GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.
ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL
 
Hysbysiad o’r Cyfarfod     CABINET 
 
Dyddiad ac Amser
y Cyfarfod                       DYDD IAU, 6 TACHWEDD, 2025 AM 2.00 PM 
 
Lleoliad                           CYFARFOD HYBRID
 
AGENDA
 
RHAN I 
 
1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.
 
2.         Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Hydref, 2025.
 
3.        Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad a Cyngor.
(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)
 
Adroddiad y Cyfarfod –
4.         Fforwm Ymgynghorol ar y Cyd – 22 Medi 2025.
 
Adroddiadau'r Arweinydd Gweithredol ac Aelod y Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau –
5.        Diweddariad ar Fentrau Cydweithio Strategol.
6.        Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol ac Adroddiad Archwilio Cymru - Dim amser i'w golli: Gwersi o'n gwaith o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
7.        Diweddariad Blynyddol Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2025.
 
Adroddiad y Dirprwy Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros Lefydd Cynaliadwy –
8.        Porth Gorllewinol Canol Tref y Barri – Diweddariad.
 
Adroddiad yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg –
9.        Diweddariad ar Raglen Gyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar 2025-28.
 
Adroddiadau'r Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â'r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol –
10.      Cynllun Datblygu Lleol Newydd Bro Morganwg (CDLlN) 2021-2036 – Adroddiad Ymgynghori ar Dwf Tai yn y Barri.
11.      Adroddiad Cynnydd Blynyddol Rheoli Ansawdd Aer Lleol 2025.
 
12.      Unrhyw eitemau y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu sy’n rhai brys (Rhan I).
 
RHAN II
 
EFALLAI Y GWAHERDDIR Y CYHOEDD A'R WASG O’R CYFARFOD TRA YR YSTYRIR YR EITEM/EITEMAU CANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972. 
 
13.       Unrhyw eitemau y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu sy’n rhai brys (Rhan II).
 
 
Rob Thomas
Prif Weithredwr
 
31 Hydref, 2025
 
Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English
 
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 -
Archwilio papurau cefndirol:
Yn y lle cyntaf, dylid gwneud ymholiadau i
M. Swindell Ffôn: 01446 709479.
E‑bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk
 
I Aelodau’r Cabinet – 
Y Cynghorydd L. Burnett (Arweinydd Gweithredol ac Aelod Cabinet dros Berfformiad ac Adnoddau)
Y Cynghorydd B.E. Brooks (Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Lefydd Cynaliadwy)
Y Cynghorydd R.M. Birch (Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a’r Gymraeg)
Y Cynghorydd G. John (Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles)
Y Cynghorydd S.D. Perkes (Aelod Cabinet dros Dai Sector Cyhoeddus a Chynnwys Tenantiaid)
Y Cynghorydd S. Sivagnanam (Aelod Cabinet dros Ymgysylltu â’r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoleiddiol)
Y Cynghorydd E. Williams (Aelod Cabinet dros Gofal Cymdeithasol ac Iechyd)
Y Cynghorydd M.R. Wilson (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu)
 
SYLWCH: Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.
 
Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.
 
Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.
 
Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.
 
Cyfarfodydd a gynhelir o Bell
 
Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig i gael mynediad / mynychu cyfarfod o bell, trwy ddefnyddio dyfais y Cyngor a rhwydwaith Lupus y Cyngor wneud hynny, ond gofynnir iddynt hysbysu’r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod. Yn enwedig pan fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal gyda'r nos, fel y gellir hysbysu diogelwch yr adeilad a nodi ystafell gyfarfod briodol.
 
Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri,  yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.
 
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709479
 
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx