Cost of Living Support Icon

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL.

 

Hysbysiad o Gyfarfod    PWYLLGOR CYNLLUNIO

 

Dyddiad ac amser

y Cyfarfod                    DYDD IAU, 19 MAWRTH, 2026 AM 4.00 P.M. 

 

Lleoliad                         CYFARFOD HYBRID

 

                                                                                         

Agenda

 

RHAN I

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.         Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Chwefror, 2026.

 

3.        Derbyn datganiadau o ddiddordeb a natur y fath fuddiannau o dan God Ymddygiad y Cyngor (gan gynnwys datganiadau chwipio).

(Sylwer: Gofynnir i aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro neu’r Gwasanaethau Democrataidd o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod.)

 

DS: Gofynnir i aelodau’r cyhoedd sy’n dymuno siarad ar unrhyw gais Cynllunio isod gofrestru i siarad drwy wefan Cyngor y Fro erbyn 5.00 p.m. fan bellaf. ar y Sul cyn dyddiad y cyfarfod ac ystyried Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor a Chyfranogiad y Cyhoedd yng Nghyfarfodydd y Cyngor

 

Adroddiadau’r Pennaeth Datblygu Cynaliadwy –

 

 [Gweld Adroddiadau Cynllunio]

Rhif

Tudalen

4.

Ceisiadau rheoliadau adeiladu a materion rheoli adeiladu eraill a benderfynir gan y cyfarwyddwr o dan bwerau dirprwyedig

1-14

5.

Ceisiadau cynllunio a benderfynwyd gan y cyfarwyddwr o dan bwerau dirprwyedig

15-30

6.

Apeliadau

31-39

7.

Coed:

 

 

(i)

Rhestr Ddirprwyedig

40-41

 

(ii)   

2025/00004/TREE – Coed y Gronfa Ddŵr, rhwng Ffordd Lewis, Llandochau a Ffordd Pen y Turnpike.

42-56

8.

Cais Cynllunio:

57

 

2025/01008/RG3

Tir i’r dwyrain o Dunraven Close, Y Bont-faen (Ysgol newydd arfaethedig – Ysgol Iolo Morganwg)

58-101

 

9.         Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

 

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

10.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

9 Mawrth, 2026

 

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985

Arolygu papurau cefndir – yn yr achos cyntaf dylid ymholi

M.E. Thomas, tel. 01446 709279

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

 

I Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio

Cadeirydd: Cynghorydd N.C. Thomas;

Is-gadeirydd: Cynghorydd M.R. Wilson;

Y Cynghorwyd: J. Aviet, G. Bruce, I.R. Buckley, C.A. Cave, J.E. Charles, C.M. Cowpe, P. Drake, A.M. Ernest, W. Gilligan, N.P. Hodges, Dr. I.J. Johnson, H.M. Payne, I.A.N. Perry, C. Stallard a E. Williams

 

SYLWCH: Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig i gael mynediad / mynychu cyfarfod o bell, trwy ddefnyddio dyfais y Cyngor a rhwydwaith Lupus y Cyngor wneud hynny, ond gofynnir iddynt hysbysu’r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod. Yn enwedig pan fydd y cyfarfod yn cael ei gynnal gyda'r nos, fel y gellir hysbysu diogelwch yr adeilad a nodi ystafell gyfarfod briodol.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb dim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709279

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx