Cost of Living Support Icon

 

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

Hysbysiad o Gyfarfod  Y CYNGOR

 

Dyddiad ac amser       DYDD LLUN, 29 GORFFENNAF 2019 AM 6.05 P.M.

y Cyfarfod                     

 

Lleoliad                    SIAMBR Y CYNGOR, SWYDDFEYDD DINESIG

 

GOFYNNWYD I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD. 

GWEDDÏWN AM 6.00 P.M.

 

Agenda

 

RHAN 1

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

[Gweld Cofnod]

 

2.         (a)       Clywed rhestr yr aelodau.

            (b)       Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.

(Noder:Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]

 

3.         Cymeradwyo cofnodion –

            (i)         Y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mai, 2019;

            (ii)        Y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ar 20 Mai, 2019.

[Gweld Cofnod]

 

4.         Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Phennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.

[Gweld Cofnod]

 

5.         Ystyried yr Hysbysiad o Gynnig Canlynol [a gyflwynwyd gan  y Cynghorwyr L. Burnett (Dirprwy Arweinydd) a N. Moore (Arweinydd)] –

[Gweld Cofnod

            Mae’r Cyngor hyn yn cydnabod yr ‘Adroddiad Arbennig ar Gynhesu Byd-Eang gydag 1.5°C’ gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (PRhNH), (Hydref, 2018) a ganfu’r canlynol:

 

  • Mae cynhesu byd-eang gan ddwylo dyn eisoes wedi arwain at newidiadau niferus sy’n amlwg yn y system hinsawdd, gan gynnwys cyfnodau amlach o dywydd poeth iawn yn ym mwyafrif yr ardaloedd yn y tir, cyfnodau hirach ac amlach o dywydd poeth iawn mewn ardaloedd morol, a chynnydd yn amlder, dwysedd a/neu faint law trwm ar raddfa fyd-eang.

  • Cyrhaeddodd cynhesu byd-eang tua 1°C yn uwch na'r lefelau cyn y chwyldro diwydiannol yn 2017, ac mae'n debyg y bydd yn cyrraedd 1.5°C rhwng 2030 a 2052.

  • Bydd cynnydd o 1.5°C yn arwain at nifer o effeithiau negyddol gan gynnwys cynnydd yn amlder, dwysedd a/neu faint glaw trwm mewn sawl ardal, a diflanna ran fwyaf (70-90%) y greigresi cwrel dŵr cynnes (trofannol) sydd heddiw.

  • Bydd cynnydd ychwanegol hyd at 2°C yn arwain at niwed llawer mwy difrifol, gan gynnwys risg uwch o brinder dŵr mewn rhai ardaloedd a thywydd eithafol mwy rheolaidd, cyfnodau syched, llifogydd, lefel y môr yn codi’n gyflymach, cnydau’n methu ac ecosystemau tir a morol yn cael eu dinistrio a cholli 99% o’r creigresi cwrel trofannol.

  • Gyda’r strategaethau presennol, mae'r byd ar drywydd mynd heibio terfyn uchaf o 1.5°C yng Nghytundeb Paris ar Gonfensiwn Fframwaith y CU ar Newid yn yr Hinsawdd yn cael ei groesi cyn 2050 a bydd yn mynd dros 3°C erbyn 2100.

  • Gallai fod yn bosibl o hyd cyfyngu cynhesu byd-eang i 1.5°C trwy gymryd camau gweithredu uchelgeisiol gan lywodraethau lleol a chenedlaethol, sefydliadau a busnesau, a'r bobl leol a'u cymunedau.

Mae’r Cyngor yn nodi ymhellach:

 

  • Ymrwymiad y weinyddiaeth i gyflawni’r Nodau Llesiant sydd yn y Cynllun Corfforaethol ‘Cymunedau Cryf gyda Dyfodol Disglair’ a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a gwneud cynnydd ar fentrau sy’n cefnogi’r Cynllun Rheoli Carbon presennol. 

  • Gall cymryd camau cadarn i leihau’r allyrron carbon hefyd ddod â budd o ran swyddi newydd, arbedion economaidd a chyfleoedd masnach. 

Mae’r Cyngor hwn felly yn penderfynu’r canlynol:

 

  1. Ymuno â Llywodraeth Cymru a chynghorau eraill ledled y DU i ddatgan ‘argyfwng hinsawdd’ byd-eang mewn ymateb i ganfyddiadau adroddiad PRhNH.

  2. Lleihau ei allyriadau ei hun i swm net o ddim cyn targed Llywodraeth Cymru, sef 2030, a chefnogi gweithredu Cynllun Cyflawni Carbon Isel newydd Llywodraeth Cymru, er mwyn helpu i wireddu uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer sector Cyhoeddus carbon niwtral yng Nghymru.

  3. Cyflwyno sylwadau yn ôl yr angen i Lywodraeth Cymru a’r DU, i ddarparu’r pwerau, adnoddau a chymorth technegol mae eu hangen ar awdurdodau lleol yng Nghymru i’w helpu i gyrraedd targed 2030 yn llwyddiannus.

  4. Parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws y rhanbarth i ddatblygu dulliau arfer gorau a’u rhoi ar waith er mwyn cyflawni gostyngiadau carbon a helpu i gyfyngu ar y cynhesu byd-eang.

  5. Gweithio gyda rhanddeiliaid lleol gan gynnwys Cynghorwyr, trigolion, pobl ifanc, busnesau a phartïon eraill perthnasol i ddatblygu strategaeth yn unol â’r targed ar gyfer cyrraedd dim allyrron erbyn 2030 ac edrych ar ffyrdd o sicrhau’r buddion lleol gorau posibl o ganlyniad i’r camau hyn mewn sectorau eraill megis cyflogaeth, iechyd, amaethyddiaeth, trafnidiaeth a'r economi.

6.         Ystyried yr Hysbysiad o Gynnig Canlynol [a gyflwynwyd gan  y Cynghorwyr V.J. Bailey a V.P. Driscoll –

[Gweld Cofnod

Cyngor Bro Morgannwg:

 

-           Yn gresynu wrth gynigion y Cabinet i gyflwyno taliadau parcio ceir ledled y Fro;

-           Yn nodi'r effaith ddinistriol y byddai'r cynigion - fel y'u drafftiwyd ar hyn o bryd - yn ei chael ar Strydoedd Uchel ledled y Fro, ac ar fasnach yn Ynys y Barri;

-           Yn galw ar y Weinyddiaeth newydd i ddileu'r taliadau arfaethedig, ac i gymeradwyo argymhellion trawsbleidiol y ddau brif Bwyllgor Craffu.

 

7.         Ystyried yr Hysbysiad o Gynnig Canlynol [a gyflwynwyd gan  y Cynghorwyr A.R.T. Davies a G.C. Kemp –

[Gweld Cofnod

Cyngor Bro Morgannwg:

 

-           Yn gresynu wrth y penderfyniad i symud Ysgol Gynradd Llancarfan o'i safle presennol;

-           Yn nodi addewidion etholiad y Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol i gefnogi'r pentref yn ei frwydr i gadw Ysgol Llancarfan yn Llancarfan;

-           Yn galw ar y weinyddiaeth Lafur newydd i wrthdroi'r penderfyniad, a gwneud cais i Lywodraeth Cymru am gyllid o dan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif i uwchraddio'r ddwy ysgol bresennol yn y Rhws a Llancarfan.

 

Cyfeiriad –

8.         Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd - Dirprwy Bwyllgor Enwebedig y Pwyllgor Craffu: Pwyllgor Craffu’r Amgylchedd Ac Adfywio – 25 Mehefin, 2019.

[Gweld Cofnod]

 

9.         Ystyried y canlyniad(au) canlynol gan y Weithrediaeth o ran Fframwaith Polisi a Chyllideb y Cyngor

 

Eitem

Dyddiad y Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)       Adroddiad Rheolwyr y Trysorlys 2018/19

[Gweld Cofnod]

15 Gorffennaf, 2019

C34

(a)       Cynigion ar gyfer Cynllun Datblygu Strategol (CDY) ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

[Gweld Cofnod]

15 Gorffennaf, 2019

C44

(c)        Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru – Adolygiad o Drefniadau Etholiadol Bro Morgannwg

[Gweld Cofnod]

15 Gorffennaf, 2019

C45

 

O.N.  Mae’r adroddiadau y cyfeirir atynt parthed Eitemau Agenda 9(a) i (c) uchod eisoes wedi eu dosbarthu i Aelodau gydag Agenda’r Cabinet ar gyfer 15 Gorffennaf, 2019. 

 

**Mae rhagor o gopïau ar gael gan Swyddfa Gwasanaethau Democrataidd yn ôl y gofyn**. 

 

10.      I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 14.14 y Cyfansoddiad.

 

Eitem

Dyddiad y Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)       Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – Diweddariad Band B

[Gweld Cofnod]

15 Gorffennaf, 2019

C39(5)

(b)       Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru – Adolygiad o Drefniadau Etholiadol Bro Morgannwg

[Gweld Cofnod]

15 Gorffennaf, 2019

C45(3)

 

11.      I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.18.2 – 4.18.7 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg). 

[Gweld Cofnod]

 

12.      Cwestiynau gan y cyhoedd –    

           Derbyniwyd 7 chwestiwn.

[Gweld Cofnod]

 

13.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

14.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Rheolwr Gyfarwyddwr

 

23 Gorffennaf, 2019

 

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -

Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi Mr. J. Rees, Ffôn: Y Barri (01446) 709413

E-bost: JERees@valeofglamorgan.gov.uk

 

Dosbarthu:  I Holl Aelodau’r Cyngor.

 

 

Noder:Cofiwch bod rhai cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu darlledu, cewch wybod ar lafar os bydd y cyfarfod yr ydych chi ynddo yn cael ei ddarlledu.   Os bydd yn cael ei ddarlledu, mae’n golygu eich bod chi’n cael eich recordio’n weledol ac o ran sain a bydd hynny ar gael ar y rhyngrwyd.  Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn.Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am hyn, cysylltwch â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd o fewn oriau swyddfa. 

Rhif Ffôn (01446) 709413 neu drwy

e-bost – jerees@valeofglamorgan.gov.uk