Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL.

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL.

 

 

Hysbysiad o Gyfarfod      PWYLLGOR CRAFFU PERFFORMIAD AC ADNODDAU CORFFORAETHOL

 

Dyddiad ac amser           DYDD MERCHER, 12 HYDREF, 2022 AM 6.00 P.M.   

y Cyfarfod                     

 

Lleoliad                          CYFARFOD O BELL

 

 

Agenda

 

RHAN I

 

1.       Ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.       Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 Mehefin a 13 Gorffennaf, 2022.

[Gweld Cofnod]

 

3.       Datgan buddiannau (gan gynnwys datganiadau chwipio) dan God Ymarfer y Cyngor.

(Noder: Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]

 

Cyfeiriadau –

4.       Cyngor Bro Morgannwg: Calendr Perfformiad Blynyddol 2022/23 – Cabinet: 7 Gorffennaf, 2022.

[Gweld Cofnod]

5.       Cau Cyfrifon 2021/22 – Cabinet: 21 Gorffennaf, 2022.

[Gweld Cofnod]

6.       Cau Cyfrifon Cyfalaf 2021/22 – Cabinet: 21 Gorffennaf, 2022.

[Gweld Cofnod]

7.       Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau Iaith Cymru 2021-22 – Cabinet: 21 Gorffennaf, 2022.

[Gweld Cofnod]

8.       Hunanasesiad Blynyddol drafft Cyngor Bro Morgannwg 2021/22 – Cabinet: 8 Medi, 2022.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiadau’r Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol –

9.       Monitro Refeniw ar gyfer y Cyfnod 1 Ebrill i 31 Awst, 2022.

[Gweld Cofnod]

10.     Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg 2020-21.

[Gweld Cofnod]

11.     Adroddiad Monitro Cynllun Cyflenwi Blynyddol: Perfformiad Chwarter 1 2022/23.

[Gweld Cofnod]

(Dylai Aelodau roi gwybod i’r Is-adran Gwasanaethau Democrataidd a Chraffu erbyn 12 hanner dydd ar ddiwrnod y cyfarfod a oes angen swyddog i fod yn bresennol at ddibenion Monitro Perfformiad)

 

12.     Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

13.     Unrhyw eitemau eraill y mae’r Cadeirydd wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

5 Hydref, 2022

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985. 

Arolygu papurau cefndir – yn yr achos cyntaf dylid ymholi  

M. Thomas, Ffôn: Y Barri (01446) 709279

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk

 

I Holl Aelodau’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol

Cadeirydd: Y Cynghorydd J. Protheroe;

Is-gadeirydd: Y Cynghorydd E. Goodjohn;

Y Cynghorwyr: G.D.D. Carroll, P. Drake, C.P. Franks, S.J. Haines, H.C. Hamilton, S.M. Hanks, Dr. I.J. Johnson, B. Loveluck-Edwards ac N.J. Wood

 

SYLWCH: Mae'r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd. Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu'n gyson yn seiliedig ar ganllawiau sy’n dod i law gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

 

Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor:

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/_Committee%20Reports/Remote-Procedures-COVID-19/Multi-Location-Meetings-Policy-WELSH.pdf   ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor arDPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709249

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx