchedd as Adfywio)

         (c)      Craffu (Cartrefi a Chymunedau)

         (ch)    Craffu (Bwy Yn Iach a Gofal Cymdeithasol)

         (d)     Craffu (Dysgu a Diwylliant).

[Gweld Cofnod]

        

Pwyllgorau Lled-farnwrol a Chyrff Eraill –

8.      Penodi’r cyrff isod ynghyd â’u telerau a phenodi eu haelodaeth am y flwyddyn ddinesig sydd i ddod:

[Gweld Cofnod]

        

Pwyllgorau Lled-farnwrol

(a)     Y Pwyllgor Cynllunio

(b)     Is-bwyllgor Hawliau Tramwy Cyhoeddus

(c)     Pwyllgor Statudol Trwyddedu

(ch)   Pwyllgor Trwyddedu Diogelu’r Cyhoedd

(d)     Pwyllgor Apeliadau

(dd)   Pwyllgor Archwilio

(e)     Pwyllgor Safonau

(f)      Panel Penodi Pwyllgor Safonau

(ff)     Pwyllgor Penodi Pwyllgor Safonau

(g)     Pwyllgor Adolygu Taliadau Tai Dewisol.

 

Pwyllgorau / Is-bwyllgorau / Panelau

(ng)   Pwyllgor Archwilio

(h)     Pwyllgor Cydlynu Cymunedol

(i)      Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

(l)      Is-bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

(ll)     Pwyllgor Ymddeol yn Gynnar / Diswyddiadau

(m)    Panel Trafod Ymgynghorol ar y Cyd

(n)     Pwyllgor Penodi Uwch Reolwyr

(o)     Pwyllgor yr Ymddiriedolaeth

(p)     Cyd-bwyllgor Cydlynu’r Sector Wirfoddol

(ph)   Pwyllgor Deddf Ystadau Eglwysi Cymru

(r)     Penodi Llywodraethwyr ALl – Panel Ymgynghorol.

 

Cyrff Eraill (Yn cynnwys Cyrff ar y Cyd)

(rh)   Grŵp Ymgynghorol Arfordir Treftadaeth Morgannwg

(s)     Panel Trafod Ymgynghorol Cydraddoldeb

(t)     Cyd-bwyllgor Consortiwm Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Canolog a De

Mae Model Rheolaeth y Consortiwm yn cynnwys Cyd-bwyllgor symlach, sy’n cynnwys nifer lai o Arweinwyr neu gynrychiolwyr a enwebwyd. Mae pob Awdurdod Lleol cyfansoddol yn penodi un Aelod, ac (yn unol â’r Model Cenedlaethol), yr Arweinydd neu ddirprwy a enwebwyd dylai hwn fod.  Cynrychiolydd presennol y Cyngor yw Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant.

 

9.    Cyd-bwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: Aelodaeth a Phenodi Dirprwyon –       

         

Mae’r Cytundeb Cydweithio yn galluogi bob un o’r tri Awdurdod perthnasol i benodi eilyddion ar gyfer y ddau Aelod a enwyd ganddynt.  Cynrychiolwyr blaenorol y cyngor oedd yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Rheoleiddio a Chyfreithiol, Rheoliadol a Hamdden a Chadeirydd Pwyllgor Trwyddedu a Diogelu’r Cyhoedd. Yr Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdogaethau a Thrafnidiaeth ac Iechyd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu a Diogelu’r Cyhoedd oedd yr eilyddion ar gyfer yr Aelod Cabinet y Gwasanaethau Rheoleiddio a Chyfreithiol, Rheoliadol a Hamdden a Chadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu.

 

10.    Nodi dyddiadau cyfarfodydd cyffredin y Cyngor i’w cynnal yn y flwyddyn ddinesig sydd i ddod:

 

18 Gorffennaf 2018

26 Medi 2018

12 Rhagfyr 2018

27 Chwefror 2019

1 Mai 2019.

[Gweld Cofnod]

 

11.    Ethol Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion ar gyfer y Pwyllgorau isod ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd i ddod:

[Gweld Cofnod]

(a)    Cynllunio

(b)    Trwyddedu Statudol

(c)     Trwyddedu Diogelu’r Cyhoedd

(ch)   Apeliadau

(d)    Cydlynu Cymunedol

(dd)  Ymddiriedolaeth

(e)    Deddf Ystadau Eglwysi Cymru

(f)      Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

(ff)     Archwilio

(g)    Adolygu Taliadau Tai Dewisol

(ng)  Ymddeol yn Gynnar / Diswyddiadau

(h)     Penodi Uwch Reolwyr

(i)      Cyd-bwyllgor Cydlynu’r Sector Wirfoddol

(l)      Arfordir Treftadaeth Morgannwg – Cynghorol.

 

Gweler yr atodiad sydd ynghlwm sy’n nodi pam nad yw pwyllgorau penodol wedi eu cynnwys yn y rhestr uchod.

 

12.    Unrhyw fater arall brys ym marn y Maer (Rhan I).

 

RHAN II

 

GELLIR GWAHARDD Y CYHOEDD A’R WASG O’R CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETHAU AR Y MATER(ION) SY’N DILYN, YN UNOL AG ADRAN 100A(4) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

13.    Unrhyw fater brys ym marn y Maer (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Rheolwr Gyfarwyddwr

 

2 Mai 2018

 

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg

 

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985

Archwilio papurau’r cefndir: dylid cyfeirio ymholiadau cychwynnol at Mr. J. Wyatt Rhif ffôn: Y Barri (01446) 709408.

 

 

Dosbarthu: I Holl Aelodau’r Cyngor.