Cost of Living Support Icon

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

Hysbysiad o Gyfarfod     Y CYNGOR

 

Dyddiad ac amser          DYDD LLUN, 14 GORFFENNAF, 2025 AM 6.05 P.M.

y Cyfarfod             

 

Lleoliad                         CYFARFOD HYBRID

 

GOFYNNIR I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD.

BYDD EILIAD O FYFYRIO AM 6.00 P.M.

 

Agenda

 

RHAN I

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.         Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad y Cyngor.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

 

3.         Cymeradwyo cofnodion:

(a)       y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Ebrill, 2025; a

(b)       y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ar 7 Mai, 2025.

 

4.         Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Prif Weithredwr a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.

 

5.         Cwestiynau gan y Cyhoedd –    

            Mae 5 cwestiwn wedi dod i law.

 

6.         Cyfeirnod –

Adolygiad o Drefniadau Etholiadol Bro Morganwg – Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru - Pwyllgor Cyswllt Cymunedol: 1 Gorffennaf, 2025. 

 

7.      Ystyried y canlyniad(au) canlynol gan y Weithrediaeth o ran Fframwaith Polisi a Chyllideb y Cyngor –   

 

Eitem

Dyddiad y

Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)      Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2024/25.

1 Mai, 2025

C331

 

O.N.    Mae'r adroddiad sy'n destun y cyfeiriad mewn perthynas ag Eitem Agenda 7(a) uchod eisoes wedi'i ddosbarthu i'r Aelodau gydag rhaglenni’r Cabinet ar gyfer y dyddiad a nodir uchod.

 

***Mae rhagor o gopïau ar gael gan Swyddfa Gwasanaethau Democrataidd yn ôl y gofyn**. 

 

8.         I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 15.14 y Cyfansoddiad.

 

Eitem

Dyddiad y

Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)       Diweddariad ar y Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu – Sant Richard Gwyn (2)

1 Mai, 2025

C331

(b)       Ail-lunio Gwasanaethau – Asedau a Chyfleoedd ar gyfer Consesiynau (6)

22 Mai, 2025

C9

(c)        Five Mile Lane – Estyn Contract Asiant Tir a Diwygiadau i'r Rhaglen Gyfalaf (Rhan I) (4)

5 Mehefin, 2025

C16

(d)       Five Mile Lane – Estyn Contract Asiant Tir a Diwygiadau i'r Rhaglen Gyfalaf (Rhan II) (4)

5 Mehefin, 2025

C18

 

9.         Ystyried y Rhybudd o Gynnig a ganlyn [a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr G.D.D. Carroll ac R.R. Thomas] –

 

Parc Dŵr Cosmeston

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg:

  • Yn mynegi pryder mawr am benderfyniad Gweinyddiaeth Lafur-Llanilltud yn Gyntaf yr Awdurdod i agor parc dŵr yn Llynnoedd Cosmeston;
  • Yn cydnabod bod Cosmeston yn lleoliad tawel, heddychlon, gwledig sydd o dan fygythiad gan ddatblygiad o'r fath;
  • Yn condemnio ymosodiadau annerbyniol Arweinydd y Cyngor ar ymgyrchwyr yn erbyn y datblygiad ac yn galw arni i ymddiheuro am awgrymu eu bod yn euog o ledaenu "rwtsh maleisus".

10.      I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.19.2 – 4.19.9 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg). 

 

11.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

12.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

8 Gorffennaf, 2025

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -

Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi J. Langridge-Thomas, Ffôn: Y Barri (01446) 709457

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk 

 

Dosbarthu:  I Holl Aelodau’r Cyngor.

 

SYLWCH:

 

Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â  Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor arDPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig i gael mynediad / mynychu cyfarfod o bell, trwy ddefnyddio dyfais y Cyngor a rhwydwaith Lupus y Cyngor wneud hynny, ond gofynnir iddynt hysbysu’r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod. Yn enwedig pan fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal gyda'r nos, fel y gellir hysbysu diogelwch yr adeilad a nodi ystafell gyfarfod briodol.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709457

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx