GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL
ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL
Hysbysiad o Gyfarfod Y CYNGOR
Dyddiad ac amser DYDD LLUN, 29 MEDI, 2025 AM 6.05 P.M.
y Cyfarfod
Lleoliad CYFARFOD HYBRID
GOFYNNIR I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD.
BYDD EILIAD O FYFYRIO AM 6.00 P.M.
Agenda
RHAN I
1. Ymddiheuriadau am absenoldeb.
2. Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad y Cyngor.
(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)
3. Cymeradwyo Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf, 2025.
4. Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Prif Weithredwr a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.
5. Cwestiynau gan y Cyhoedd –
Mae 6 cwestiwn wedi dod i law.
Cyfeiriadau –
6. Adroddiad Blynyddol Drafft y Pwyllgor Safonau – Pwyllgor Safonau: 17 Gorffennaf, 2025.
7. Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2024/25 – Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio: 21 Gorffennaf, 2025.
Adroddiad Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol –
8. Adroddiad Blynyddol y Pwyllgorau Craffu 2024/25.
Adroddiadau'r Swyddog Monitro / Pennaeth Cyfreithiol a Democrataidd –
9. Cais i gywiro'r Gofrestr Tir Comin.
10. Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor.
11. Ystyried y canlyniad(au) canlynol gan y Weithrediaeth o ran Fframwaith Polisi a Chyllideb y Cyngor –
O.N. Mae'r adroddiad sy'n destun y cyfeiriad mewn perthynas ag Eitem Agenda 11(a) uchod eisoes wedi'i ddosbarthu i'r Aelodau gydag agenda'r Cabinet ar gyfer y dyddiad a nodir uchod.
***Mae rhagor o gopïau ar gael gan Swyddfa Gwasanaethau Democrataidd yn ôl y gofyn**.
12. I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 15.14 y Cyfansoddiad.
13. Ystyried y Rhybudd o Gynnig a ganlyn [a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr G.D.D. Carroll a J.E. Charles] –
Mae Cyngor Bro Morgannwg
- Yn difaru penderfyniad cynghorwyr Llafur, Plaid Cymru a Llanilltud yn Gyntaf i ddynodi'r Fro yn Sir Noddfa i geiswyr lloches;
- Yn cydnabod bod mudo anghyfreithlon yn rhoi pwysau enfawr ar wasanaethau cyhoeddus ac yn peryglu ein cymunedau oherwydd troseddu;
- Yn nodi bod y Cyngor wedi ymuno â Rhwydwaith Awdurdodau Lleol City of Sanctuary UK, sefydliad sydd wedi condemnio mesurau i ddiogelu ein ffiniau;
- Yn condemnio menter “Ysgolion Noddfa” cwbl amhriodol City of Sanctuary UK, lle gofynnwyd i blant mor ifanc â phump oed i ysgrifennu cardiau Sant Ffolant at geiswyr lloches;
- Yn galw ar y Cabinet i dorri holl gysylltiadau'r Awdurdod â City of Sanctuary UK a diddymu statws Sir Noddfa y Fro.
14. I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.19.2 – 4.19.9 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg).
15. Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).
RHAN II
GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.
16. Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).
Rob Thomas
Prif Weithredwr
23 Medi, 2025
Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -
Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi J. Langridge-Thomas, Ffôn: Y Barri (01446) 709457
E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk
Dosbarthu: I Holl Aelodau’r Cyngor.
SYLWCH:
Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.
Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.
Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd. Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol. Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/. Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor arDPO@Valeofglamorgan.gov.uk.
Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein. Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.
Cyfarfodydd a gynhelir o Bell
Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig i gael mynediad / mynychu cyfarfod o bell, trwy ddefnyddio dyfais y Cyngor a rhwydwaith Lupus y Cyngor wneud hynny, ond gofynnir iddynt hysbysu’r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod. Yn enwedig pan fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal gyda'r nos, fel y gellir hysbysu diogelwch yr adeilad a nodi ystafell gyfarfod briodol.
Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk neu ffôn. 01446 709457
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx