GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.
ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL.
 
Hysbysiad o Gyfarfod     PWYLLGOR CRAFFU PERFFORMIAD AC ADNODDAU CORFFORAETHOL 
 
Dyddiad ac amser          DYDD MERCHER, 13 GORFFENNAF, 2022 AM 6.00 P.M.   
y Cyfarfod                       
 
Lleoliad                          CYFARFOD O BELL
 
Agenda
 
RHAN I
 
1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.
 
2.         Datgan buddiannau (gan gynnwys datganiadau chwipio) dan God Ymarfer y Cyngor.
(Noder: Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).
[Gweld Cofnod]
 
Cyfeiriadau –
3.         Adroddiad Diogelu Corfforaethol Blynyddol: 2021/22 – Cabinet: 9 Mehefin, 2022.
[Gweld Cofnod]
4.         Ymateb Drafft i Ymgynghoriad Canllawiau a Chyfarwyddiadau Statudol Llywodraeth Cymru a wnaed o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 – Cabinet: 23 Mehefin, 2022.
[Gweld Cofnod]
 
Adroddiadau’r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol –
5.         Adroddiad Diweddaru Prosiect Sero.
[Gweld Cofnod]
6.         Monitro Refeniw am y Cyfnod rhwng 1 Ebrill a 31 Mai 2022.
[Gweld Cofnod]
7.         Monitro Cyfalaf am y Cyfnod rhwng 1 Ebrill a 31 Mai 2022.
[Gweld Cofnod]
 
Adroddiad y Prif Weithredwr –
8.         Adroddiad Monitro Cynllun Cyflenwi Blynyddol: Perfformiad Chwarter 4 2021/22.
(Dylai Aelodau roi gwybod i’r Is-adran Gwasanaethau Democrataidd a Chraffu erbyn 12 hanner dydd ar ddiwrnod y cyfarfod a oes angen swyddog i fod yn bresennol at ddibenion Monitro Perfformiad)
[Gweld Cofnod]
 
9.         Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).
 
RHAN II
GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.
 
10.       Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).
 
 
Rob Thomas
Prif Weithredwr
 
6 Gorffennaf, 2022
 
Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg
 
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985. 
Arolygu papurau cefndir – yn yr achos cyntaf dylid ymholi  
M. Thomas, Ffôn: Y Barri (01446) 709279
E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk
 
I Holl Aelodau’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol 
Cadeirydd: Y Cynghorydd J. Protheroe;
Is-gadeirydd: Y Cynghorydd E. Goodjohn;
Y Cynghorwyr: G.D.D. Carroll, P. Drake, C.P. Franks, S.J. Haines, H.C. Hamilton, S.M. Hanks, Dr. I.J. Johnson, B. Loveluck-Edwards ac N.J. Wood
 
SYLWCH:
Mae’r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd.  Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu’n barhaus yn seiliedig ar ganllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac wrth wneud hynny yn ystyried asesiadau risg perthnasol.  Ni chynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn eu lleoliad arferol hyd nes y clywir yn wahanol.  Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor, swyddogion perthnasol ac unrhyw ‘partïon â diddordeb’  sydd wedi cofrestru i siarad lle bo’n briodol.  Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu ffrydio’n fyw a’u recordio i’w darlledu wedyn drwy wefan gyhoeddus y Cyngor.
 
Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu ffrydio’n fyw, ac eithrio lle mae materion Rhan II yn cael eu hystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol ac yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor, sydd i’w weld yn https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/_Committee%20Reports/Remote-Procedures-COVID-19/Multi-Location-Meetings-Policy-WELSH.pdf   Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.
 
Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.
 
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709279.
 
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx