MAE’R DDOGFEN HON AR GAEL YN SAESNEG
THIS DOCUMENT IS AVAILABLE IN ENGLISH
Hysbysiad o Gyfarfod: PWYLLGOR CYSWLLT CYMUNEDOL
Dyddiad ac amser
y Cyfarfod: DYDD IAU, 2 GORFFENNAF, 2026 AM 6.00 P.M.
Math / Lleoliad: HYBRID, SIAMBR Y CYNGOR, Y BARRI
Agenda
RHAN I
1. Ymddiheuriadau am absenoldeb.
2. Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad y Cyngor.
(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)
3. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar Dydd Iau, 22 Ionawr, 2026.
4. Gwasanaeth Heddlu De Cymru – Diweddariad Llafar
Arolygydd Huw Tyler – Huw.Tyler2@south-wales.police.uk
5. Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru – Diweddariad Llafar
Rheolwr Grŵp Evans – ms-evans@southwales-fire.gov.uk
6. Diweddariad Bwrdd y Gwasanaeth Cyhoeddus gan Gynrychiolydd Bwrdd y Gwasanaeth Cyhoeddus Cyngor Tref a Chymuned –
Y Cynghorydd Phil Summers (Cyngor Cymuned Penllyn) – psummers@valeofglamorgan.gov.uk
Cyfeiriad –
7. Adolygiad o Ffyrdd o Weithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned ym Mro Morganwg – Cabinet: 25 Mehefin, 2026. (Cyfeiriad i Ddilyn)
8. Cyflwyniad – Cais am Ystyriaeth – Cyngor Cymuned Penllyn: Atgyweiriadau, Gwelliannau a Chynnal a Chadw Priffyrdd.
Rob Thomas
Prif Weithredwr
26 Mehefin, 2026
Os oes angen cymorth arnoch i arsylwi'r cyfarfod a/neu gael mynediad at unrhyw eitemau ar yr agenda, gan gynnwys papurau cefndir, neu'r agenda mewn fformat neu iaith arall, cysylltwch â'r Swyddog Gwasanaethau Democrataidd canlynol:
Amy Rudman (Ffôn: 01446 709855]).
E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk
I Holl Aelodau’r Pwyllgor Cyswllt Cymunedol
Cadeirydd: Cynghorydd R.M. Birch;
Is-gadeirydd: Cynghorydd M.R. Wilson;
Y Cynghorwyr: A. Asbrey, C. Campbell, C.A. Cave, W. Gilligan, S.J. Haines, S.M. Hanks, N.P. Hodges, J. Lynch-Wilson, H.M. Payne, S.D. Perkes ac R.R. Thomas
a Chynrychiolwyr Cynghorau Tref a Chymuned