Cost of Living Support Icon

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

Hysbysiad o Gyfarfod    Y CYNGOR

 

Dyddiad ac amser         DYDD LLUN, 1 RHAGFYR, 2025 AM 6.05 P.M.

y Cyfarfod             

 

Lleoliad                         CYFARFOD HYBRID

 

GOFYNNIR I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD.

BYDD EILIAD O FYFYRIO AM 6.00 P.M.

 

Agenda

 

RHAN I

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.         Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad y Cyngor.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

 

3.         Cymeradwyo Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar:

(i)        29 Medi, 2025;

(ii)       3 Tachwedd, 2025 (Arbennig).

 

4.         Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Prif Weithredwr a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.

 

5.         Cwestiynau gan y Cyhoedd –    

            Mae 1 cwestiwn wedi dod i law.

 

Cyfeiriadau –

6.        Adroddiad Blynyddol Drafft y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2024/25 – Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio: 15 Medi, 2025.

7.         Datganiad Cyfrifon wedi'i Archwilio 2024/25.

            – Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio: 20 Tachwedd, 2025.

 

 

8.      Ystyried y canlyniad(au) canlynol gan y Weithrediaeth o ran Fframwaith Polisi a Chyllideb y Cyngor –   

 

Item

Date of

Meeting

Minute No.

(a)      Adolygiad o Ddatganiad o Egwyddorion Deddf Hapchwarae 2025 – 2025-2028

2 Hydref, 2025

C103

(b)      Drafft Terfynol Hunanasesiad Blynyddol Cyngor Bro Morganwg 2024/25 (3)

2 Hydref, 2025

C104

(c)       Cynllun Datblygu Lleol Newydd Bro Morganwg (RLDP) 2021-2036 – Adroddiad Ymgynghori ar Dwf Tai yn y Barri (3)

6 Tachwedd, 2025

C134

(d)      Adroddiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2025/26 (1 & 2)

20 Tachwedd, 2025

C143

(e)      Adolygiad o Gynllun Deisebau Cyngor Bro Morganwg (1)

20 Tachwedd, 2025

C146

 

O.N.    Mae'r adroddiad sy'n destun y cyfeiriad mewn perthynas ag Eitem Agenda 8(a) – (e) uchod eisoes wedi'i ddosbarthu i'r Aelodau gydag agenda'r Cabinet ar gyfer y dyddiad a nodir uchod.

 

***Mae rhagor o gopïau ar gael gan Swyddfa Gwasanaethau Democrataidd yn ôl y gofyn**. 

 

9.         I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 15.14 y Cyfansoddiad.

 

Item

Date of

Meeting

Minute No.

(a)          Cynllun Datblygu Lleol Newydd Bro Morganwg (RLDP) 2021-2036 – Adroddiad Ymgynghori ar Dwf Tai yn y Barri (2)

6 Tachwedd, 2025

C134

(b)          Adolygiad o Gynllun Deisebau Cyngor Bro Morganwg (3)

20 Tachwedd, 2025

C146

 

10.      Ystyried y Rhybudd o Gynnig a ganlyn [Wedi'i gyflwyno gan y Cynghorwyr L. Burnett ac E. Goodjohn] –

 

Diwrnod y Rhuban Gwyn – Trais ar sail Rhywedd

 

Mae’r Cyngor hwn yn nodi:

  • Cynhaliwyd gwylnos ar Gwrt Blaen y Swyddfa Ddinesig ar 21 Tachwedd 2025 i gydnabod Diwrnod y Rhuban Gwyn 2025 a Diwrnod y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod.
  • Arwyddocâd yr 16 Diwrnod o Weithredu canlynol yn codi ymwybyddiaeth am drais ar sail rhywedd yn erbyn menywod a merched, a phwysigrwydd blaenoriaethu atal sylfaenol i atal trais rhag digwydd yn y lle cyntaf.

 

Mae'r Cyngor yn nodi ymhellach:

  • Y rôl hanfodol rydyn ni, fel rhai sy'n gwneud penderfyniadau, yn ei chwarae wrth lunio a gweithredu polisïau sy'n blaenoriaethu atal trais ar sail rhywedd a helpu i greu cymdeithas fwy cyfartal lle gall pob unigolyn, waeth beth fo'u rhywedd, fyw'n rhydd heb ofn trais.

 

Mae'r Cyngor yn cydnabod:

  • Yr angen parhaus i fynd i'r afael ag ac atal trais ar sail rhywedd, a'r angen i ymgysylltu â dynion a bechgyn ledled cymdeithas. Mae hyn yn cynnwys mewn addysg, mewn gweithleoedd, cymunedau ac ar-lein.

 

Mae'r Cyngor yn credu

  • Bod gan bob menyw a merch yr hawl i fyw yn rhydd rhag trais, ofn a dychryn.
  • Mae mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn gofyn am atal, addysg, ymyrraeth gynnar, a gwasanaethau arbenigol wedi'u hariannu'n briodol.

Felly mae'r Cyngor yn penderfynu

  • Mabwysiadu dull dim goddefgarwch tuag at drais ar sail rhywedd ar draws pob polisi a man cyhoeddus a:
  • Chryfhau hyfforddiant fel y gall staff adnabod ac ymateb i gam-drin a rheolaeth drwy orfodaeth.
  • Cefnogi addysg ar gydsyniad, perthynas iach a chydraddoldeb rhywiol. Sicrhau llwybrau adrodd diogel a hygyrch.
  • Galwad am gyllid cenedlaethol cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau cymorth Trais yn Erbyn Menywod a Merched (TYEMM).
  • Adnewyddu achrediad Rhuban Gwyn i ddangos ymrwymiad i newid cadarnhaol, cefnogi cydraddoldeb rhywiol a rhoi terfyn ar drais ar sail rhywedd. 

 

 

11.      I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.19.2 – 4.19.9 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg). 

 

12.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

13.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

25 Tachwedd, 2025

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -

Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi J. Langridge-Thomas, Ffôn: Y Barri (01446) 709457

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk 

 

Dosbarthu:  I Holl Aelodau’r Cyngor.

 

SYLWCH:

 

Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â  Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor arDPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig i gael mynediad / mynychu cyfarfod o bell, trwy ddefnyddio dyfais y Cyngor a rhwydwaith Lupus y Cyngor wneud hynny, ond gofynnir iddynt hysbysu’r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod. Yn enwedig pan fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal gyda'r nos, fel y gellir hysbysu diogelwch yr adeilad a nodi ystafell gyfarfod briodol.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709457

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx