Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL.

 

Hysbysiad am Gyfarfod  CYFARFOD BLYNYDDOL CYNGOR BRO MORGANNWG

 

Dyddiad ac amser

y Cyfarfod                     DYDD LLUN, 10 MAI 2021 AM 6.05 P.M.

 

Lleoliad                        CYFARFOD O BELL

 

GOFYNNIR I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD.

OFFRYMIR Y GWEDDÏAU AM 6.00 P.M.

 

Agenda

 

** Bydd y Maer sy’n ymddeol yn cadeirio nes bod y Maer newydd yn cael ei ethol yn ffurfiol. Cyflwynir Trefn gyflawn y Digwyddiadau yn ystod y cyfarfod.

 

RHAN 1

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldebau.

[Gweld Cofnod]

 

2.         (a)        Clywed cofrestr yr aelodau.

            (b)       Derbyn datganiadau o ddiddordeb.

(Noder: Gofynnir i Aelodau sydd angen cyngor ar y mater hwn gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

[Gweld Cofnod]

 

3.         Ethol Maer ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd i ddod yn unol â darpariaethau Adrannau 22 a 23 Deddf Llywodraeth Leol 1972. **

[Gweld Cofnod]

 

4.         Penodi Dirprwy Faer ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd i ddod yn unol â darpariaeth Adran 24 Deddf Llywodraeth Leol 1972.

[Gweld Cofnod]

 

5.         Derbyn cyhoeddiadau gan y Maer neu Bennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig.

[Gweld Cofnod]


Adroddiadau’r Rheolwr Gyfarwyddwr –  

 

6.         Trefniadau Gweithredol –

(i)         Aelodaeth y Cabinet a Phortffolios

            I nodi statws yr Arweinydd a chael gwybod gan yr Arweinydd beth yw enwau’r Cynghorwyr a ddewiswyd i fod yn Ddirprwy Arweinydd ac yn Aelodau’r Cabinet, ynghyd â’u portffolios a, pan fo’n berthnasol, enwebiadau ar gyfer “Llefarwyr”. (N.B. Ceir manylion taliadau arfaethedig Uwch Gyflogau yn yr adroddiad hefyd.)

[Gweld Cofnod]

 

Bydd unrhyw newidiadau mewn aelodaeth pwyllgorau mewn perthynas ag Eitemau 7 a 8 yr Agenda isod, fel y'u hysbysir gan Arweinyddion Grwpiau, yn cael eu dosbarthu i'r Aelodau ymlaen llaw neu eu cyflwyno yn y cyfarfod.

 

7.         Trefniadau Anweithredol –

            Penodi Pwyllgorau Craffu ynghyd â’u telerau a phenodi eu haelodaeth ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd i ddod:  [Gweld Gwybodaeth Atodol]

            (a)       Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol

            (b)       Pwyllgor Craffu’r Amgylchedd ac Adfywio

            (c)        Pwyllgor Craffu Byw’n Iach a Gofal Cymdeithasol

            (ch)     Pwyllgor Craffu Tai a Chymunedau Diogel

            (d)       Pwyllgor Craffu Dysgu a Diwylliant.

[Gweld Cofnod]

 

Pwyllgorau Lled-Farnwrol A Chyrff Eraill –

8.         Penodi’r cyrff isod ynghyd â’u telerau a phenodi eu haelodaeth am y flwyddyn ddinesig sydd i ddod (Atodiad C):  [Gweld Gwybodaeth Atodol]

[Gweld Cofnod]

        

Pwyllgorau Lled-farnwrol flwyddyn dinesig

(a)   Pwyllgor Apeliadau     

(b)   Pwyllgor Adolygu Taliadau Tai Disgresiynol    

(c)   Pwyllgor Ymchwilio   

(ch) Pwyllgor Cynllunio

(d)  Is-bwyllgor Hawliau Tramwy Cyhoeddus

(dd) Pwyllgor Trwyddedu Diogelu’r Cyhoedd

(e)  Pwyllgor Statudol Trwyddedu

(f)   Pwyllgor Safonau

(ff)  Pwyllgor Penodi Pwyllgor Safonau.

 

Pwyllgorau / Is-bwyllgorau / Panelau

(g)   Penodi Llywodraethwyr ALl – Panel Ymgynghorol.   

(ng) Pwyllgor Cyswllt Cymunedol

(h)   Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

(i)    Is-bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

(l)    Pwyllgor Ymddeol yn Gynnar / Diswyddiadau

(ll)   Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

(m)  Fforwm Ymgynghorol ar y Cyd  

(n)  Pwyllgor Penodi Uwch Reolwyr 

(o)  Panel Penodi Pwyllgor Safonau  

(p)  Pwyllgor yr Ymddiriedolaeth

(ph) Cydbwyllgor Cyswllt y Sector Wirfoddol

(r)  Pwyllgor Deddf Ystad yr Eglwys yng Nghymru

 

Cyrff Eraill (Yn cynnwys Cyrff ar y Cyd)

(rh)  Fforwm Ymgynghorol Cydraddoldebau

(s)    Grŵp Cynghorol Arfordir Treftadaeth Morgannwg.

 

(t)         Cydbwyllgor Gwasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De –  

Mae Model Rheolaeth y Consortiwm yn cynnwys Cydbwyllgor symlach, sy’n cynnwys nifer lai o Arweinwyr neu gynrychiolwyr a enwebwyd. Mae pob Awdurdod Lleol cyfansoddol yn penodi un Aelod, ac (yn unol â’r Model Cenedlaethol), dylai hwn fod  yr Arweinydd neu ddirprwy a enwebwyd.  Cynrychiolydd presennol y Cyngor yw’r Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant.

 

(th)      Cyd-bwyllgor y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: Aelodaeth a Phenodi Dirprwyon –

Mae’r Cytundeb Cydweithio yn galluogi bob un o’r tri Awdurdod perthnasol i benodi eilyddion ar gyfer y ddau Aelod a enwyd ganddynt.  Cynrychiolwyr presennol y cyngor  yw’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoleiddio a Chynllunio  a Chadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu Diogelu’r Cyhoedd. Yr Aelod Cabinet dros  Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu a Diogelu’r Cyhoedd oedd yr eilyddion ar gyfer yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol, Rheoleiddio a Chynllunio a Chadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu Diogelu’r Cyhoedd yn y drefn honno.

           

(u)       Y Cwmni Arlwyo Big Fresh (Cwmni Masnachu Awdurdodau Lleol) –  [Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio] – Pwyllgor sy'n cynnwys Rheolwr Gyfarwyddwr y Cyngor yn rhinwedd ei swydd fel Cyfarwyddwr Adnoddau ac Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio a fydd yn cynrychioli'r Cyngor fel y cyfranddaliwr y cwmni a phwy fydd yn cael ei gynghori gan Banel Cynghori Cyfranddalwyr, sy'n cynnwys Swyddogion y Cyngor.

 

9.         Nodi dyddiadau cyfarfodydd cyffredin y Cyngor i’w cynnal yn y flwyddyn ddinesig sydd i ddod –

[Gweld Cofnod]

 

26 Gorffennaf

20 Medi 2020

6 Rhagfyr 2020

7 Mawrth 2021

25 Ebrill 2021.

 

 

10.      Ethol Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion ar gyfer y Pwyllgorau isod ar gyfer y flwyddyn ddinesig sydd i ddod:

[Gweld Cofnod]

 

(a)    Apeliadau

(b)    Cyswllt Cymunedol

(c)    Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

(ch)  Adolygu Taliadau Tai Disgresiynol

(d)   Ymddeol yn Gynnar / Diswyddiadau

(dd) Arfordir Treftadaeth Morgannwg – Cynghorol

(e)   Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

(f)   Cynllunio

(ff)  Trwyddedu Diogelu’r Cyhoedd

(g)  Penodi Uwch Reolwyr

(ng) Trwyddedu Statudol

(h)  Ymddiriedolaeth

(i)   Cydbwyllgor Cyswllt y Sector Wirfoddol

(l)   Deddf Ystad yr Eglwys yng Nghymru.

 

Gweler yr atodiad sydd ynghlwm sy’n nodi pam nad yw pwyllgorau penodol wedi eu cynnwys yn y rhestr uchod.

 

11.      Unrhyw fater arall brys ym marn y Maer (Rhan I).

 

RHAN II

 

GELLIR GWAHARDD Y CYHOEDD A’R WASG O’R CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETHAU AR Y MATER(ION) SY’N DILYN, YN UNOL AG ADRAN 100A(4) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

12.      Unrhyw fater brys ym marn y Maer (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Rheolwr Gyfarwyddwr

 

4 Mai 2021

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985

Archwilio papurau’r cefndir: dylid cyfeirio ymholiadau cychwynnol at Mr. J. Rees Rhif ffôn: Y Barri (01446) 709413

 

Dosbarthu: I Holl Aelodau’r Cyngor.

 

SYLWCH: Oherwydd y cyfyngiadau cyfredol a'r gofyniad i bellhau cymdeithasol ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Cyfarfod rhithwir fydd hwn a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor a Swyddogion i gefnogi eitemau’r agenda.