Cost of Living Support Icon

 

 GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

 

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

Hysbysiad o Gyfarfod    PWYLLGOR CYSWLLT CYMUNEDOL

 

Dyddiad ac amser

y Cyfarfod                    DYDD IAU, 14 GORFFENNAF, 2022 AM 6.00 P.M.

 

Lleoliad                        CYFARFOD O BELL

 

Agenda

 

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

[Gweld Cofnod]

 

2.         Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr, 2022.

[Gweld Cofnod]

 

3.         Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.

            (Noder:Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]

 

4.         Cyflwyniad –

            Cyflwyniad i’r Pwyllgor Cyswllt Cymunedol.

[Gweld Cofnod]

 

5.         Materion Heddlu.

[Gweld Cofnod]

 

6.         Cais am Ystyriaeth gan Gyngor Cymuned Llangan –

            Gwybodaeth mewn adroddiadau trosedd a adroddwyd gan yr Heddlu i Gynghorau Cymuned.

[Gweld Cofnod]

 

7.         Materion Gwasanaeth Tân ac Achub.

[Gweld Cofnod]

 

8.         Cyflwyniad –

            Gwasanaeth Tȃn ac Achub De Cymru – Ymosodiadau Criw Gwasanaeth Cyhoeddus: Graddfa ac Ymateb.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad y Prif Weithredwr –

9.         Enwebu Cynrychiolwyr o Gynghorau Tref a Chymuned ar gyfer y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, Cydbwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a Phanel Gwerthuso’r Gronfa Cymunedau Cryf.

[Gweld Cofnod]

 

10.       Cais am Ystyriaeth gan Gyngor San Nicolas a Thresimwn –

            Arian A106.

[Gweld Cofnod]

 

11.       Cais am Ystyried gan Gyngor Tref Llanilltud Fawr –

            Gorchmynion Cadw Coed.

[Gweld Cofnod]

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

7 Gorffennaf, 2022

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985.  

Arolygu papurau cefndir – yn yr achos cyntaf dylid ymholi

A. Rudman: (01446) 709855

e-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I holl Aelodau’r Pwyllgor Cyswllt Cymunedol -

Cadeirydd: Cynghorydd S.M. Hanks;

Is-gadeirydd: Cynghorydd M.R. Wilson;

Y Cynghorwyr: A. Asbrey, J. Aviet, R.M. Birch, S. Campbell, C.A. Cave, S.J. Haines, N.P. Hodges, J. Lynch-Wilson, H.M. Payne, S.D. Perkes ac R.R. Thomas.

 

a Chynrychiolwyr Cynghorau Tref a Chymuned

 

SYLWCH: Mae’r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd.  Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu’n barhaus yn seiliedig ar ganllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac wrth wneud hynny yn ystyried asesiadau risg perthnasol.  Ni chynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn eu lleoliad arferol hyd nes y clywir yn wahanol.  Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor, swyddogion perthnasol ac unrhyw ‘partïon â diddordeb’  sydd wedi cofrestru i siarad lle bo’n briodol.  Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu ffrydio’n fyw a’u recordio i’w darlledu wedyn drwy wefan gyhoeddus y Cyngor.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu ffrydio’n fyw, ac eithrio lle mae materion Rhan II yn cael eu hystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol ac yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor, sydd i’w weld yn https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/_Committee%20Reports/Remote-Procedures-COVID-19/Multi-Location-Meetings-Policy-WELSH.pdf.  Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk neu ffôn 01446 709855.

 

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx