Cost of Living Support Icon

 GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

Hysbysiad o Gyfarfod   Y CYNGOR

 

Dyddiad ac amser        DYDD LLUN, 28 EBRILL, 2025 AM 6.05 P.M.

y Cyfarfod              

 

Lleoliad                     CYFARFOD HYBRID

 

GOFYNNIR I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD.

BYDD EILIAD O FYFYRIO AM 6.00 P.M.

 

Agenda

 

RHAN 1

 

1.       Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.       (a)      Clywed rhestr yr aelodau.

          (b)      Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad y Cyngor.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

 

3.       Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 10 Mawrth, 2025.

 

4.       Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Prif Weithredwr a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.

 

5.       Cwestiynau gan y Cyhoedd –   

          Mae 1 cwestiwn wedi dod i law.

 

6.       Ystyried y canlyniad(au) canlynol gan y Weithrediaeth o ran Fframwaith Polisi a Chyllideb y Cyngor –   

 

Eitem

Dyddiad y Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)      Argymhellion Archwilio Cymru ar gyfer Llywodraethu’r Gwasanaeth Cynllunio – Protocol Cynllunio, Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Cynllunio, a’r Cynllun Dirprwyo diwygiedig

10 Ebrill, 2025

C310

(b)      Ail-lunio Craffu (2 – 5)

10 Ebrill, 2025

C314

 

O.N.   Mae’r adroddiadau sy’n destun y cyfeiriadau mewn perthynas ag Eitemau Agenda 11(a) – (b) uchod eisoes wedi’u dosbarthu i’r Aelodau gydag rhaglenni'r Cabinet ar gyfer y dyddiadau a nodir uchod.

 

***Mae rhagor o gopïau ar gael gan Swyddfa Gwasanaethau Democrataidd yn ôl y gofyn**. 

 

Adroddiad y Swyddog Monitro / Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd –

7.       Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor.

 

8.       Enwebu Maer Etholedig a Dirprwy Faer Etholedig ar gyfer Blwyddyn Gyngor 2025/26.

 

9.       I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 15.14 y Cyfansoddiad.

 

Eitem

Dyddiad y

Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)      Strategaeth Gyfalaf a Rhaglen Fuddsoddi 2025/26 i 2029/30 (5)

6 Mawrth, 2025

C281

(b)      Strategaeth Rheoli Trysorlys a Buddsoddi 2025/26 a Diweddariad ar gyfer 2024/25 (7)

6 Mawrth, 2025

C282

(c)      Cyllideb Refeniw Ddrafft 2025/26 a Chynllun Ariannol Tymor Canolig 2025/26 i 2029/30 (9)

6 Mawrth, 2025

C283

(d)      Y Fro 2030 - Cynllun Corfforaethol Drafft Bro Morgannwg 2025-30 (4)

6 Mawrth, 2025

C284

(e)      Adnewyddu Contractau Gofal Plant a Gomisiynir gan Dechrau'n Deg (4)

20 Mawrth, 2025

C301

(f)       Canolfan Gymunedol Belle Vue – Parhad Trefniadau Rheoli Dros Dro (5)

20 Mawrth, 2025

C303

(g)      Ail-lunio Craffu (6)

10 Ebrill, 2025

C314

(h)      Cytundeb Fframwaith ar gyfer Contractwyr Addasu i'r Anabl (3)

10 Ebrill, 2025

C319

 

10.     Ystyried y Rhybudd o Gynnig a ganlyn [a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Dr. I.J. Johnson a M.J. Hooper] –

 

Gwrthwynebiad i Doriadau Arfaethedig Gan Lywodraeth Y Du i Daliadau Annibyniaeth Bersonol (DAB)

 

Mae'r Cyngor hwn yn nodi'r toriadau arfaethedig gan Lywodraeth y DU i Daliadau Annibyniaeth Bersonol (DAB).

 

Mae'r Cyngor yn cydnabod bod DAB yn fudd-dâl a delir i ddiwallu'r anghenion cynyddol sy'n gysylltiedig ag anabledd, y bydd newidiadau cymhwysedd arfaethedig yn golygu y bydd llawer o dderbynwyr presennol (a darpar dderbynwyr yn y dyfodol) yn colli allan, bod pobl anabl yn fwy tebygol o fod mewn tlodi na phobl nad ydynt yn anabl a bod gan Gymru'r gyfran uchaf o hawlwyr DAB.

 

Mae'r Cyngor yn cydnabod ymhellach bwysigrwydd trechu tlodi fel rhan graidd o Gynllun Corfforaethol Bro 2030 a bod y cynigion hyn gan Lywodraeth y DU yn tanseilio ein gwaith i leihau tlodi yn ein cymunedau.

 

Mae'r Cyngor felly yn gwrthwynebu'r toriadau hyn a bydd yn ysgrifennu at y Prif Weinidog, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau a'r Prif Weinidog i wneud yn glir ein gwrthwynebiad i'r cynigion hyn.

 

11.     Ystyried y Rhybudd o Gynnig a ganlyn [a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr C. Stallard ac E.J. Goodjohn] –

 

Gwaharddiad Gwirfoddol ar Werthu a Defnyddio "Flying Rings" ledled Bro Morgannwg

 

Mae'r Cyngor hwn yn cydnabod bod y teganau plastig "Flying Rings", sy’n cael eu gwerthu at ddefnydd hamdden ar draethau yn bennaf, yn achosi niwed diangen i famaliaid morol, yn benodol morloi, pan fyddant yn cael eu gwaredu.

 

Mae'r Cyngor hwn yn nodi nad yw frisbis "solet" traddodiadol yn cyflwyno'r un bygythiad am nad ydynt yn gallu mynd yn sownd o amgylch gyddfau'r anifeiliaid; mae rhai siopau ym Mro Morgannwg yn ogystal â rhai siopau cadwyn eisoes wedi penderfynu rhoi'r gorau i werthu "Flying Rings".

 

Mae'r Cyngor hwn yn cymeradwyo Awdurdodau Lleol eraill am fabwysiadu Gwaharddiad Gwirfoddol tebyg.

 

Mae'r Cyngor hwn hefyd yn nodi bod llygredd plastig yn fater byd-eang ac mae unrhyw gamau i leihau llygredd plastig yn gadarnhaol: nid yw plastig yn ein moroedd yn diflannu. 

 

Mae’r Cyngor hwn felly yn penderfynu’r canlynol:

 

  1. Hyrwyddo Gwaharddiad Gwirfoddol ar werthu "Flying Rings", gan annog siopau i werthu dewisiadau amgen yn lle hynny ac atal y defnydd o "Flying Rings".
  2. Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a'r DU i gefnogi'r gwaharddiad.
  3.  Hyrwyddo'r ymgyrch trwy ei sianeli cyfryngau fel bod y cyhoedd ac ymwelwyr â'n harfordir hefyd yn cefnogi'r cam gweithredu.

 

 

12.     I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.19.2 – 4.19.9 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg). 

 

13.     Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

14.     Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

4 Mawrth, 2025

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -

Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi J. Langridge-Thomas, Ffôn: Y Barri (01446) 709457

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk 

 

Dosbarthu:  I Holl Aelodau’r Cyngor.

 

SYLWCH:

 

Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â  Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor arDPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig i gael mynediad / mynychu cyfarfod o bell, trwy ddefnyddio dyfais y Cyngor a rhwydwaith Lupus y Cyngor wneud hynny, ond gofynnir iddynt hysbysu’r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod. Yn enwedig pan fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal gyda'r nos, fel y gellir hysbysu diogelwch yr adeilad a nodi ystafell gyfarfod briodol.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709457

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx