Cost of Living Support Icon

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY, AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

Hysbysiad o Gyfarfod                     PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO

 

Dyddiad ac amser y Cyfarfod         DYDD LLUN, 21 GORFFENNAF, 2025 AM 6.00 PM

 

Lleoliad                                         CYFARFOD HYBRID

 

 

Agenda

 

RHAN I

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.         Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mehefin, 2025.

 

3.         Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad y Cyngor.

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

 

Cyfeiriadau –

4.        Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2024/25 – Cabinet: 3 Gorffennaf, 2025.

5.        Hunanasesiad Blynyddol Cyngor Bro Morganwg 2024-25 – Cabinet: 3 Gorffennaf, 2025.

 

Adroddiadau'r Swyddog Monitro/Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd –

6.        Adolygiad Canol Blwyddyn o'r Polisi Chwythu'r Chwiban a Digwyddiadau a Adroddwyd.

7.       Trefniadau Adrodd ar gyfer Cyfarfodydd y Pwyllgor ar y Cyd.

 

Adroddiadau Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol

8.        Gofal Brys ac Achosion Brys: Llif allan o'r Ysbyty - Rhanbarth Caerdydd a'r Fro.

9.        Cyngor Bro Morganwg: Adolygiad o Drefniadau ar gyfer Comisiynu Gwasanaethau.

10.      Ddiweddariad Ch1: Rhaglen Waith Archwilio Cymru 2025 – Cyngor Bro Morganwg.

11.      Tracio Penderfyniadau a Chamau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Adroddiad y Prif Weithredwr –

12.      Datganiad Cyfrifon Heb ei Archwilio 2024/25.

 

Adroddiadau Pennaeth Cyllid/Swyddog Adran 151 –

13.      Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2024-25.

14.      Diweddariad Cod Rheoli Ariannol 2024-25.

 

Adroddiadau Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol –

15.      Adroddiad Blynyddol ar Dwyll Corfforaethol 2024-25. 

16.      Rhaglen Gwaith Ymlaen 2025/26.

 

17.      Unrhyw eitemau eraill mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn faterion brys (Rhan I).

 

RHAN II

 

MAE’N BOSIBL Y CAIFF Y CYHOEDD A’R WASG EU HEITHRIO O’R CYFARFOD TRA BOD YR EITEM(AU) YN CAEL EU HYSTYRIED YN UNOL AG ADRAN 100a(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

18.       Unrhyw eitemau eraill mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn faterion brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

15 Gorffennaf, 2025

 

 

Mae fersiwn o’r Agenda hwn hefyd ar gael yn Saesneg

 

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985

Archwilio papurau cefndirol:

Yn yr achos cyntaf, dylid cyfeirio ymholiadau at 

G. Davies, Ffôn: 01446 709249

e-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

At Aelodau’r Pwyllgor Archwilio

Cadeirydd: G. Chapman (Aelod Lleyg);

Is-gadeirydd: N. Ireland (Aelod Lleyg);

Cynghorwyr: G. Ball, E. Goodjohn, M.J. Hooper, J. Protheroe a N.J. Wood (ynghyd ag un swydd wag) a N. Ireland (Aelod Lleyg).

 

 

SYLWCH: Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â  Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig i gael mynediad / mynychu cyfarfod o bell, trwy ddefnyddio dyfais y Cyngor a rhwydwaith Lupus y Cyngor wneud hynny, ond gofynnir iddynt hysbysu’r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod. Yn enwedig pan fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal gyda'r nos, fel y gellir hysbysu diogelwch yr adeilad a nodi ystafell gyfarfod briodol.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709249

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx